DAVIES, DAVID THOMAS FFRANGCON (1855 - 1918), datganwr

Enw: David Thomas Ffrangcon Davies
Dyddiad geni: 1855
Dyddiad marw: 1918
Priod: Annie Francis Davies (née Rayner)
Plentyn: Gwen Lucy Ffrangcon-Davies
Plentyn: Marjorie Ffrangcon-Davies
Plentyn: Geoffrey Ffrangcon-Davies
Rhiant: Dafydd Davies
Rhiant: Gwen Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: datganwr
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd ym Mount Pleasant, Bethesda, Arfon, 11 Rhagfyr 1855, mab i Dafydd a Gwen Davies. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Genedlaethol Pontur, Bethesda, yn Ysgol y Friars, Bangor, ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (graddiodd yn 1881). Yn Chwefror 1883 urddwyd ef yn ddiacon yn eglwys Llantysilio; aeth yn gurad i Lanaelhaiarn yn 1884, a Chonwy yn 1885. Cafodd wersi ar ganu'r organ gan y Dr. Roland Rogers yn ystod ei arhosiad yng Nghonwy. Gwnaed cais ato am iddo ymgeisio am y swydd o is-ganon yn eglwys gadeiriol Bangor, ond er siomiant iddo, arall a benodwyd i'r swydd.

Parodd hyn iddo benderfynu mynd ymlaen am yrfa gerddorol a sylweddoli ei freuddwydion o ddod yn ddatganwr. Gwnaeth gais am guradiaeth eglwys S. Mary, Hoxton, Llundain, ac apwyntiwyd ef, a chafodd gydymdeimlad a chynhorthwy y ficer. Ei athro cerddorol oedd William Shakespeare, a oedd hefyd yn awdurdod ar y llais. Yn 1889 priododd Annie Francis Rayner, ac ymwelodd y ddau â chartref Clara Novello Davies yng Nghaerdydd; wedi clywed Ffrangcon Davies yn canu sicrhaodd John Davies, gŵr Clara Novello, ymrwymiadau iddo mewn cyfres o gyngherddau, ac yng Nghaerdydd y dechreuodd ar ei yrfa broffesiynol. Yn 1888 ymunodd â chwmni Carl Rosa a chymerai ran yr herald yn Lohengrin (Wagner). Yn 1890, am y tro cyntaf, cymerodd ran Elias yn yr oratorio yng ngŵyl gerddorol Horringham, Yorkshire. Pregethodd ei bregeth gyntaf ar Elias yng Nghymru, a'r olaf arno yn Lloegr. Gelwid am ei wasanaeth yn holl wyliau cerddorol y deyrnas. Yn 1896 a 1898 aeth ar daith gerddorol i Daleithiau'r America, ac i'r Almaen yn 1898. Ymsefydlodd yn Berlin i ganu a rhoddi gwersi mewn caniadaeth.

Yn 1901 ymwelodd drachefn â'r Unol Daleithiau i ddarlithio ar gerddoriaeth y gwahanol wledydd a chanu yn y prif gyngherddau. Yn 1904 penodwyd ef yn athro yn y Royal Academy of Music, a'r flwyddyn ddilynol dug allan ei lyfr, The Singing of the Future.

Yn 1907 torrodd ei iechyd i lawr, ac aeth i ysbyty Bethlem lle y bu farw 13 Ebrill 1918.

Merch iddo oedd yr actores Gwen Ffrangcon-Davies.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.