ROGERS, ROLAND (1847 - 1927), cerddor

Enw: Roland Rogers
Dyddiad geni: 1847
Dyddiad marw: 1927
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Eisteddfod; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 14 Tachwedd 1847 yn West Bromwich. Yr oedd ei dad yn gerddor da, ac yn chwaraewr ar y ffidil, a chafodd y mab yr addysg orau ganddo. Yn 11 oed apwyntiwyd ef i ganu'r harmonium yn eglwys S. Peter, West Bromwich. Yn 1862, yn 15 oed, penodwyd ef yn organydd eglwys S. John, Wolverhampton, ac yn 1866 yn organydd eglwys y plwyf, Tattenhall. Yn 24 oed (1871) apwyntiwyd ef yn organydd eglwys gadeiriol Bangor. Yn 1870 graddiodd yn Faglor Cerddoriaeth (Mus. Bac.), ac yn 1875 yn Mus. Doc., Rhydychen. Yr oedd yn un o'r organwyr enwocaf, ac arolygodd adeiladu organau mewn ugeiniau o eglwysi a chapeli trwy'r wlad, a rhoddi perfformiad arnynt ar eu hagoriad. Gwnaeth waith mawr fel athro, a bu D. Ffrangcon Davies, William Davies, ac R. S. Hughes yn ddisgyblion iddo. Efe oedd athro cerdd yn y Coleg Cenedlaethol, Bangor, ac ysgol Rydal Mount, Bae Colwyn. Yr oedd yn arweinydd corawl rhagorol, a llwyddodd gyda chôr mawr Bethesda i ennill y wobr dair gwaith yn olynol yn eisteddfodau cenedlaethol Dinbych 1882, Caerdydd 1883, a Lerpwl 1884. Rhannwyd y wobr rhyngddynt â chôr Huddersfield yn eisteddfod genedlaethol Llundain, 1887. Penodwyd ef yn feirniad yn eisteddfod genedlaethol Bangor, 1874, ac ef oedd arweinydd côr eisteddfod Bangor. Yn 1891, oherwydd gwrthwynebiad y deon iddo gymryd rhan yn yr eglwysi Ymneilltuol, ymddiswyddodd o fod yn organydd yr eglwys gadeiriol, a chafodd ei benodi yn organydd eglwys S. James, Bangor. Yn 1902 ail-apwyntiwyd ef yn organydd yr eglwys gadeiriol, a daliodd y swydd tra bu byw. Cyfansoddodd lawer o gerddoriaeth. Enillodd y wobr yn eisteddfod genedlaethol Llandudno ar gyfansoddi cantawd, 'The Garden.' Cantawdau eraill ydoedd 'Out of the Deep,' 'Prayer and Praise,' 'Floribel' (i leisiau merched). Cyfansoddodd hefyd anthemau, cerddoriaeth i'r gwasanaeth eglwysig, a rhanganau. Bu ei anthem 'Duw bydd drugarog,' y rhangan 'The river floweth strong,' a'r 'Y Storm,' yn boblogaidd. Ceir ei anthemau a'i donau yng nghasgliadau tonau yr Eglwys. Ef oedd golygydd y Welsh Psalter ac Emyniadur yr Eglwys. Bu farw 31 Gorffennaf 1927 a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Glanadda, Bangor.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.