HUGHES, RICHARD SAMUEL (1855 - 1893), cerddor

Enw: Richard Samuel Hughes
Dyddiad geni: 1855
Dyddiad marw: 1893
Rhiant: Ann Samuel Hughes
Rhiant: Benjamin Samuel Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 14 Gorffennaf 1855, yn Aberystwyth, mab Benjamin ac Ann Samuel Hughes a gadwai siop nwyddau haearn gyferbyn â chloc y dref. Amlygodd athrylith gerddorol yn blentyn, a gallai ganu'r piano yn 5 mlwydd oed. Yn eisteddfod Aberystwyth, 1865, enillodd ar ganu'r piano, a phroffwydodd Brinley Richards, ' Owain Alaw,' ac ' Ieuan Gwyllt ' y byddai 'yn gerddor enwog.' Yn 1870 aeth i'r Royal Academy, Llundain, am gwrs o addysg, a bu yno am tua blwyddyn a hanner. Dychwelodd i Aberystwyth am ychydig amser, ac aeth am gyfnod i Fangor i gynorthwyo Dr. Roland Rogers, organydd yr eglwys gadeiriol. Aeth yn ôl i Aberystwyth a chyhoeddodd ei gân gyntaf, ' Wyt ti'n cofio'r lloer yn codi,' ac, yn fuan wedyn, ' Y Golomen Wen.' Aeth i Lundain ac arhosodd yno hyd nes y penodwyd ef yn organydd capel Annibynwyr Bethesda, Arfon, yn 1887, lle yr ymsefydlodd yn athro cerdd. Efe oedd y cân-gyfansoddwr mwyaf yn hanner olaf y ganrif ddiwethaf. Cyfansoddodd nifer fawr o ganeuon a fu yn boblogaidd iawn, megis ' The Inchcape Bell,' ' Y Tair Mordaith,' ' Y Dymestl,' ' Llam y Cariadau,' ' Arafa, Don,' a'r deuawdau ' Gwys i'r Gad ' a ' Lle treigla'r Caveri,' a ' Chwech o Ganeuon Gwladgarol.' Bu ei anthem ' Wel, f'enaid, dos ymlaen,' yn boblogaidd, a cheir tonau o'i waith yn y llyfrau tonau. Cyfansoddodd hefyd gantawd, ' Bugeiliaid Bethlehem.' Enillodd yn eisteddfod Wrecsam, 1876, am gyfansoddi pedwarawd llinynnol, ac am ganig i leisiau meibion yn 1888. Yr oedd yn feistr ar ganu'r piano, ac yn gyfeilydd rhagorol. Bu farw 5 Mawrth 1893, a chladdwyd ef ym mynwent Glanogwen, Bethesda.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/