FFRANGCON-DAVIES, GWEN LUCY (1891 - 1992), actores

Enw: Gwen Lucy Ffrangcon-davies
Dyddiad geni: 1891
Dyddiad marw: 1992
Partner: Margaretha van Hulsteyn
Rhiant: Annie Francis Davies (née Rayner)
Rhiant: David Thomas
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: actores
Maes gweithgaredd: Perfformio
Awdur: Nicci Obholzer

Ganwyd Gwen Ffrangcon-Davies ar 25 Ionawr 1891 yng ngogledd Llundain, yr hynaf o dri o blant David Ffrangcon-Davies, mab i oruchwyliwr ffowndri ym Methesda, Sir Gaernarfon, a'i wraig Annie 'Nan' Ffrangcon-Davies (g. Raynor), merch i feddyg o Fanceinion oedd â bwthyn gwyliau yng Nghonwy. Roedd ganddi chwaer, Marjorie (1893-1964), a ddaeth yn gantores, a brawd, Geoffrey (1895-1915), a laddwyd yn y ffosydd yng Ngwlad Belg ym Mai 1915, ddeng mis wedi iddo adael yr ysgol.

Hyfforddodd David Ffrangcon-Davies ar gyfer yr offeiriadaeth ond, wedi iddo symud i Lundain, cychwynnodd ar yrfa fel bariton proffesiynol. Bu'n canu yn America ac Ewrop, ac ymgartrefodd y teulu am rai blynyddoedd ym Merlin, lle dysgodd Gwen Almaeneg. Wrth iddo ddod yn enwog aeth ei ymddygiad yn fwyfwy anwadal. Dioddefodd chwalfa nerfol yn 1907, a bu yn yr ysbyty tan ei farwolaeth yn 1918.

Roedd Annie Ffrangcon-Davies yn Seientiad Cristnogol gweithredol, ac ar ôl i'w gŵr fynd i'r ysbyty cymerodd letywyr er mwyn i'w phlant allu parhau â'u haddysg - Gwen yn Ysgol Uwchradd South Hampstead. Roedd Gwen wedi mynegi uchelgais i fynd ar y llwyfan ers meityn, ac felly trefnodd ei mam gyfweliad iddi gydag Ellen Terry. Cynghorodd Ellen iddi ganolbwyntio ar y 3 I: Industry, Intelligence ac Imagination. Derbyniodd Gwen y cyngor hwn, gan ei disgrifio ei hun yn 'ethereal from the waist up and all Welsh pony down below'.

Roedd diwydrwydd yn sicr yn nodwedd ar yrfa hir Gwen Ffrangcon-Davies. Yn 17 oed, bu'n canu yn y llinell gorws neu'n dawnsio'r Charleston ar y llwyfan. Pan ddechreuodd y rhyfel, llenwodd fylchau rhwng gwaith theatr trwy weithio yn Swyddfa'r Sensor yn golygu llythyrau oddi wrth garcharorion rhyfel Almaenig.

Daeth ei chyfle mawr yn 1914 pan gomisiynwyd hi gan Rutland Boughton (a fuasai gynt yn gyfeilydd i'w thad) i chwarae Etain yn ei opera, The Immortal Hour, yng Ngŵyl Glastonbury. Roedd Gwen yn llwyddiant ysgubol. Priodolodd ei llwyddiant yn rôl y dylwythen deg i'w gwaed Cymreig ac atgofion o lynnoedd niwlog Cymru. Daeth yr opera yn gwlt, gan symboleiddio harddwch a gobaith ar ôl y Rhyfel Mawr. Mewn cynhyrchiad arall a archwiliai obaith wedi'r rhyfel, chwaraeodd Gwen ran Eve yng nghylch dramâu George Bernard Shaw Back to Methuselah yn 1924, gan ennill clod mawr unwaith eto.

Roedd y cyfnod rhwng y rhyfeloedd yn un cyfoethog iawn iddi. Yn 1925, yn Llundain, chwaraeodd ran Tess yn addasiad Thomas Hardy ei hun o'i nofel Tess of the Durbervilles. Gan fod Hardy yn fusgrell, teithiodd y cast cyfan i Dorset lle perfformiodd Gwen olygfa'r 'gyffes' ger y tân yn ei barlwr. Cyffyrddwyd yr hen ŵr hyd at ddagrau a buont yn gohebu tan farwolaeth Hardy yn Ionawr 1928.

Daeth Gwen i adnabod yr artist Walter Sickert hefyd ar ddiwedd y 1920au. Wedi iddynt gwrdd am y tro cyntaf, sgrifennodd Sickert ati bron bob dydd a lluniodd sawl portread ohoni. Mae 'La Louve: She Wolf', a ystyrir yn un o'i weithiau gorau, i'w weld yn y Tate. Portreadir Gwen oddi ar y llwyfan, yn aros i ymddangos fel Isabella o Ffrainc yn nrama Christopher Marlowe, Edward II.

Yn Romeo and Juliet Shakespeare y cafodd hi'r brif ran y bu'n dyheu fwyaf am ei chwarae. Dysgodd y llinellau am y tro cyntaf yn llances ar ei gwyliau yng Nghonwy, gan bwyso allan o ffenestr ei stafell wely a'r lleuad yn codi dros fryniau gleision hudolus ac aroglau siriol pêr yn llenwi awyr y nos. Er ei bod bellach yn 33 oed, clodforwyd ei pherfformiad fel y portread cyntaf o Juliet yn debyg i blentyn fel y dylai fod. Roedd ei Romeo, John Gielgud, yn ddyn hoyw 19 oed, ac yn nerfus am berfformio rhan sy'n eicon o gariad heterorywiol. Diau fod Gwen yn teimlo empathi â chyfyng-gyngor John. Roedd hi wedi cael profiad o berthnasau gyda dynion; ac eto, byddai'n cychwyn yn fuan wedyn ar bartneriaeth lesbiaidd hir gyda'r actores o Dde Affrica, Marda Vanne (1896-1970). I John a Gwen, roedd chwarae rolau confensiynol strêt, gyda'i gilydd yn aml iawn, yn cynnig amddiffyniad trwy ymuniaethu â rhywioldeb annadleuol.

Trwy gydol y 1930au, roedd Gwen a John fel aur i'r swyddfa docynnau, gan actio gyda'i gilydd yn Richard of Bordeaux gan Daviot a Three Sisters Chekhov. Serch hynny, pan ddechreuodd y rhyfel a chau'r theatrau - ac yn groes i gyngor cyfeillion a gredai y byddai'n atal gyrfa Gwen - darbwyllwyd hi gan Marda i weithio yn Ne Affrica.

Ffurfiasant Gwmni Gwen Ffrangcon-Davies Marda Vanne, ar adeg pan oedd Affrica yn ymdrechu i greu hunaniaeth annibynnol ar ei hanes trefedigaethol Prydeinig. Roedd llawer o sensitifeddau gwleidyddol, gan gynnwys didoliad hiliol a gelyniaeth o fewn y poblogaethau gwyn rhwng y rhai Saesneg a'r rhai Affricaneg eu hiaith. Serch hynny, daeth Gwen a Marda â phroffesiynoldeb i wlad nad oedd wedi gweld fawr ddim ond theatr amatur. Yn ogystal, meithrinwyd to newydd o actorion ganddynt: bu Sid James yn aelod o'r Cwmni ar eu taith olaf yn 1946. Gwelodd Syr Nigel Hawthorne eu cynyrchiadau yn ystod ei blentyndod yn Cape Town. Ymwelodd Edith Evans, Lewis Casson, Sybil Thorndike, Lawrence Olivier, Ivor Novello a Noel Coward â Gwen yno, gan gynorthwyo ei hymdrechion i hyrwyddo theatr genedlaethol i Dde Affrica.

Erbyn diwedd y rhyfel roedd ei pherthynas gyda Marda Vanne dan straen. Achoswyd hyn yn rhannol gan yfed trwm Vanne, a oedd yn broblem arbennig pan fyddai Gwen i ffwrdd - teithiodd i Loegr mewn gynfad yn 1942, er enghraifft, i serennu gyda Gielgud yn Macbeth. Erbyn 1950, a hithau'n awyddus i sicrhau na fyddai ei chynulleidfa Brydeinig yn anghofio amdani, dychwelodd Gwen i fyw ym Mhrydain, a chafodd glod mawr yn ei thymor cyntaf gyda'r Royal Shakespeare Company yn Stratford. Bu'n gweithio'n helaeth trwy'r 50au a'r 60au yn America ac yn y West End. Enillodd Wobr yr Evening Standard am yr actores orau fel Mary Tyrone yn Long Day's Journey Eugene O'Neill - er na chafodd unrhyw waith, fel y sylwodd, am yn agos i flwyddyn ar ôl ennill y wobr honno. Yn 1970, a hithau bron yn 80 oed, ymddangosodd ar y llwyfan am y tro olaf yn Uncle Vanya. Bu Marda farw y flwyddyn honno. Er nad oeddynt bellach yn gariadon, roedd eu cyfeillgarwch yn dal yn glos iawn.

A hithau yn ei nawdegau, bu Gwen yn westai ddwywaith ar Desert Island Discs, a chafodd ei chyfweld mewn rhaglenni dogfen am ei gyrfa hir. Ymddangosodd hefyd ar raglen Wogan, gan roi perfformiad gair-berffaith o'i golygfa balconi fel Juliet a ysbrydolwyd gan Gonwy. Ac yn gant oed daeth ei rhan olaf ar y teledu: drama Sherlock Holmes, The Master Blackmailer. Yn 1991, derbyniodd Gwen gydnabyddiaeth o'r diwedd am gyfraniad oes i actio pan gafodd ei hurddo'n Fonesig. Mewn cyfweliad papur newydd yn gynnar yn 1992, gofynnwyd i Gwen beth hoffasai fod pe na buasai'n actores. 'Marw!' oedd ei hateb. Bu farw bythefnos yn ddiweddarach ar 27 Ionawr 1992, yn ei chartref yn Essex, ddeuddydd ar ôl ei phen-blwydd yn 101 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2021-07-07

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.