Ganwyd ym Mhenbedw, swydd Caer, 26 Hydref 1875, yn fab i Thomas Casson o Ffestiniog, Meirionnydd, a'i briod Laura Ann (ganwyd Holland-Thomas). Ar ôl gadael Ysgol Ramadeg Rhuthun bu'n cynorthwyo'i dad i wneud organau, a mynychodd y Coleg Technegol Canolog, South Kensington, am gyfnod, cyn mynd i Goleg S. Mark, Chelsea, i'w hyfforddi'n athro. Yn 1903 ymddangosodd ar lwyfan y Court Theatre fel actor proffesiynol yn Man and superman a dramâu eraill. Bu 1907 yn flwyddyn dyngedfennol yn ei hanes oherwydd dyna pryd yr ymunodd â chwmni Miss Horniman yn theatr y Gaiety lle y cafodd ddechrau cyfarwyddo dramâu, a hefyd yno y cyfarfu â Sibyl Thorndike a briododd yn Aylesford, swydd Caint, 22 Rhagfyr 1908. Bu iddynt bedwar o blant.
Yn ystod Rhyfel Byd I bu'n sarsiant yn yr Army Service Corps (1914-15) ac uchgapten gyda'r Royal Engineers (1916-19), clwyfwyd ef, a chafodd M.C. Wedi dychwelyd i Lundain, cyfarwyddodd ar y cyd â'r awdur, G.B. Shaw, y cynhyrchiad gwreiddiol o St. Joan (1924), a'i wraig yn cymryd y brif ran. Teithiodd ef a'i wraig trwy Dde Affrica yn 1928, a'r Dwyrain Canol, Awstralia a Seland Newydd yn 1932. Yn 1938 cynhyrchodd Henry V yn Drury Lane i Ivor Novello, ac adnewyddodd ei gysylltiad â'r Old Vic, lle y cyfarwyddodd Laurence Olivier yn Coriolanus a John Gielgud yn King Lear (1940). Y flwyddyn honno teithiodd ef a'i wraig trwy Gymru i berfformio Macbeth, a ddilynwyd gan King John, Candida, Medea a St. Joan. Buont yn cydweithio ar ôl Rhyfel Byd II, nid yn unig yn Llundain, lle y dangosodd Lewis Casson ei ddawn nodedig fel actor yn The linden tree gan J.B. Priestley, ond hefyd mewn gŵyl ddrama yng Nghaeredin ac Efrog Newydd, ac ar bedair taith o berfformiadau dramatig a dramâu cyfoes yn y Dwyrain Canol, y Dwyrain Pell, India, Awstralasia ac Affrica. Dathlasant jiwbili eu priodas trwy gymryd rhan yn Eighty in the shade (1959), drama a gyfansoddodd Clemence Dane yn arbennig iddynt hwy. Yr oedd gan Lewis Casson lais bas cryf a chyfoethog, ac yr oedd yn actor amryddawn yn ogystal ag yn gynhyrchydd o fri. Ymddangosodd mewn cannoedd o rannau a pharhaodd i weithio hyd 1968.
Wedi cynorthwyo i ddatblygu undeb llafur yr actorion, bu am flynyddoedd lawer yn un o arweinwyr mwyaf ymroddgar y mudiad. Siaradai'n eofn o blaid y theatr ac etholwyd ef yn llywydd y British Actors' Equity (1941-45), ac yn gyfarwyddwr y ddrama i'r Cyngor er Hyrwyddo Cerddoriaeth a'r Celfyddydau (1942-44). Yn 1945 dyrchafwyd ef yn farchog, a derbyniodd raddau er anrhydedd gan brifysgolion Glasgow (1954), Cymru (1959) a Rhydychen (1966). Er mai yn 98 Swan Court, Llundain, yr oedd ei gartref, arhosai'r teulu'n achlysurol yn eu tŷ, Bron-y-garth, Porthmadog, cyn ei werthu yn 1949. Bu farw 16 Mai 1969.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.