Ganwyd 26 Tachwedd 1875 ym Mhenbedw, swydd Caer, yn fab i Josiah Thomas a Marianne (ganwyd Jones, o Lanfyllin), wedyn o Lerpwl, ac ŵyr i John Thomas, gweinidog (A), Lerpwl (1821 - 1892). Addysgwyd ef ym Mhrifysgol Lerpwl a Choleg Caius, Caergrawnt, a chafodd Litt.D. Prifysgol Lerpwl c. 1925. Ei swydd gyntaf oedd fel darlithydd cynorthwyol mewn Saesneg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor (1903-6), ond treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn ddarlithydd Saesneg yn King's College, Prifysgol Llundain (1908-23), ac yn Athro iaith a llenyddiaeth Saesneg yr oesoedd canol yng Ngholeg Bedford (1923-42). Adnewyddodd ei gysylltiad â Phrifysgol Cymru fel arholwr allanol yn ystod 1927-30, a bu'n arholwr allanol Prifysgol Llundain, 1930-33. Ar waethaf ei swildod, ni allai ei fyfyrwyr lai na sylweddoli dyfnder ac ehangder ei afael ar ei faes, a deall eu bod wrth droed gwir ysgolhaig wrth iddo fwrw golwg dros y newidiadau ieithyddol a fu o'r bedwaredd ganrif ymlaen a chyflwyno cipolwg iddynt ar feysydd llên Germanaidd a Cheltaidd. Bu'n olygydd nifer o weithiau canoloesol a'r 16ed ganrif, ac yn awdur llawer o gyfrolau, yn eu plith: A glossary of the Mercian hymns (gyda H.C. Wyld, 1903); Alfred and the prose of his reign (1907); Greene's Pandosto (1907); Introduction to the history of the English language (1920); Middle English section in the Year's Work in English Studies (1923 ac 1924); English literature before Chaucer (1924); Aspects of literary theory and practice, 1550-1870 (1931); ac erthyglau yn Modern Language Review a chyfnodolion ysgolheigaidd eraill.
Priododd, 22 Awst 1918, Mary Pugh Jones, merch John Ivor Jones, Llangollen a Colombia, De America, a bu iddynt ddau fab. Bu farw yn ei gartref, Winfrith, 26 Forty Avenue, Wembley Park, Middlesex, 28 Mai 1954.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.