Ganwyd 5 Gorffennaf 1870 yn fab i John Thomas, Bryncocyn, Llangywer, Meirionnydd, a Catherine ei wraig a fu farw pan oedd William yn blentyn, a symudodd y teulu i Blas Madog, Llanuwchllyn. Bu yn Ysgol Friars, Bangor, cyn ymaelodi yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, fel sizar yn 1888; cafodd ysgoloriaeth yn 1890 a graddiodd yn B.A. (dosbarth I rhan I y tripos clasurol), ac M.A. 1896. Ar ôl bod yn ddarlithydd yn y clasuron ym Mangor, 1891-96, aeth yn brifathro ysgol sir Aberdâr. Yn 1905 penodwyd ef yn brifathro ysgol Cwmni'r Groseriaid yn Hackney Downs, Llundain, pan gymerwyd hi drosodd gan gyngor sir Llundain, a daliodd y swydd honno nes ymddeol yn 1945. Cymerodd ran flaenllaw yng Nghymdeithas y Prifathrawon. Yr oedd yn gyd-ysgrifennydd yr Incorporated Association of Headmasters, 1913-33, a gwnaethpwyd ef yn llywydd yn 1934 a'i ailethol am fl. arall. Yr oedd yn amddiffynnydd cadarn i'w alwedigaeth ac ni phetrusai gondemnio pob ymyriad gwleidyddol mewn addysg, fel pan wrthododd llywodraethwyr ysgol Pontypridd ganiatäu gŵyl i'r plant ar achlysur priodas frenhinol yn 1935, neu pan geisiodd y Blaid Lafur godi pwyllgor i ystyried ailysgrifennu llyfrau hanes yn yr un flwyddyn. Yr oedd yn llym ei feirniadaeth ar brifysgolion a'r wladwriaeth am gyndynrwydd i roi anrhydeddau teilwng i athrawon. Ysgrifennodd David Lloyd George ragair o deyrnged i lyfryn swfenïr i ddathlu 30 mlynedd o'i brifathrawiaeth yn Hackney Downs. Cyhoeddodd gasgliad o benillion telyn yn 1894, a gydag E. Doughty The new Latin Delectus (1908-09). Golygodd ddetholiad o gerddi Sallust ac Ovid yn 1900, a dwy gyfrol i'r ' Cameos of Literature ': The harp of youth, a book of poetry for school and home (1907) a A book of English prose (1909). Gyda Charles W. Bailey cyhoeddodd Letters to a young headmaster (1927). Er treulio oes yn Llundain nid anghofiodd anghenion Cymru. Golygodd Cambrensia: a literary reading book for Welsh schools (c. 1904), a chyhoeddodd The Welsh fairy book (1907 a nifer o adargraffiadau hyd 1995), More Welsh fairy and folk tales (1957), a llyfryn Heroes of Wales (1912) ar bwys y cerfluniau ohonynt yn neuadd y ddinas, Caerdydd. Ymddangosodd rhai o'i ysgrifau yn Cymru a Wales tuag 1894-95; ac yn Wales, 1911-15, cafwyd cyfres o fywgraffiadau ganddo o dan y teitl ' Forgotten Welshmen '. Rhoddodd ddarlith i Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1941 o dan yr un teitl yn annog rhywrai i fynd ati i lunio a chyhoeddi bywgraffiadau o Gymry nodedig, prosiect y bu'n ei hargymell ers pum mlynedd neu ragor mewn darlithoedd i Urdd y Graddedigion ac ar y radio. Gwnaeth ei gartref yn 38 Windsor Road, Finchley, a magu dau fab (os nad rhagor o blant). Bu ei wraig Marian Rose (ganwyd Dixon?) farw 22 Hydref 1936 ac yntau 14 Mawrth 1959.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.