THOMAS, Syr ROBERT JOHN (1873 - 1951), gwleidydd a pherchennog llongau

Enw: Robert John Thomas
Dyddiad geni: 1873
Dyddiad marw: 1951
Priod: Marie Rose Thomas (née Burrows)
Plentyn: William Eustace Rhyddland Thomas
Rhiant: Catherine Thomas
Rhiant: William Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd a pherchennog llongau
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd 23 Ebrill 1873 yn fab i William a Catherine Thomas, Bootle. Addysgwyd ef yng Ngholeg Bootle, Athrofa Lerpwl, a Choleg Tettenhall. Dechreuodd weithio yn y busnes teuluol fel brocer yswiriant llongau a daeth yn yswiriwr llongau yng nghwmni Lloyds. Gwasanaethodd fel aelod seneddol (un o Ryddfrydwyr y Glymblaid) dros etholaeth Wrecsam rhwng 1918 ac 1922, safodd yn aflwyddiannus yn sir Fôn yn 1922 ac etholwyd ef yno mewn isetholiad yn Ebrill 1923 ar farwolaeth Syr Owen Thomas. Parhaodd i gynrychioli sir Fôn yn y senedd hyd Mai 1929 pan ymddiswyddodd er mwyn medru rhoddi mwy o'i amser i'w ddiddordebau masnachol. Ei olynydd yn yr etholaeth oedd y Fonesig Megan Lloyd George (gweler Lloyd George, Teulu). Aeth yn fethdalwr yn 1930, ac ni chafodd ei ryddhau tan 1935. Yr oedd yn aelod o gyngor sir Môn a gwasanaethodd fel uchel siryf dros y sir yn 1912. Ef oedd sylfaenydd y gronfa er cof am yr arwyr Cymreig; rhoddodd £20,000 iddi a gweithredodd fel ysgrifennydd mygedol am flynyddoedd. Ef hefyd a sefydlodd yng Nghaergybi y Lady Thomas Convalescent Home for Discharged and Disabled Soldiers and Sailors, a phrynodd yr offer ar ei gyfer. Yr oedd yn Gymro Cymraeg, yn aelod o gyngor Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac yn drysorydd mygedol cymdeithas eisteddfodau Môn am 15 mlynedd. Urddwyd ef yn farchog yn 1918.

Priododd yn 1905 Marie Rose, merch Arthur Burrows, a bu hi farw yn 1948. Bu iddynt ddau fab ac un ferch. Ei etifedd oedd Syr William Eustace Rhyddland Thomas, (1909 - 1957). Bu farw 27 Medi 1951 yn ei gartref, Garreg-lwyd, Caergybi, Môn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.