THOMAS, JOHN LUTHER (1881 - 1970), gweinidog (A)

Enw: John Luther Thomas
Dyddiad geni: 1881
Dyddiad marw: 1970
Priod: Anne Grace Thomas (née Williams)
Rhiant: Ann Thomas
Rhiant: Thomas Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (A)
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd 23 Ebrill 1881 yn Bigyn Road, Llanelli, Caerfyrddin, yn fab i Thomas ac Ann Thomas. Symudodd y teulu i Bontarddulais lle y mynychodd yr ysgol leol cyn dechrau gweithio yn y gwaith alcam. Yn 1894 derbyniwyd ef yn aelod o Eglwys Hope, a chymhellwyd ef gan yr eglwys i fynd i'r weinidogaeth. Mynychodd ysgol Watcyn Wyn, Rhydaman (WILLIAMS, WATKIN HEZEKIAH) a Choleg Bala-Bangor (1900-1903) cyn mynd yn weinidog ar eglwysi Seion, Conwy a Chyffordd Llandudno (1903-21); Carmel, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog (1921-30); Seion, Cwmafan (1930-45). Ymddeolodd oherwydd cystudd ei briod a dychwelodd i Bontarddulais at ei chwiorydd yn Gwynllys, Clayton Road, ond ailgydiodd yn y weinidogaeth a chymryd gofal o eglwysi Libanus, Cwmgwili a Llwyn-teg, Llan-non (1945-50) a Capel Newydd yr Hendy, Pontarddulais (1950-58). Ar wahân i'w bregethu gloyw a'i lafur dihafal yn ei eglwysi, gweithiodd yn ddyfal dros y genhadaeth, yn olygydd adran Gymraeg y Cronicl cenhadol (1927-40), ac awdur pamphled Y bwlch lle bu'r Sul (1942) dros Gyngor Cymdeithas Cadwraeth Dydd yr Arglwydd. Yr oedd hefyd yn awdur nifer o lyfrau, yn eu plith: Y byd a ddaw (1918 ac 1920); Yr ynys aur; Hanes Iesu Grist (1930); Dyn rhyfedd y groes (1947); a'r Iesu penwyn (1962). Ceir ysgrifau ganddo yn y Geiriadur Beiblaidd, Dysgedydd, Tyst, a chyfnodolion enwadol eraill. Yn 1921 priododd ag Anne Grace Williams, Conwy. Er na fu un amser yn gryf ei iechyd, cafodd oes hir. Bu farw 4 Chwefror 1970 yn ei gartref, Lansdowne, Groves Avenue, Langland, Abertawe ac amlosgwyd ei gorff yn Nhreforus.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.