THOMAS, IORWERTH RHYS (1895 - 1966), gwleidydd

Enw: Iorwerth Rhys Thomas
Dyddiad geni: 1895
Dyddiad marw: 1966
Priod: Annie Mary Thomas (née Davies)
Rhiant: David William Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd 22 Ionawr 1895 yn fab i David William Thomas, Cwm-parc, Morgannwg. Derbyniodd addysg mewn ysgol gynradd, ac yn 1908, ac yntau'n 13 oed, dechreuodd weithio ym mhwll Dâr, Cwm-parc. Mynychodd ddosbarthiadau nos mewn economeg a hanes er mwyn gwella ar ei addysg, ac ymunodd â'r Blaid Lafur yn 1918. Fe'i dyrchafwyd i swydd checkweighman yng Nghwm-parc yn 1922. Bu'n flaenllaw yn Ffederasiwn Glowyr De Cymru ac yn Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM) am fwy na 30 mlynedd, a daliodd nifer o swyddi yng nghyfrinfa'r Parc a'r Dâr, y fwyaf o fewn maes glo de Cymru. Fe'i dedfrydwyd i garchar am dri mis yn ystod streic y glowyr yn 1926 fel cadeirydd cyfrinfa'r Parc a'r Dâr ar ôl iddo gymryd rhan mewn cyffro diwydiannol. Etholwyd ef yn aelod o Gyngor Dinesig y Rhondda yn 1928, cadeiriodd nifer o'i bwyllgorau a gwasanaethodd fel cadeirydd y cyngor yn 1938-39. Parhaodd yn aelod hyd 1951. Gwasanaethodd hefyd ar nifer o gyd-bwyllgorau diwydiannol Cymru, a bu'n aelod o Fwrdd Trydan De Cymru rhwng 1947 ac 1949.

Yn 1950 etholwyd ef yn aelod seneddol (Llafur) dros Orllewin y Rhondda fel olynydd Will John, a daliodd i gynrychioli'r etholaeth hon hyd at ei farwolaeth yn 1966. Yr oedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn materion economaidd a diwydiannol. Bu'n elyn cyson i genedlaetholdeb Cymreig ac ymladdodd yn ddygn yn erbyn mudiad Senedd i Gymru yn y 1950au. Ymosododd yn gyhoeddus ar Blaid Cymru ar nifer o achlysuron, ac yn Hydref 1965 yr oedd yn hallt ei feirniadaeth o argymhellion adroddiad Hughes-Parry ar statws yr iaith Gymraeg. Yn 1960 cefnogodd fesur y llywodraeth Geidwadol i agor y tafarndai ar y Sul.

Priododd yn Hydref 1920 Annie Mary, merch D.J. Davies. Bu hithau hefyd yn weithgar yng ngwleidyddiaeth Lafur yr ardal, a bu farw yng Ngorffennaf 1956. Bu iddynt un mab ac un ferch. Bu yntau farw 3 Rhagfyr 1966 yn ei gartref, 94 Park Road, Cwm-parc.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.