PARRY, Syr DAVID HUGHES (1893-1973), cyfreithiwr, cyfreithegwr, gweinyddwr prifysgol

Enw: David Hughes Parry
Dyddiad geni: 1893
Dyddiad marw: 1973
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr, cyfreithegwr, gweinyddwr prifysgol
Maes gweithgaredd: Addysg; Cyfraith
Awdur: Richard Gwynedd Parry

Fe'i ganed ar 3 Ionawr 1893, yn ail blentyn a mab hynaf i John Hughes Parry, ffermwr, a'i wraig Anne (Hughes gynt), yn Uwchlaw'r-ffynnon, Llanaelhaearn, Sir Gaernarfon. Roedd ei fam yn wyres i Robert Hughes, Uwchlaw'r-ffynnon. Fe'i haddysgwyd yn yr ysgol elfennol yn Llanaelhaearn ac yn ddiweddarach yn Ysgol Ramadeg Pwllheli. Ym 1910, ymrestrodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle astudiodd economeg a'r gyfraith, a graddio mewn economeg gyda dosbarth cyntaf ym 1914. Y flwyddyn wedyn, gyda dyfodiad y Rhyfel Mawr, listiodd fel milwr cyffredin gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (fe'i dyrchafwyd yn is-gapten yn ddiweddarach). Gwasanaethodd gyda'r gatrawd yn ffosydd Ffrainc, lle cafodd anafiadau i'w gylla a'i ystumog a'i plagiodd weddill ei oes.

Gyda diwedd y Rhyfel, aeth i astudio'r gyfraith yng ngholeg Peterhouse, Caergrawnt, lle bu'r cyfreithegwr mawr Syr Percy Winfield yn diwtor arno; graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf yn y gyfraith ym 1920. Ym 1922, fe'i galwyd i Far y Deml Fewnol ar ôl derbyn Tystysgrif Anrhydedd a dod i frig ei flwyddyn yn yr arholiadau proffesiynol. Yn lle dilyn galwedigaeth gyfreithiol ymarferol, fodd bynnag, trodd ei olygon tua'r byd academaidd, a derbyniodd swydd darlithydd yn adran y gyfraith yn Aberystwyth ym 1920. Yno gweithiodd o dan gyfarwyddyd ei hen diwtor a phennaeth adran y gyfraith, yr Athro Thomas A. Levi, ac arhosodd yno hyd 1924. Ym 1923, priododd Haf, unig ferch Syr Owen Morgan Edwards a'i wraig Ellen.

Daeth trobwynt yn ei yrfa ym 1924, pan aeth yn ddarlithydd cyfraith yn Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain (yr LSE). Gydag arweiniad ac anogaeth y cyfarwyddwr, Syr William Beveridge, a phennaeth adran y Gyfraith, Syr Edward Jenks, aeth ei yrfa o nerth i nerth. Ei brif ddiddordebau oedd cyfraith eiddo a chyfraith etifeddiaeth, ac roedd ei gyhoeddiadau yn cynnwys Wolstenholme and Cherry's Conveyancing Statutes (1927), y bu iddo ei gyd-ysgrifennu gyda Syr Benjamin Cherry, a Williams on Executors (1930). Fe'i dyrchafwyd i Gadair Cyfraith Loegr ym Mhrifysgol Llundain ym 1930.

Er i David Hughes Parry ymwneud ag awduraeth gyfreithiol yn gynnar yn ei yrfa (cyhoeddwyd ei fonograff, The Law of Succession, ym 1937), aeth trywydd ei yrfa ag ef i gyfeiriad gweinyddu a llywodraethu prifysgol. Fel pennaeth Adran y Gyfraith yn yr LSE, roedd hefyd, mewn gwirionedd, yn arweinydd tair Ysgol Cyfraith Prifysgol Llundain (y ddwy arall yng Ngholeg y Brifysgol ac yng Ngholeg y Brenin). Ym 1939, fe'i penodwyd yn Gadeirydd Cyngor Academaidd Prifysgol Llundain. Wedi hynny byddai'n eistedd ar ystod eang o bwyllgorau o fewn y brifysgol ac yn allanol. Daeth penllanw ei yrfa ym myd gweinyddiaeth academaidd gyda'i benodi yn is-ganghellor Prifysgol Llundain am dymor ym 1945. Yn ddiweddarach, ym 1962, fe'i penodwyd yn Gadeirydd Llys y Brifysgol.

Daeth ei gyfraniad mwyaf arhosol i ysgolheictod gyfreithiol drwy ei waith fel cyfarwyddwr cyntaf Sefydliad Uwch Astudiaethau Cyfraith Prifysgol Llundain, a sefydlwyd ym 1947 i hyrwyddo ysgolheictod gyfreithiol ac i ddatblygu ymchwil gymharol a rhyngwladol ym maes y gyfraith. Defnyddiodd Hughes Parry ei ddylanwad gwleidyddol yng nghoridorau grym Prifysgol Llundain i wireddu hen ddyhead i sefydlu canolfan ragoriaeth ar gyfer uwch ymchwil gyfreithiol. Nid cyd-ddigwyddiad oedd y ffaith bod y sefydliad pwysig hwn wedi dod i fod yn ystod cyfnod Hughes Parry fel is-ganghellor Prifysgol Llundain. Nid ei weledigaeth ef oedd hi yn wreiddiol, efallai - roedd yr Arglwydd Atkin ac eraill wedi cyflwyno achos cryf dros greu sefydliad o'r fath yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel - ond Hughes Parry a drodd y weledigaeth honno yn llwyddiant ymarferol. Bu'n ben ar y Sefydliad am ddegawd a mwy, a gosododd y sylfeini cadarn ar gyfer ei ffyniant yn y dyfodol.

Arweiniodd bri Hughes Parry yn ei broffesiwn at gydnabyddiaeth ar y lefel uchaf. Fe'i hurddwyd yn farchog ym 1951, cafodd ei ethol yn Feinciwr yn y Deml Fewnol ym 1952, ei benodi'n Gwnsler y Frenhines er anrhydedd ym 1955 a'i ethol yn gymrawd er anrhydedd o goleg Peterhouse Caergrawnt ym 1956. Yn ogystal, cafodd lu o ddoethuriaethau er anrhydedd gan brifysgolion ym mhedwar ban byd, gan gynnwys Cymru (1947), Gorllewin Ontario (1948), McGill (1949), Birmingham (1952), Caergrawnt (1953), a Llundain (1963).

Roedd Hughes Parry yn ymgorfforiad o'r athro prifysgol fel gwas cyhoeddus. Yn y 1950au, bu'n is-gadeirydd Pwyllgor Grantiau'r Prifysgolion, yn aelod o Bwyllgor Diwygio'r Gyfraith, ac, ym 1959, cadeiriodd bwyllgor a oedd i gynnal ymchwiliad ar system prifysgolion Seland Newydd. Arweiniodd yr adroddiad a ddaeth yn sgil hynny, a elwid Adroddiad Parry, at chwyldroi system prifysgolion y wlad a therfynu Prifysgol ffederal Seland Newydd.

Er ei waith mawr a phellgyrhaeddol ym meysydd ysgolheictod cyfraith a llywodraeth prifysgol, roedd ei bresenoldeb amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru yr un mor arwyddocaol. Er ei yrfa lwyddiannus, bu un methiant yn ergyd drom iddo. Roedd ganddo un uchelgais fawr, sef dod yn brifathro ar ei hen goleg, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ond bu'n aflwyddiannus yn ei geisiadau am y swydd ym 1927 ac ym 1934. Ni faddeuodd byth i'r rhai a'i rhwystrodd rhag cyrraedd ei nod.

Gwnaed peth iawn am y siomedigaethau hyn pan benodwyd ef yn Llywydd y Coleg ym 1954. Fodd bynnag, bu anghydfod ysbïo Goronwy Rees ym 1956-57 yn bwrw cysgod ar ei dymor fel llywydd. Cysylltwyd Goronwy Rees, a oedd yn brifathro Aberystwyth ar y pryd, â chylch ysbïo Burgess/Maclean ar ôl iddo gyhoeddi cyfres o erthyglau anllad ym mhapur newydd y People yn gynnar ym 1956. Cychwynnodd rhai o ffigurau blaenllaw'r coleg ymgyrch i gael gwared â Goronwy Rees o'i swydd, ymgyrch a drodd yn frwydr bersonol a chwerw rhyngddo yntau fel prifathro a Hughes Parry fel llywydd. Ond roedd Hughes Parry yn drech na Goronwy Rees, ac yntau'n hen law ar y gyfraith ac yn deall mecanwaith pwyllgorau prifysgol yn well na neb; cafodd ei ffordd, a chollodd Goronwy Rees ei swydd ym 1957. Sicrhaodd Hughes Parry arweiniad sefydlog i'r sefydliad drwy benodi [Syr] Thomas Parry yn brifathro newydd ym 1958.

O blith y swyddogaethau pwysig a gyflawnodd Hughes Parry ym mywyd Cymru, gan gynnwys Llywyddiaeth Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, efallai mai'r fwyaf arwyddocaol iddo ef yn bersonol oedd ei lywyddiaeth o Gymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru ym 1964-65. Ac yntau'n aelod gweithgar a ffyddlon o'r Hen Gorff gydol ei oes, roedd y ffaith mai ef oedd yr ail leygwr i ddal y swydd honno ar y pryd yn destament i'r parch a oedd iddo o fewn yr enwad.

Mae'n bosibl, fodd bynnag, mai ei waith fel cadeirydd y pwyllgor hwnnw a sefydlwyd gan y Llywodraeth rhwng 1963 a 1965, ac a ymchwiliodd i statws cyfreithiol y Gymraeg, fydd yn sicrhau iddo ei le am byth yn llyfrau hanes Cymru. Hughes Parry oedd prif bensaer yr adroddiad a gyhoeddwyd ym 1965 ac a arweiniodd at Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1967, deddf a sefydlodd am y tro cyntaf mewn deddfwriaeth yr egwyddor bod y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal.

Roedd Hughes Parry yn gyfreithegwr a greodd le unigryw iddo'i hun yn y pantheon cyfreithiol. Pragmatig yn hytrach na deallusol oedd ei gyfraniad arhosol i fyd y gyfraith, ond roedd yn un a lwyddodd i hwyluso a galluogi mentrau pwysig. Roedd hefyd yn ddyn sefydliad, a gredai yng ngallu sefydliadau i roi arweiniad, esiampl a chanolbwynt ar gyfer bywyd cenedlaethol. Yn fwy na dim, teimlai Hughes Parry gyfrifoldeb arbennig tuag at Gymru, ei hiaith, ei diwylliant a'i sefydliadau. Mewn ffordd, cymerodd ar ei ysgwyddau swyddogaeth O. M. Edwards fel un o warcheidwaid Cymru, gan deimlo cyfrifoldeb tadol bron am les y genedl.

Roedd yn wr talsyth a thrawiadol ei olwg, a'i fwng o wallt trwchus gwyn wedi'i gribo'n ôl yn un o'i nodweddion adnabyddus hyd ddiwedd ei oes. Roedd yn ddyn balch a phenderfynol, heb amynedd tuag at y rhai a ystyriai yn ffyliaid, ac nid oedd yn un i guddio'i lid pan fyddai rhywun yn anghytuno ag ef. Mewn pwyllgor, byddai'n herio'n agored y rhai hynny y credai ef eu bod yn llai deallus, yn enwedig y rhai yr oedd eu hunan-hyder yn fwy na'u gallu. Er hynny, roedd hefyd yn gyfaill ffyddlon, a rhoddai'n hael o'i amser a'i egni i'r bobl, y sefydliadau a'r achosion hynny a oedd agosaf at ei galon.

Bu farw yn ei gartref, Neuadd Wen, Llanuwchllyn ar 8 Ionawr 1973, ac fe'i hamlosgwyd yn amlosgfa Wrecsam; roedd ei wraig, Haf, wedi marw ym 1965. Nid oedd ganddynt blant.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-05-28

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.