Ganwyd ef yn Glenview, Melin Ifan Ddu, Morgannwg, 13 Gorffennaf 1896, mab Morgan a Margaret Thomas. Symudodd ei rieni i Borthmadog, ac yno - yn y Tabernacl - y dechreuodd bregethu. Bu yng ngharchar yn ystod Rhyfel Byd I fel gwrthwynebwr cydwybodol. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Porth, Coleg y Brifysgol, Caerdydd (lle graddiodd), a Choleg y Bala. Ordeiniwyd ef yn 1923, a bu'n gweinidogaethu ym Melingryddan, Castell-nedd (1923-26); Nasareth, Aberdâr (1926-27); Holywell a Bagillt (1927-32); Maenan, Penmaen-mawr (1932-65, a'r Gatws, Bangor, 1956-65). Priododd Blodwen Griffith, Llanfair Talhaearn ym 1926, a bu iddynt un ferch. Bu farw 6 Rhagfyr 1968.
Cyfrannodd lawer, mewn rhyddiaith a barddoniaeth, i'r Goleuad a'r Drysorfa. Cafodd wobrwyon yn yr Eisteddfod Genedlaethol am gerddi coffa i T. Gwynn Jones (1950) a Prosser Rhys (1952), ac am gywydd, ' Morgannwg ', yn 1956.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.