Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd 27 Mai 1881 yn Lerpwl, unig blentyn John William (1843 - 1895) a Mary Louisa Willans (ganwyd Nicholson; 1847 - 1911), ac wyr i Benjamin Willans, Blaenau Gwent. Cafodd ei addysg yn rhannol gan athrawon preifat, yn cynnwys Syr Leonard Woolley, ac yn rhannol yn Haileybury. Cartrefodd dros ei oes o 1894 yng Ngheri, Powys, wedi i'w dad brynu stad Dolforgan gan deulu Walton. Gwasanaethodd yn anfilwrol, gan mwyaf yn yr Eidal, yn ystod Rhyfel Byd I. Wedi dychwelyd ymgyflwynodd i wasanaeth ei gymdeithas yn ei sir fabwysiedig, gan fod yn uchel siryf yn 1917 ac yn ynad heddwch o 1919, yn henadur sirol, 1904-07 ac 1910-19, aelod o'r cyngor sir o 1934 hyd ei farw, a chadeirydd pwyllgor cofysgrifau a phwyllgor llyfrgell Maldwyn. Cynrychiolodd y sir ar lys llywodraethwyr C.P.C., Aberystwyth, 1907-27 a dod yn llywodraethwr dros oes o 1919, ac aelod o'r cyngor, 1914-57, a bu'n cynrychioli'r coleg ar lys llywodraethwyr Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Cynrychiolodd y sir hefyd ar lys Prifysgol Cymru o 1934 i 1957, ac ar lys C.P.G.C., Bangor, 1936-57. Bu'n aelod o lys llywodraethwyr Ll.G.C. o 1942 i 1957 ac o'i chyngor o 1945. Gorweddai ei brif ddiddordeb mewn henebion, achyddiaeth, cadwraeth yr etifeddiaeth genedlaethol a'r ffydd Undodaidd. Daeth yn aelod oes o Gymdeithas Hynafiaethau Cymru yn 1901, ac o'r Powysland Club yn 1899, ac ef oedd ei gadeirydd pan fu farw. Cyhoeddodd The byways of Montgomeryshire yn 1905, llyfr a adolygwyd yn garedig, ond gyda beirniadaeth gymhorthgar, gan D. R. Thomas yn Collections historical & archaeological relating to Montgomeryshire and its borders, 1907, vol.34, pp.123-125 . Cyfrannai'n gyson i'r cylchgrawn hwnnw rhwng 1910 ac 1951, ei erthyglau, gan mwyaf, ar agweddau ar hanes ardal Ceri wedi eu seilio ar ymchwil bersonol. Bu ei haelioni cyson, ond bob amser yn anymwthiol, tuag at yr achosion agosaf at ei galon, yn sylweddol, a hynny, yn ei flynyddoedd olaf, ar draul cryn aberth personol. Nid oedd yn syndod mai cymynroddion gweddill ei ystad oedd i C.P.C. (£11,000), Ll.G.C. a Chymanfa Gyffredinol yr Eglwysi Undodaidd a Christionogol Rhydd (£12,000 yr un, gyda £3,500 mewn cymynroddion i'r mudiad Undodaidd). Ni fyddai gwerthfawrogiad o'i ofal dros eraill yn gyflawn heb gyfeirio at ei haelioni nodedig tuag at fyfyrwyr ieuainc. O dan ysbrydiaeth ei gyfaill agos, yr Athro H. J. Fleure, ni roddai dim fwy o bleser iddo na'u cynorthwyo'n ariannol gyda chefndir eu hastudiaethau, drwy roi iddynt fodd i ymgymryd â gwaith maes, ac yn aml eu cymryd, yn gyfan gwbl ar ei gost ei hun, ar ymweliadau diwylliannol â lleoedd o ddiddordeb yn Ewrob. Priodol felly oedd i C.P.C., Aberystwyth benderfynu cadw'i enw mewn cof parhaol drwy sefydlu darlith flynyddol J. B. Willans.
Cerdded, teithio, darllen helaeth, ei ardd a'i goedydd oedd cyfryngau ei adloniant. Ysgogid ef drwy gydol ei oes gan gydwybod gymdeithasol effro, ymwybyddiaeth o ddyletswyddau cyhoeddus, a ffydd grefyddol. Bu ei gyfraniad ym meysydd ei ddiddordeb i fywyd diwylliannol ac addysgol Cymru, a Sir Drefaldwyn yn arbennig, yn sylweddol, er bob amser yn hollol ddi-ymffrost.
Bu farw 12 Ebrill 1957 a chladdwyd ef ym mynwent Ceri. Ni bu'n briod.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.