WILLIAMS, WILLIAM EMYR (1889 - 1958), cyfreithiwr ac eisteddfodwr

Enw: William Emyr Williams
Dyddiad geni: 1889
Dyddiad marw: 1958
Priod: Mary Williams (née Powell)
Rhiant: Sarah Ann Williams (née Hall)
Rhiant: John Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr ac eisteddfodwr
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Cyfraith; Dyngarwch
Awdur: Gwilym Evans

Ganwyd 24 Mai 1889 yn Llanffestiniog, Meirionnydd, yr hynaf o blant John Williams, gweinidog Engedi (MC), ac, wedi hynny, capten llong a blaenor yn y Tabernacl, Aberystwyth. Pan benodwyd John Williams yn ysgrifennydd cenhadaeth gartref y MC, symudodd y teulu i Wrecsam, ac o ysgol ramadeg Grove Park yn y dref honno yr aeth William Emyr i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle'r enillodd radd LL.B. yn 1911. Cymerodd ran flaenllaw yng nghymdeithasau'r coleg a bu'n ysgrifennydd y Gymdeithas Ryddfrydol.

Ar ddechrau Rhyfel Byd I ymunodd â'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a bu'n is-gapten ym myddin Allenby ym Mhalestina. Ar derfyn y rhyfel cadwyd ef ymlaen am rai misoedd fel barnwr mewn llys milwrol yn ystod yr helynt yn yr Aifft yn erbyn awdurdod Prydain. Wedi dod allan o'r fyddin cymerodd bartneriaeth gyda J. S. Lloyd a ffurfio ffyrm cyfreithwyr J. S. Lloyd ac Emyr Williams. Priododd Mary, merch J. E. Powell, Wrecsam.

Etholwyd ef yn aelod o gyngor bwrdeistref Wrecsam yn 1923. Ef oedd y maer yn 1933 ac ar yr un pryd yn gadeirydd pwyllgor gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol yno. Bu'n ddirprwy-faer seithwaith, codwyd ef yn henadur yn 1935, ac etholwyd ef yn rhyddfreiniwr anrhydeddus yn 1951. Gwasanaethodd ar y cyngor am 35 mlynedd. Anrhydeddwyd ef â'r C.B.E. yn 1952 fel cydnabyddiaeth o'i waith cyhoeddus ac yn arbennig am hybu llwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol Daliai swyddi mewn amryw gyrff cenedlaethol adeg ei farw. Bu am flynyddoedd ar Gyngor Cymru, bu'n flaenllaw gyda sefydlu Cymdeithas Awdurdodau Lleol Cymru yn 1927 ac am chwarter canrif ef oedd ei llywydd. Bu'n un o is-lywyddion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Fel aelod o'r llys dangosodd gryn ddiddordeb yng ngwaith Prifysgol Cymru, a chefnogai'n frwd gangen gogledd-ddwyrain Cymru o Urdd y Graddedigion, a bu'n llywydd arni.

Rhoddodd flaenoriaeth i addysg leol, a gwnaeth pwyllgor addysg cylch Wrecsam ef yn gadeirydd. Testun balchter iddo oedd bod yn un o lywodraethwyr ysgol Grove Park. Cadwodd gysylltiad clos drwy gydol ei oes â gweithgareddau capel Seion (MC), Wrecsam, lle'r oedd yn flaenor ac arweinydd y gân. Dibynnai Bwrdd Eiddo Eglwys Bresbyteraidd Cymru 'n drwm ar ei gyfarwyddyd fel ei gyfreithiwr a'i ysgrifennydd mygedol. Ar fwy nag un achlysur pwysodd yr Eisteddfod Genedlaethol ar ei arweiniad mewn cyfyngderau; yn ystod Rhyfel Byd II sylweddolwyd fod y sefydliad yn dioddef oddi wrth reolaeth ddeublyg yr Orsedd a Chymdeithas yr Eisteddfod, profodd ei weledigaeth a'i egni yn gaffaeliad grymus i'r cydbwyllgor a geisiai asio'r ddwy adran yn un corff llywodraethol; bu ei gadernid tawel a'i graffter cyfreithiol yn werthfawr wrth lunio cyfansoddiad i'r cyngor newydd yn 1937 '. Yn ystod y rhyfel daeth eto i'r adwy fel cadeirydd y pwyllgor argyfwng a drefnai'r eisteddfodau. Etholwyd ef yn gadeirydd y cyngor ar farwolaeth Syr D. Owen Evans (Bywg. 2, 14). Cefnogodd y 'rheol Gymraeg' fel callestr a theimlai'i gydeisteddfodwyr ' eu colled o arweinydd mawr i'r Eisteddfod gŵr a'i gadernid cyson a'i bersonoliaeth urddasol yn dŵr o nerth i'r Eisteddfod gwbl-Gymraeg. Nid oedd ynddo ddim cyffredin na gwael ' Rhoddwyd iddo radd LL.D. Prifysgol Cymru er anrhydedd yn 1957.

Cafodd diwylliant ardal Llanbryn-mair afael cryf ar ei ffordd o feddwl a'i ffordd o fyw, gan iddo dreulio llawer o'i wyliau er yn fore ym Mhontdolgadfan, cartref ei dad-cu, William Williams, ('Gwilym Cyfeiliog '). Yr oedd ei ddewis o ' Emyr Cyfeiliog ' fel ei enw yng Ngorsedd y Beirdd yn arwydd o'i ymlyniad wrth y cwmwd hwnnw.

Er dilyn galwedigaeth cyfreithiwr cysegrodd ei fywyd i wasanaethu cymdeithas. Yr oedd yn weinyddwr wrth reddf; yn gynnil ei eiriau, llywiai drafodaeth at gnewyllyn y pwnc gyda sicrwydd a chwrteisi. Carai'r celfyddydau. Credai â'i holl galon yn yr eisteddfod fel cyfrwng i'w meithrin ymhlith y Cymry a diogelu defnydd o'r iaith.

Bu farw yn ddi-blant 11 Gorffennaf 1958, a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Wrecsam.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.