Ganwyd ef yn 1862 yn y Rhos-goch, Rhos-y-bol, Môn. Dechreuodd bregethu c. 1885-86 yn y Gorslwyd, a bu'n arolygu eglwys Rhos-goch am lawer o flynyddoedd. Addysgwyd ef yn ysgol Gwredog, ac fe'i noddwyd gan deulu Gwredog a'i alluogi i fynd i Goleg y Bala. Cymerodd y Prifathro Thomas Charles Edwards ddiddordeb ynddo, a bu'n ysgrifennydd preifat i'r gŵr hwnnw am dymor, - ef a drosodd i'r Gymraeg Ddarlith Davies y prifathro, Y Duw-ddyn. Aeth am daith i'r Almaen a meistroli'r Almaeneg i ryw raddau. Dychwelodd i Fôn a'i ordeinio yn 1897. Cyhoeddodd gyfres o wyth neu naw o esboniadau ar lyfrau'r Testament Newydd rhwng 1901 ac 1923, a bu cryn fri arnynt yn yr ysgolion Sul. Bu'n astudio Athrawiaeth yr Iawn am flynyddoedd, a thraddododd y Ddarlith Davies ar y maes hwnnw yn 1945 gan ei chyhoeddi dan y teitl Grym y groes yn 1948. Cafodd radd D.D. gan brifysgol Princetown (T.U.A.) ar sail traethodau ar yr athrawiaeth a drafodir yn y gyfrol honno. Bu farw 25 Awst 1953 yn Amlwch yn 91 mlwydd oed.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.