WILLIAMS, Syr EDWARD JOHN (TED; 1890 - 1963), gwleidydd

Enw: Edward John Williams
Dyddiad geni: 1890
Dyddiad marw: 1963
Priod: Evelyn Williams (née James)
Rhiant: Ada Williams (née James)
Rhiant: Emanuel Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd 1 Gorffennaf 1890 yn Victoria, Glyn Ebwy, Mynwy, yn fab i Emanuel Williams ac Ada (ganwyd James) ei wraig. Addysgwyd ef yn ysgol wirfoddol Victoria ac ysgol elfennol Hopkinstown, ac yn 1902, ac yntau'n 12 oed, dechreuodd weithio ym mhwll glo Waunllwyd, Glyn Ebwy. Mynychodd ddosbarthiadau nos a ddarperid gan Gyngor sir Morgannwg mewn mwyngloddio, economeg wleidyddol a chadw cyfrifon. Yna symudodd ef a'i rieni i ardal Pontypridd a bu'n ysgrifennydd cyfrinfa'r undeb ac yn gynrychiolydd cyflogau ar gyfer pyllau glo y Great Western rhwng 1909 ac 1913. Enillodd ysgoloriaeth i'r Coleg Llafur, Llundain, yn 1913; treuliodd ddwy fl. yno, a bu'n ddarlithydd rhanbarthol ar ran y coleg ar ôl iddo ddychwelyd i dde Cymru. Dioddefodd gyfnod o ddiweithdra yn 1916-17, dychwelodd i'r pyllau glo yn 1917 a dyrchafwyd ef yn checkweighman y flwyddyn ganlynol. Yn 1919 fe'i penodwyd yn gynrychiolydd y glowyr yn ardal y Garw o Ffederasiwn Glowyr De Cymru yn olynydd i Frank Hodges. Rhwng 1928 ac 1931 bu'n aelod o Gyngor sir Morgannwg a dewiswyd ef yn Ynad Heddwch dros y sir yn 1937. Yr oedd ganddo bob amser gydymdeimlad arbennig tuag at dlodi a chaledi.

Etholwyd ef yn aelod seneddol (Llafur) dros etholaeth Ogwr yn 1931 yn olynydd i Vernon Hartshorn. Bu'n ysgrifennydd seneddol preifat i'r Is-ysgrifennydd dros y Trefedigaethau, 1940-41, i'r Ysgrifennydd Cyllidol i'r Morlys, 1942-43, ac i'r Is-ysgrifennydd Gwladol am Faterion Tramor, 1943-45. Yr oedd yn Weinidog Hysbysiaeth yn 1945-46, swydd â statws y Cabinet iddi er nad oedd o fewn y Cabinet.

Ymddiswyddodd o Dŷ'r Cyffredin yn 1946 pan benodwyd ef yn Uwch-Gomisiynydd yn Awstralia, swydd yr arhosodd ynddi hyd 1952. Cafodd estyniad o flwyddyn yn y swydd oherwydd y parch a enillodd ynddi, cam heb gynsail iddo. Cymerai ddiddordeb arbennig mewn cynlluniau i annog Prydeinwyr i ymfudo i Awstralia. Gwnaed ef yn Ynad Heddwch yn New South Wales yn 1950. Sicrhaodd swydd yn Swyddfa'r Gymanwlad ar Ddadleuon Diwydiannol rhwng 1953 ac 1959. Cyhoeddodd nifer o erthyglau mewn cylchgronau yn ne Cymru a phapurau'r glowyr. Daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor yn 1945 a derbyniodd K.C.M.G. yn 1952. Daliodd yn deyrngar i'r Blaid Lafur ar hyd ei oes.

Priododd yn 1916 Evelyn, merch David James, Lanelay, Pontypridd. Bu iddynt ddwy ferch. Bu farw 16 Mai 1963 yn ei gartref, Canberra, 107 Grove Road, Pen-y-bont ar Ogwr, Morgannwg, a llosgwyd ei weddillion yn amlosgfa Thornhill.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.