Ganwyd 18 Mehefin 1888 yn ferch i Samuel Arthur Williams, Doc Barri, Morgannwg, a oedd â busnes llewyrchus yn ymwneud â llongau ganddo yng Nghaerdydd, a Martha Margaret (ganwyd Lindsay) ei wraig. Cafodd addysg breifat cyn mynychu Coleg Technegol Caerdydd lle enillodd y fedal aur am gelf. Wedi blwyddyn o waith yn ysgol arlunio Pelham, Llundain, symudodd i'r Academi Frenhinol yn 1906 lle cafodd yrfa ddisglair iawn, gan ennill 4 medal arian, ysgoloriaeth deithio, gwobr dirlunio, ac yn 1911 y fedal aur am ei llun 'The city of refuge'. Derbyniodd nifer o gomisiynau cyhoeddus o bwys cyn iddi gyrraedd ei deg ar hugain oed gan gynnwys 'Lloyd George yn dadorchuddio'r cerfluniau cenedlaethol yng Nghaerdydd', a'r 'Gwasanaeth Rhyfel Cymreig yn Abaty Westminster'. Ymhlith ei gweithiau cynnar ceir tirluniau a lluniau testunol, a dengys rhai ohonynt ddychymyg rhyfedd a gwreiddiol megis 'The devil's daughter' a 'The triumph' a arddangoswyd yn yr Academi Frenhinol yn 1917. Serch hynny, trodd yn fwyfwy at bortreadau wedi'r rhyfel a cheir ymhlith ei heisteddwyr gymeriadau mor amrywiol â Henry Ford, Field Marshal Slim ac Ivor Novello, yn ogystal â nifer o eisteddwyr o'r teulu brenhinol.
Gweithiodd Margaret Lindsay Williams y rhan fwyaf o'i hoes yn Llundain, ond yr oedd ei hymrwymiad at Gymru a chelfyddyd Gymreig yn ddwfn. Bu'n agos at arweinwyr yr adfywiad cenedlaethol cyn Rhyfel Byd I, pan baentiodd destunau Cymreig megis y gyfres o ddyfrlliwiau 'Rhiain Llyn-y-fan'. Cefnogodd yr Eisteddfod Genedlaethol yn frwd, ac yr oedd William Goscombe John yn gyfaill iddi. Y mae'n briodol, felly, mai ymhlith y nifer sylweddol o Gymry a bortreadwyd ganddi, yr oedd Syr O. M. Edwards (Bywg., 179). Hi a greodd y ddelwedd ohono sydd yn aros ym meddwl y cyhoedd hyd heddiw yn y portread a wnaed 26 o flynyddoedd ar ôl ei farwolaeth. Bu Margaret Lindsay Williams yn aelod o Gymdeithas Gelf De Cymru, Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion a Gorsedd y Beirdd. Cedwir enghreifftiau o'i gwaith yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac mewn casgliadau preifat a chyhoeddus ledled de Cymru. Bu farw 4 Mehefin 1960, ac fe’i claddwyd ym Mynwent Merthyr Dyfan, y Barri.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.