WILLIAMS, DAVID MATTHEW ('Ieuan Griffiths '; 1900 - 1970), gwyddonydd, dramodydd ac arolygwr ysgolion

Enw: David Matthew Williams
Ffugenw: Ieuan Griffiths
Dyddiad geni: 1900
Dyddiad marw: 1970
Priod: Annie Rebecca Williams (née Morris)
Rhiant: Ann Williams (née Griffiths)
Rhiant: John Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwyddonydd, dramodydd ac arolygwr ysgolion
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Perfformio; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awduron: Evan David Jones, Mary Auronwy James

Ganwyd 3 Mai 1900 yng Nghellan, Ceredigion, yn fab i John ac Ann (ganwyd Griffiths) Williams, a brawd iau i Griffith John Williams. Aeth o ysgol gynradd Cellan yn 1911 i ysgol uwchradd Tregaron. Yn arholiad y Dystysgrif Uwch yn 1918 cafodd y marciau uchaf o bawb yng Nghymru mewn cemeg gan ennill i'r ysgol gydnabyddiaeth arbennig. O Dregaron aeth i Goleg Prifysgol Cymru a graddio'n B.Sc. gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn cemeg yn 1921. Wedi tair blynedd o ymchwil yn Aberystwyth ef yn 1924 oedd y myfyriwr cyntaf ym Mhrifysgol Cymru i ennill Ph.D. Hyd hynny, aelodau staff a gawsai'r radd honno. Bu'n athro cemeg yn ysgol ramadeg Glyn Ebwy, 1924-26 cyn dychwelyd yn ddarlithydd yn adran gemeg C.P.C., Aberystwyth. Yn 1932 penodwyd ef yn arolygwr o dan y Weinyddiaeth Addysg a bu'n gwasanaethu yn arolygwr ysgolion ym Mynwy, Caerfyrddin ac Abertawe, gyda chyfrifoldeb wedyn dros addysg dechnegol a hyfforddi athrawon dros Gymru gyfan. Trwy ei weledigaeth ef y symbylwyd sefydlu yr ysgol Gymraeg gyntaf o dan awdurdod lleol yn Llanelli yn 1947. Meithrinwyd ynddo gariad at lenyddiaeth gan S. M. Powell, yr athro Saesneg yn Nhregaron, a phan oedd yn y coleg ysgrifennodd ddramâu Lluest y Bwci a Ciwrat yn y pair ar anogaeth R. Idwal M. Jones (Bywg., 477). Wedi hynny ysgrifennodd Dirgel ffyrdd, Awel dro ac eraill i Gwmni Wythnos Ddrama Abertawe, ac o leiaf un ddrama ar ddeg dan yr enw 'Ieuan Griffiths', gyda Tarfu'r colomennod, a Dau dylwyth yn eu mysg. Ysgrifennodd a chyfansoddi'r miwsig i opereta a berfformiwyd yng Nghasnewydd yn 1934.

Priododd ag Annie Rebecca Morris yng nghapel Dre-wen, Castellnewydd Emlyn, 6 Ebrill 1939 a bu iddynt ferch. Bu farw yn ei gartref, 42 Palace Avenue, Llanelli, 29 Tachwedd 1970.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.