Ganwyd yng Nghaernarfon yn 1886, yn fab Hugh Williams (a weithiai yn löwr yn ne Cymru) a'i wraig Jane. Gadawodd yr ysgol yn ddeuddeng mlwydd oed ond parhaodd i ddarllen yn eang, a gweithiodd mewn llawer o swyddi tymor byr i'w gynnal ei hun a'i fam. Aeth i dde Cymru i weithio yn y pyllau glo pan oedd yn un ar bymtheg, ond yr oedd yn 1906 pan symudodd yno gyda'i fam i fyw gyda'i dad yn Ynysowen (Merthyr Vale). Yno dechreuodd drefnu cyfarfodydd politicaidd ac annerch ynddynt, ac hefyd ysgrifennu erthyglau i'r Social Democrat, y Social Review a Justice. Yn fuan collodd ei swydd oherwydd ei weithgareddau politicaidd ond gan ei fod yn briod gyda theulu ifanc, derbyniodd swydd fel pwyswr (cynrychiolydd y cyflogwyr) a daeth ei waith politicaidd i ben (er i un o'i feibion, Alun Menai Williams, weithio yn y byd politicaidd, gan ymladd yn Rhyfel Cartref Sbaen).
Dechreuodd ysgrifennu barddoniaeth yn ystod Rhyfel Byd I; ymddangosodd ei waith mewn papurau lleol fel y Merthyr Express a'r Western Mail a chyhoeddwyd ei lyfr cyntaf Through the upcast shaft yn 1920. Dilynwyd hwn gan The passing of Guto (1927), Back in the return (1933) a The simple vision (1945). Er bod ganddo lawer o gyfeillion (gan gynnwys John Cowper Powys) ymhlith llenorion Llundain, yr oedd yn ddi-waith yn aml ac yn 1949 pan oedd y Port Talbot Forum yn weithgar yn ennill pensiwn o'r Rhestr Sifil iddo, yr oedd yn byw ar £2.17s.0c. yr wythnos. Bu fyw yn ei flynyddoedd olaf yn Pen-y-graig yng Nghwm Rhondda. Erys ei hunangofiant heb ei gyhoeddi. Priododd Ann yn 1910. Bu ef farw 28 Mehefin 1961.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.