POWYS, JOHN COWPER (1872 - 1963), nofelydd, bardd, beirniad llenyddol, ac athronydd poblogaidd

Enw: John Cowper Powys
Dyddiad geni: 1872
Dyddiad marw: 1963
Priod: Margaret Alice Powys (née Lyon)
Rhiant: Mary Powys (née Cowper-Johnson)
Rhiant: Charles Francis Powys
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: nofelydd, bardd, beirniad llenyddol, ac athronydd poblogaidd
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Belinda Humfrey

yr unig un o feibion Charles Francis Powys i bwysleisio hawl ei dad i dras Gymreig; ganwyd yn Shirley, swydd Derby, ar 8 Hydref 1872, yn un o un-ar-ddeg o blant. Yno yr oedd y tad yn dal ei fywoliaeth eglwysig gyntaf, ond yn 1879 symudodd i Dorchester, a thrachefn yn 1885 i ficeriaeth Montacute, yng Ngwlad-y-Haf. Yn ei hunangofiant (1934) dywed fod y tad yn cyhoeddi ei ddisgyniad o Rodri Mawr, ‘brenin holl Gymru '. Gellir olrhain achau'r tad dros chwe chanrif i Bowysiaid Trefaldwyn, ac mewn cyfnod diweddarach i'r Syr Thomas Powys cyntaf o Lilford (bu farw 1719). O du ei fam, Mary Cowper-Johnson, cafodd John Cowper Powys waed mwy llenyddol y beirdd John Donne a William Cowper. Addysgwyd ef yn Ysgol Sherborne a Choleg Corff Crist, Caergrawnt.

Yn 1894 drifftiodd i swydd darlithydd i nifer o ysgolion merched yn Hove, Sussex. Ei gyhoeddiad cyntaf oedd Odes and other poems, 1896. Yn yr un flwyddyn priododd Margaret Alice Lyon. Bu iddynt un mab; goroesodd yntau'r wraig a'r mab. Yn 1899 wedi darlith ragarweiniol ar Syr John Rhŷs penodwyd ef yn ddarlithydd teithiol dros fwrdd estyn Prifysgol Rhydychen, a chychwynnodd ar fywyd o grwydro, yn Lloegr i ddechrau, ac i arloesi gyda chyrsiau yn Dresden a Leipzig, yna o 1905, yn America. Dechreuodd ar ei yrfa ddarlithio lwyddiannus iawn yno gyda thaith aeaf o dan nawdd y gymdeithas estyn addysg prifysgol a oedd â'i chanolfan yn Philadelphia. O 1909 i 1929 bu'n darlithio'n llawn amser yn America (gyda hafau yn Lloegr) ac ymweld â phob talaith ond dwy. Yn 1914 aeth ei drefnydd-llwyfan, Arnold Shaw, gŵr o sir Efrog, yn gyhoeddwr, a dechreuodd gyrfa ysgrifennu Powys gydag ysgrif ar The menace of German culture. O fewn dwy neu dair blynedd cynhyrchodd i Shaw ei ddwy nofel gyntaf, Wood and stone a Rodmoor, dwy gyfrol o feirniadaeth lenyddol, Visions and revisions a Suspended judgements, dwy gyfrol farddoniaeth Wolf's bane a Mandragora, a'i gyfran helaeth o Confessions of two brothers (ar y cyd â Llewelyn Powys) i gyhoeddwr arall. Parhaodd i ysgrifennu, mewn trenau ac ystafelloedd gwestai, gan mwyaf yn llyfrau athronyddol ar ‘gelfyddyd hapusrwydd’ hyd at gyhoeddi Wolf Solent yn 1929. Wessex oedd cefndir ei nofelau aeddfed cynharaf, Wolf Solent, A Glastonbury romance (1932), Weymouth sands (1934), a Maiden Castle (1936). Mewn neilltuad yn Upstate, New York, yr ysgrifennodd A Glastonbury romance, Weymouth sands, ac Autobiography. Yn 1934 dychwelodd i Dorset ac yn 1935 ymneilltuodd yn derfynol i ogledd Cymru, yn ôl dymuniad a goleddasai o'i fachgendod, i Gorwen i ddechrau ac yna, yn 1955, i Flaenau Ffestiniog, lle y bu farw 17 Mehefin 1963 yn 91 mlwydd oed. Yr oedd cymeriadau a thestunau Cymreig yn nofelau Wessex, ond yng Nghymru ysgrifennodd y nofelau Morwyn (1937), Owen Glendower (1940), a'i gampwaith Porius (1951) a osodwyd yng Nghymru 499 A.D. Y mae ei weithiau nodedig o'r cyfnod toreithiog hwn yn cynnwys llyfrau ar ei feistri llenyddol, Dostoievsky (1947) a Rabelais (1948), a ffuglen arbrofol fel Up and out (1957), Homer and the aether (1959), ac All or nothing (1960). Dysgodd Gymraeg a gohebu â nifer o lenorion Cymreig enwog. Casglwyd ei weithiau annofelyddol yn Obstinate Cymric (1947).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/