Ganwyd 25 Rhagfyr 1881 yn fab i Peter Williams a Mary Price ei wraig, Brymbo Hall, Wrecsam, Sir Ddinbych. Yr oedd ei dad yn gyfarwyddwr ac yn rheolwr Cwmni Dur Brymbo. Addysgwyd ef yn Ysgol Grove Park, Wrecsam, yn yr Wyddgrug a Phrifysgol Victoria, Manceinion, lle graddiodd yn B.Sc. gydag anrhydedd mewn gwyddoniaeth ac yn M.Sc. Enillodd ei fywoliaeth fel peiriannydd yn Sheffield, Warrington a De Affrica, a daliodd nifer o swyddi gweinyddol uchel. Gwnaeth waith ymchwil ar ddatblygiad diwydiannol Canada. Yn 1924 cafodd ei ethol yn A.S. (Rh.) dros Wrecsam, ar ôl iddo sicrhau dealltwriaeth gyda'r Ceidwadwyr yn yr etholaeth, pan orchfygodd yr hanesydd Robert Richards. Cafodd siom aruthrol pan ailenillodd Richards ei sedd yn 1929 a dyna ddiwedd ar ei yrfa wleidyddol. Gwasanaethodd fel ynad heddwch dros swydd Lincoln, yr oedd yn Annibynnwr a chanddo ddiddordeb mewn cerddoriaeth.
Priododd, 23 Mehefin 1909, Marion, merch Thomas Davies, Brymbo. Yr oedd hi yn awdur nifer o nofelau a dramâu. Ymgartrefent yn Sanddeth House, Gwersyllt, Wrecsam ac am gyfnod yn 42B Courtfield Gardens, Llundain. Bu farw 18 Awst 1965.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/