WILLIAMS, WILLIAM RICHARD (1896 - 1962), gweinidog (MC) a Phrifathro'r Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth

Enw: William Richard Williams
Dyddiad geni: 1896
Dyddiad marw: 1962
Priod: Violet Irene Williams (née Evans)
Rhiant: Catherine Williams
Rhiant: Richard Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC) a Phrifathro'r Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 4 Ebrill 1896 ym Mhwllheli, Sir Gaernarfon, mab Richard a Catherine Williams, ei fam o linach Siarl Marc o Fryncroes. Addysgwyd ef yn ysgol ddyddiol yr eglwys, Penlleiniau, ac yn ysgol sir Pwllheli. Enillodd ysgoloriaeth Mrs Clarke, a'i galluogodd i fynd i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, lle graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Groeg ac ail ddosbarth mewn athroniaeth. Claddwyd ei dad yn 1912, a symudodd ei fam ac yntau i Aberystwyth, gan ymaelodi yn y Tabernacl lle y dechreuodd bregethu. Bu'n gwasanaethu yn y fyddin am dymor yn Rhyfel Byd I. Parhaodd ei addysg yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen, lle graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn diwinyddiaeth. Ordeiniwyd ef yn 1921, a bu'n gweinidogaethu ym Methel, Tre-gŵyr, Morgannwg (1921-22) ac yn eglwys Saesneg Argyle, Abertawe (1922-25). Penodwyd ef yn ddarlithydd cynorthwyol yng Ngholeg Diwinyddol Aberystwyth (1925-27), a bu wedyn yn Athro athroniaeth crefydd (1927-28), a Groeg ac Esboniadaeth y T.N. (1928-49). Ef oedd prifathro'r coleg o 1949 hyd ei farwolaeth yn 1962. Priododd, 1928, Violet Irene Evans o Abertawe, a bu iddynt un mab. Bu farw 18 Rhagfyr 1962.

Yr oedd yn ŵr amlwg yn ei Gyfundeb. Traddododd y Ddarlith Davies yn 1939 ar ' Yr Ysbryd Cenhadol yn yr Eglwys Fore ', ond nis cyhoeddodd. Bu'n Llywydd y Gymanfa Gyffredinol (1960), ac yn llywydd Sasiwn y De (1962). Ymddiddorodd yn yr Ysgol Sul a'r Genhadaeth Dramor a Chartref; bu'n llywydd y Symudiad Ymosodol am flynyddoedd. Yr oedd yn un o brif hyrwyddwyr y mudiad eciwmenaidd yng Nghymru; ef oedd ysgrifennydd cyntaf Cyngor Eglwysi Cymru, a'i lywydd pan fu farw. Yn 1961 etholwyd ef yn gadeirydd pwyllgor Prydeinig y Cynghrair Presbyteraidd (Presbyterian Alliance). Yr oedd yn aelod o'r cydbwyllgor a benodwyd i baratoi cyfieithiad newydd o'r Beibl Saesneg, ac yn 1961 dewiswyd ef yn gyfarwyddwr y pwyllgor a benodwyd i baratoi cyfieithiad newydd o'r Beibl Cymraeg. Cyfrannodd i gylchgronau ei enwad, a chyhoeddodd dair cyfrol o esboniadaeth feiblaidd: Arweiniad i Efengyl Ioan (1930), Yr Epistol at yr Hebreaid (1932), ac Epistol cyntaf Ioan (1943).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.