Ganwyd 18 Ionawr 1893, ail fab yr is-gyrnol Charles Arthur Wynne-Finch o'r Foelas a Chefnamwlch, Caernarfon, a'i wraig Maud Emily (ganwyd Charteris). Addysgwyd ef yng ngholeg Eton ac ymunodd â'r Gwarchodlu Albanaidd. Gwasanaethodd yn Rhyfel Byd I a chael ei glwyfo ddwywaith ac ennill M.C. Gwasanaethodd ym myddin yr Aifft 1919-25 a'r Sudan Defence Force 1925-26 gan gael ei anrhydeddu ag Urdd y Nil. Dychwelodd i weithredu'n gomander ail fataliwn y Gwarchodlu Albanaidd 1931-35 gyda rheng isgyrnol a dyrchafwyd ef yn gyrnol yn 1935. Gwasanaethodd yn Rhyfel Byd II yn swyddog hyfforddi i'r Adran Diriogaethol yn Llundain a gyda'r Gwarchodlu Albanaidd.
Cymerai ddiddordeb deallus mewn amaethyddiaeth ac yn ei ystadau, a bu'n llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Bu'n gadeirydd Pwyllgor Addysg Amaethyddol y sir a rhan bwysig ganddo mewn sefydlu'r coleg Amaeth ym Mhlas Glynllifon. Yn 1945 penodwyd ef yn Arglwydd Raglaw sir Gaern., swydd a ddaliodd hyd 1960; fel Custos rotulorum a Phrif Ustus gosodai bwys mawr ar gadwraeth archifau'r sir. Bu iddo ran allweddol yn sefydlu Swyddfa Archifau sir Gaern. a than ei gadeiryddiaeth ef o'r Pwyllgor Archifau y cyhoeddwyd y Calendar of the Caernarvonshire Quarter Sessions Records 1541-50 yn 1956. Bu'n llywydd Cymdeithas Hanes sir Gaern. o 1957 hyd ei farw. Cyflawnodd nifer o swyddi eraill ym mywyd gweinyddol a chyhoeddus y sir. Gwnaed ef yn farchog yn 1960 a bu farw 16 Rhagfyr 1961. Priododd yn 1929 â Gladys, merch John J. Waterbury a'i wraig, New Jersey, T.U.A. ond ni bu iddynt blant.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.