DAVIES, JOHN (1882 - 1937), ysgrifennydd rhanbarth de Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr

Enw: John Davies
Dyddiad geni: 1882
Dyddiad marw: 1937
Priod: Ruby Davies (née Part)
Rhiant: Jane Davies
Rhiant: William Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgrifennydd rhanbarth de Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Addysg
Awdur: John Davies

Ganwyd 5 Mai 1882, ym Mryn-bedd, Blaenpennal, Ceredigion, yn fab William a Jane Davies. Symudodd y teulu yn 1883 i Gwm Rhondda, a lladdwyd y tad yn nhanchwa pwll y Maerdy, 1885. Dychwelodd y fam a'i phlant i Geredigion, ac yn Llangeitho y magwyd John a'i frawd, Dan. Adweinid ef fel ' John Mardy ' gan ei gyfoedion. Daeth yn drwm dan ddylwanwad traddodiad crefyddol yr ardal. Addysgwyd ef yn ysgol Frytanaidd Llangeitho hyd ei brentisio yn 13 oed i ddilledydd yn y Porth, Rhondda. Ddwy flynedd yn ddiweddarach collodd ei iechyd ac am weddill ei oes gorfodwyd ef gan wendid ei frest i dreulio cyfnodau maith i atgyfnerthu yn Llangeitho, a pharhaodd i ymweld â'r pentre tra bu ei fam byw. Gelwid arno i siarad yn y seiadau yng nghapel Gwynfil, ac yr oedd graen ar ei gyfraniadau bob amser.

Dychwelasai i'r Rhondda erbyn 1898 a deffrôdd streic y glowyr, a barhaodd am chwe mis o'r flwyddyn honno, ei ddiddordeb mewn materion cymdeithasol a diwydiannol. Tyfodd i fod yn ddarllenwr brwd ac ymffrostiai'n ddiweddarach mai ef oedd y cyntaf i ddarllen copi llyfrgell gyhoeddus y Porth o Das Kapital o glawr i glawr. Erbyn 1903 symudasai o'r Rhondda i Abertawe i weithio yn siop fawr Ben Evans ac i gymryd rhan flaenllaw yn Undeb y Gweithwyr Siopau. O 1904 i 1908 gweithiodd mewn siopau yn Llundain, a datblygodd ddiddordeb oes yno ym mhroblemau ymfudwyr o Gymru i ddinasoedd Lloegr. Trwy ei aelodaeth yn eglwys Willesden Green (MC) cafodd ddiwygiad 1904-05 ddylanwad mawr arno. O 1906 i 1914 bu'n byw yng Nghwm Tawe gan gymryd rhan amlwg yng ngwaith y Blaid Lafur Annibynnol. Yr oedd yn un o sefydlwyr Cynghrair Sosialaidd Cwm Tawe, yn ysgrifennydd Cyngor Masnach Abertawe, ac, o 1909, yn aelod o staff yr wythnosolyn sosialaidd, Llais Llafur. Wedi ei wrthod ar gyfer gwasanaeth milwrol gweithiodd o 1914 i 1917 gyda'r Y.M.C.A. ar Salisbury Plain. Yn 1917 bu'n arwain ymchwil, dros Seebohm Rowntree, i gyflwr tai yng ngorllewin Cymru, ac yn 1918 daeth yn drefnydd Undeb y Gweithwyr Amaethyddol yn siroedd Penfro ac Aberteifi.

Ym mis Rhagfyr 1919 dewiswyd ef, allan o 131 o ymgeiswyr, yn ysgrifennydd rhanbarth de Cymru o Gymdeithas Addysgol y Gweithwyr, a daethpwyd i'w adnabod fel ' John Davies WEA '. Bu yn y swydd honno hyd ei farw yn 1937. Yn ystod blynyddoedd cynnar ei ysgrifenyddiaeth yr oedd gan y Gymdeithas broblemau ariannol anodd, ac erbyn 1922 yr oedd cyflog chwe mis yn ddyledus iddo. Daeth yn feistr ar gasglu cyllid oddi wrth gyfoethogion, gan fod ar yr un pryd yn ofalus fod y Gymdeithas yn cael ei gweld ar ochr y dosbarth gweithiol yn awyrgylch bolaryddol y 1920au, e.e. ef oedd ysgrifennydd cofnodion Pwyllgor Streic Caerdydd a defnyddiai offer y Gymdeithas i ddyblygu bwletin lleol y streic. Nid oedd ei ddulliau gweinyddol yn ôl y patrwm, a cheryddwyd ef gan y pencadlys am beidio a chydymffurfio â rheolau trefnu canghennau. Serch hynny, cynyddodd gwaith y W.E.A. yng Nghymru yn gyflym o dan ei arweiniad, a chododd rhif y myfyrwyr a fynychai ddosbarthiadau a chyrsiau o ryw 250 yn 1919-20 i fwy nag 8,000 yn 1937. Yn y frwydr rhwng y Gymdeithas a'r National Council for Labour Colleges am flaenoriaeth mewn addysg gweithwyr yn ne Cymru yng nghyfnod ei ysgrifenyddiaeth ef yr oedd nifer dosbarthiadau ac aelodaeth y W.E.A. yn cael y blaen yn bendant ar rai'r National Council. Heblaw ei waith gyda'r W.E.A. yr oedd John Davies yn gyd-ysgrifennydd Pwyllgor Dosbarthiadau Tiwtorial Prifysgol Cymru ac yn cydweithio'n glòs gyda Thomas Jones yn sefydlu Coleg Harlech. Bu'n aelod o gyngor y Coleg hwnnw o'r dechrau. Yr oedd yn aelod o'r Pwyllgor Addysg Wledig yng Nghymru a sefydlwyd yn 1927 gan Lywydd y Bwrdd Addysg. Yn ystod dirwasgiad y 1930au cymerodd ran weithgar yn yr ymdrechion i liniaru effeithiau tlodi ym meysydd glo'r de, gan weithredu fel cadeirydd pwyllgor gwaith Tŷ Cymuned Senghenydd, ac fel ysgrifennydd Pwyllgor de Cymru y Cyngor Cenedlaethol dros Wasanaeth Cymdeithasol. Ef oedd un o'r ychydig sosialwyr yn y cyfnod rhwng y ddau Ryfel i feddu gwybodaeth bersonol eang o Gymru ddiwydiannol a gwledig fel ei gilydd. Ystyrid ei adnabyddiaeth o Gymru yn hollgynhwysol, ac yn ei flynyddoedd olaf gwnaeth ddefnydd da o'r adnabyddiaeth hon yn y golofn glecs a gyfrannodd bob wythnos, dan y ffugenw ' Watchman ' i rifyn dydd Sadwrn argraffiad Cymru'r Daily Herald. Er cael ei ystyried gan rai yn berson anodd ac ecsentrig yr oedd ganddo anian gyfeillgar, tosturi diorffwys tuag at y difreintiedig, a ffydd anniffodd ym mhosibiliadau addysg oedolion.

Yn 1928 priododd Ruby Part o Wlad-yr-Haf, trefnydd cenedlaethol merched Undeb y Gweithwyr. Ni bu plant o'r briodas. Bu farw 5 Rhagfyr 1937, a chladdwyd ef ym mynwent Capel Gwynfil, Llangeitho. Cyhoeddwyd cyfrol goffa iddo yn breifat gan Wasg Gregynog.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.