Ganwyd yn 1866 a'i fagu yn Ochr y Marian, rhwng Diserth a'r Cwm, Ffllint yn un o saith plentyn Joseph Evans, mwynwr, ac Ann ei wraig. Fe'i dygwyd i fyny yn bur dlawd a bu'n rhaid iddo ddechrau fel gwas fferm pan nad oedd ond deg oed. Yna bu'n gweithio ar bapur newydd yn y Rhyl, The Rhyl Record. Bu hefyd mewn cysylltiad â'r Faner o dan Thomas Gee (Bywg., 257). Aeth i Lundain yn bedair ar bymtheg oed a chymryd rhan flaenllaw yn yr ymgais gyntaf i sefydlu cynulleidfa Undodaidd Gymraeg yn y ddinas honno, ac wedi sefydlu honno yn 1937 parhaodd ei ddiddordeb ynddi dros weddill ei oes. Ysgrifennodd dipyn o'i waith diweddaraf mewn lloches yn ystod cyrchoedd awyr ar Lundain pan gollodd ei gartref. Treuliodd flwyddyn olaf ei fywyd yn nhŷ ei chwaer yn Niserth. Bu farw yn Ysbyty Goffa'r Rhyl, 22 Mai 1948, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Diserth.
Yn 1901 yr oedd yn genhadwr cynorthwyol yn Lerpwl. Y flwyddyn ganlynol penodwyd ef yn olygydd y Christian Life (a'r Unitarian Herald), a bu'n llwyddiannus iawn yn y swydd hyd onid unwyd y cylchgrawn gyda'r Inquirer yn 1929. Ystyriwyd diddymu'r Christian Herald yn golled fawr, oherwydd nid oedd apêl yr Inquirer mor eang. Cyhoeddodd Delta rifyn arbennig yn 1913 i ddathlu canmlwyddiant Deddf y Drindod, ac fe werthwyd 25,000 copi o fewn wythnos. Bu'n gweinidogaethu yn Southend-on-Sea, 1905-07; Portsmouth High Street, 1909-10; Llundain, Woolwich, 1913-17; Bermondsey, 1921-29; Ilford, 1929-32. Ymwelai â chyfarfodydd y Gymdeithas Undodaidd yn siroedd Aberteifi a Morgannwg.
Ymddangosodd llawer o'i ysgrifau yn y Gwyliedydd Newydd a brithwyd rhifynnau'r Ymofynnydd gan ei gyfraniadau, wedi'u sgrifennu dan yr enwau Delta, D D E, a Dewi Hiraddug. Enwau eraill a ddefnyddiai oedd ' Cadfan Rhys ', ' Deiniol Ddu ', ac ' An old sinner '. Mabwysiadu'r enw 'Delta' a wnaeth. Dafydd Evans oedd ei enw gwreiddiol. Ysgrifennai golofn wythnosol i'r Kentish Independent am flynyddoedd o dan yr enw ' An old philosopher '. Cyfrannodd erthygl ar ' Phrenyddeg ' yn ail argr. Y Gwyddoniadur Cymreig, 1896.
Mae ei gynhyrchion yn doreithiog. Yn eu plith y mae dwy nofel, Daniel Evelyn, heretic (1913) a The Rosicrucian (1918). Gweithiau eraill ganddo yw Pethau newydd a hen (1900); The ancient bards of Britain (1906); Hiwmor synnwyr a halen (1937); Rhedeg ar ôl cysgodion (1940); Saviours of men; An argosy of common sense; At y Golygydd (detholiad o lythyrau i'r wasg, 1937-42); Days of youth - hunangofiant ar ffurf nofel; Athrofa Mab y Saer; Jesus the Galilean; Ymdaith Pererin; a Why do we pray? Ceir nifer o'i weithiau yn Llyfrgell Coleg Bangor, yn eu plith eiriau'n cymeradwyo Ymdaith Pererin a chywydd i Delta gan Thomas Gwynn Jones (Bywg. 2, 33) yn 1942, a hefyd lythyr ato yn gwerthfawrogi Rhedeg ar ôl cysgodion yn 1941. Mae'n debyg ei fod yn rhugl mewn Esperanto a Hindustani. Yr oedd yn ddadleuwr pybyr ac yn gymeriad tanllyd.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.