Ganwyd yn Frampton Cotterell, ger Bryste yn 1869, yn drydydd plentyn William Mends Howell (1838 - 1873), gweinidog capel (A) yn y pentref hwnnw a anwyd yn Arberth, Penfro, a'i wraig Harriet (ganwyd Brown); addysgwyd ef yn ysgol Lewisham (Caterham), ac y mae ei enw ddwywaith ar restr anrhydedd yr ysgol. Er ennill ysgoloriaeth ar derfyn ei yrfa yn yr ysgol nid oedd yn ddigon i'w gynnal yng Nghaergrawnt, a'i fam erbyn hyn yn weddw, ac aeth i ddysgu mewn ysgolion preifat yn Ilfracombe, Llundain a Paignton. Yn Hydref 1889 eisteddodd arholiad am ysgoloriaeth (£40) y Prifathro yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ond trechwyd ef gan T.K. Brighouse a chynigiwyd yr ail ysgoloriaeth iddo, honno £10 yn llai. Cynigiodd y prifathro fenthyg iddo fel y codai'r galw, ond ni bu galw gan iddo ennill trwy gymryd disgyblion a chynorthwyo yn ysgol yr Hen Fanc yn y dre. Ar derfyn y flwyddyn yr oedd wedi cwpláu cwrs B.A. Llundain a dechreuodd ddysgu eto mewn ysgol breifat yn Llundain. Cyn pen blwyddyn galwyd ef yn ôl i Aberystwyth i gynorthwyo'r Athro R.W. Genese a dechrau ar gwrs B.Sc. Penderfynodd ennill digon i fynd i'r Almaen i arbenigo mewn Ffiseg ac aeth i ddysgu mewn ysgol breifat yn Clifton. Llwyddodd i fynd i Brifysgol Strassburg yn Hydref 1893 a threulio'r gaeaf yno mewn dygn galedi. Cafodd gynnig swydd athro mewn ysgol fodern o dan aden Coleg y Brenin yn y Strand a dilyn dosbarthiadau yn y prynhawnau yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Cafodd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn arholiadau terfynol B.Sc. yn 1897. Trefnodd fynd i Gaergrawnt i weithio dan J.J. Thomson yn 1898, ond collodd ei iechyd ac o Hydref 1898 i Ebrill 1899 bu'n ailennill nerth yn St Moritz a threulio'r haf mewn ymchwil wyddonol yn Zurich. Gan i'r meddygon wrthod caniatáu iddo ddychwelyd i Gaergrawnt trodd eto i Aberystwyth i dreulio dwy flynedd fel athro gwyddoniaeth yn yr ysgol sir, ac ailafael ym mywyd llenyddol y dre a gwaith cymdeithasol yn y Progress Hall.
Penderfynodd ymfudo i Seland Newydd er mwyn ei iechyd a derbyniodd swydd athro gwyddoniaeth yn ysgol ramadeg Auckland yn haf 1901. Yn 1905 penodwyd ef gan gymdeithas dechnegol Christchurch yn gyfarwyddwr i drefnu a hyrwyddo cynllun dosbarthiadau nos. Ymunodd â'r Crynwyr yn 1906. Cymerodd ddiddordeb arbennig yn addysg merched ac yn 1911 cododd hostel hyfforddi merched mewn gwyddor cartref a magu plant. Rhoddodd Syr Ernest Shackleton hanner elw darlith i greu cnewyllyn cronfa at y gwaith. Yn 1913 penderfynodd llywodraethwyr Coleg Technegol Christchurch (a ddatblygodd o'i waith ef gyda'r dosbarthiadau nos i fod y gyntaf o ysgolion technegol uwchradd y wlad yn 1907) ei ddanfod ar daith drwy orllewin Ewrop ac America, ond oherwydd Rhyfel Byd I ni fedrodd ymweld â dim ond America a Phrydain. Bu cyfnod y rhyfel yn anodd iddo ef fel heddychwr digymrodedd, a cheisiwyd ei ddiswyddo. Dechreuasai ei goleg gyda dim ond 56 o fyfyrwyr ond erbyn 1919 yr oedd dan ei ofal 600 o fyfyrwyr llawn-amser a 1300 o fyfyrwyr rhan-amser. Yn ystod yr ymosod ar ei heddychiaeth yn Christchurch gwasgwyd arno i dderbyn swydd prifathro coleg technegol newydd yn Wellington. Derbyniodd yr her a chyn pen pum mlynedd yr oedd yr adeilad ar ei draed ac erbyn iddo ymddeol yn 1931 yr oedd nifer y myfyrwyr wedi cyrraedd 1033. Ef oedd cynllunydd ac adeiladydd colegau Christchurch a Wellington a'i ddisgyblion ef a'i gydweithwyr a fu'n gyfrifol am ddatblygiad pellach addysg dechnegol yn Seland Newydd.
Priododd ym mis Medi 1894 â Nellie Wheeler, a fu'n amlwg yng nghylchoedd sosialaidd Bryste, gwraig o'r un delfrydau ag yntau. Ni bu iddynt blant a gadawodd draean o'i ystad rhwng y coleg yn Aberystwyth, er cof am y Prifathro Thomas Charles Edwards, ac Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru, at addysg plant gweddwon (A), a deuparth tuag at wasanaeth Cymdeithasol y Crynwyr. Bu farw 20 Mehefin 1944. Yr oedd ganddo ddwy chwaer, Esther Mary, a fu'n ddiacones yn Dudley 1897-1900, Manceinion a Salford, 1900-02, ac o 1902 hyd 1944 yng nghenhadaeth Whitefields, Tottenham Court Road. Bu'r chwaer arall, Mary Emma, yn athrawes yn nheulu Syr Richard Martin yn Llansamlet, ac yn nyrs yn Ysbyty Abertawe am gyfnod o 1895, ac yna mewn ysbytai milwrol yn Ne Affrica, India a'r Aifft, ac yn bennaeth ar Ysbyty Clefydau Heintus dan lywodraeth yr Aifft.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.