JONES, OWEN GLYNNE (1867 - 1899), mynyddwr ac athro ysgol

Enw: Owen Glynne Jones
Dyddiad geni: 1867
Dyddiad marw: 1899
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: mynyddwr ac athro ysgol
Maes gweithgaredd: Addysg; Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Ioan Bowen Rees

Ganwyd 2 Tachwedd 1867 yn 110, Clarendon St., Paddington, y pedwerydd o chwe mab David Jones, saer maen, a'i wraig Eliza (ganwyd Griffiths) y ddau o Abermaw, Meirionnydd. Bu farw ei fam yn 1882 (a'i dad yn 1890) a chafodd Owen a'i unig chwaer Neli (Margaret Ellen) gartref gyda chyfnither a'i gŵr, yr Henadur John Evans, 11 Brogyntyn, Abermaw. Cymraeg oedd iaith yr aelwyd hon. Y mae'n debyg i Owen fod yn yr ysgol yn Abermaw yn ogystal ag yn Llundain cyn ennill ysgoloriaethau i Goleg Technegol Finsbury ac i'r Imperial Institute (Imperial College) lle graddiodd (B.Sc.) yn y dosbarth cyntaf yn 1890. Wedi cyfnod yn ddarlithydd yn yr Institute, penodwyd ef yn athro gwyddoniaeth City of London School yn 1892, y cyntaf i ddal y swydd honno. Ceisiodd am Gadair ffiseg Coleg Aberystwyth yn 1891 ac yn ôl Syr Owen Saunders, F.R.S., mab ei chwaer a Phrifathro Imperial College, 1946-67, cyflawnodd waith ymchwil nodedig.

Ym Mai 1888, heb wybod mwy am fyd dringo nag a ddarllenodd mewn llyfrau ar yr Alpau, esgynnodd Jones grib ddwyreiniol y Cyfrwy ar Gadair Idris ar ei ben ei hun. Prin fod dringo creigiau wedi cychwyn o ddifrif yn Eryri ond yr oedd W. P. Haskett Smith ac eraill wedi bod wrthi yn Ardal Llynnoedd Lloegr ers rhyw 3 blynedd. Aeth Jones i Wasdale yn 1890 a tharo ar rai o'r arloeswyr. Yn wyneb ei gryfder eithriadol, ei ddawn dringo 'oruwchnaturiol bron' a'i agwedd wyddonol, buan y rhagorodd arnynt, nid yn unig wrth arwain dringfeydd newydd ond wrth ddatblygu'r grefft o ddringo. Yn 1894 cyfrannodd adran ar Gadair Idris a'r Aran i ail gyfrol Climbing in the British Isles Haskett Smith, ac yna aeth ati i baratoi cyfrol lawer mwy sylweddol a dylanwadol ei hun: llyfr ar ddringfeydd craig a gyfunai fanylder disgrifiadol gyda hanes ei anturiaethau. Yn Ebrill 1896, ymwelodd â'r brodyr George ac Ashley Abraham, ffotograffwyr proffesiynol o Keswick, a'u hudo i'r creigiau. Ffrwyth partneriaeth gyda hwy oedd clasur Jones, Rockclimbing in the English Lake District (1897) a chyfrol y brodyr, Rock-climbing in North Wales (1906). Gwyddai'r brodyr fod Jones yn paratoi cyfrol arall, daeth rhai o'i nodiadau i'w meddiant ar ôl ei farwolaeth ac aethant ymlaen i 'gyflawni ei ddymuniad ef'. Erbyn hyn yr oedd George Abraham wedi priodi cyfnither Jones, Winifred Davies, merch David Davies, brawd ' Mynorydd ' - hithau hefyd yn ddringreg fedrus ac yn raddedig o Brifysgolion Cymru (Bangor) a Chaergrawnt: hyhi yn wir a ysgrifennodd lyfrau niferus George Abraham ar sail nodiadau ei gŵr. Ond llyfr Jones a roes gychwyn i'r arfer o raddio dringfeydd ac a ddechreuodd boblogeiddio dringo creigiau fel y cyfryw.

O 1891 ymlaen, ymwelai Jones â'r Alpau yn flynyddol. Torrodd dir newydd trwy ddringo yn y gaeaf ond ni ddaeth o hyd i gydymaith cyson o'r safon uchaf, yn dywysydd nac yn amatur. Lladdwyd ef ar 28 Awst 1899, pan gwympodd y tywysydd ar ei ben ar grib orllewinol y Dent Blanche, gan dynnu pedwar o'r parti o bump i lawr y dibyn. Claddwyd ef ym mynwent Evolene a gosodwyd cofebau iddo yn City of London School, yn eglwys Saesneg Zermatt, a ger drws 11 Brogyntyn, Abermaw.

Gwasanaethodd Jones ar bwyllgor cyntaf y Climbers' Club, a ffurfiwyd yn 1898, ac etholwyd ef i'r Alpine Club. Ni dderbyniwyd ef yn llwyr gan gylch mewnol, dethol dringwyr Lloegr, fodd bynnag, a chafodd yr enw ganddynt o fod yn swta. Ond dringai Jones yn aml gyda'i chwaer, ei gefndryd, ei gydathrawon, ei gyd-letywr yn Llundain, W. J. Williams a gyda'r Abrahamiaid (Ymneilltuwyr o dras gwerinol fel yntau) - mae eu tystiolaeth hwy yn hollol i'r gwrthwyneb: felly hefyd y cof amdano ym Meirionnydd. Fel athro yr oedd yn ymroddedig a gafaelgar; fel dringwr credai y dylai pawb ddringo a bod dringo o les i bawb. Erbyn hyn daeth byd dringo llai uchelwrol i'w gydnabod yn arloeswr pennaf y grefft o ddringo creigiau yng ngwledydd Prydain, o ran techneg ac o ran agwedd meddwl. Bwriadai ddringo mynyddoedd uchaf y byd; ychydig cyn ei farwolaeteh gwahoddasai G. W. Young i ymuno ag ef 'for Everest '. Ond yr oedd ei gariad at Gadair Idris yn ddihareb a cheryddai Saeson am gamynganu enwau Cymraeg.

Ymhlith ei esgyniadau cyntaf anhawsaf yr oedd Kern Knotts Crack ar Great Gable (1897) a'r Terrace Wall Variant ar Tryfan (1899): ond y ddringfa fwyaf poblogaidd a grewyd ganddo yw llwybr cyffredin bwtres y Garreg Filltir, lle mae Tryfan yn cyfarfod yr A5 wrth Lyn Ogwen.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.