Ganwyd 4 Rhagfyr 1802 yn Verandah, Abertawe, Morgannwg, yn fab i Calvert Richard Jones. Ef oedd y trydydd o'r teulu i ddwyn yr un enw. Etifeddodd ei daid ran o ystad ' Herbertiaid Abertawe ' yn y 18fed ganrif. Yr oedd ei dad (1766 - 1847) ac yntau yn wŷr amlwg yn Abertawe ac yn gymwynaswyr i'r dref. Addysgwyd ef yn Eton ac yng Ngholeg Oriel, Rhydychen, lle graddiodd yn y dosbarth cyntaf mewn mathemateg. Wedi'i ordeinio yn offeiriad bu ganddo fywoliaethau Casllwchwr a'r Rhath (Caerdydd) am gyfnod, ond treuliai lawer o'i amser yn teithio Ewrop neu'n ymddiddori mewn celfyddyd a cherddoriaeth. Yn Rhydychen bu'n gyd-fyfyriwr â Christopher Rice Mansel Talbot, etifedd ystad fawr Margam a Phen-rhys, a bu'r ddau yn gyfeillion agos ar hyd eu hoes. Drwy deulu Talbotiaid Pen-rhys daeth i wybod yn fuan iawn am ddarganfyddiadau eu cefnder William Henry Fox Talbot o Abaty Lacock, Wiltshire, dyfeisiwr y dull positif-negatif o wneud ffotograff. Oherwydd problemau ymarferol gyda phroses Talbot cymerodd yn gyntaf at broses y 'daguerrotype' a'i meistroli'n llwyr erbyn 1841. Yn ystod yr 1840au bu'n cydweithio gyda Talbot a chyda Ffrancwyr megis Hippolyte Bayard, ac yn ddolen gyswllt pwysig rhwng arloeswyr Ffrainc a Lloegr. Erbyn 1846 yr oedd wedi troi at broses 'calotype' Talbot. Ei waith mwyaf adnabyddus yw'r ffotograffau calotype a dynnodd ddiwedd yr 1840au ar Ynys Malta, yn yr Eidal ac o gwmpas Prydain, gan ddanfon y negyddion at Talbot i'w printio a'u gwerthu.
Etifeddodd ystad Heathfield, Abertawe, yn 1847, ac adeiladu strydoedd sydd bellach yng nghanol y ddinas, gan goffáu ei hanner brawd yn enw Stryd Mansel a'i ail wraig yn enw Stryd Portia. Gadawodd Abertawe yn 1853 a byw ym Mrwsel am gyfnod cyn ymsefydlu yng Nghaerfaddon, lle bu farw 7 Tachwedd 1877. Claddwyd ef yn y capel teuluol yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe, ond chwalwyd y cyfan yn Rhyfel Byd II. Bu iddo un ferch o'i briodas gyntaf a dwy o'r ail briodas.
Cyn troi'n ffotograffydd yr oedd Calvert Jones wedi dangos ei fod yn arlunydd medrus ac y mae ei waith dyfrlliw yn dangos teimlad cryf am liw a ffurf. Yr oedd ganddo ddiddordeb mawr yn y môr a'i bethau, a llongau yw hoff destun ei beintiadau a'i ffotograffau. Cyfansoddai ei luniau yn ofalus ond yn fentrus ac ystyriai ei waith ffotograffig yn gynnyrch artistig. Ganrif ar ôl ei farwolaeth y dechreuwyd sylweddoli eglurdeb ei weledigaeth a'i gydnabod yn un o arloeswyr pwysicaf ffotograffiaeth.
Y mae casgliadau o'i waith yn Llundain yn yr Amgueddfa Wyddonol Genedlaethol, Amgueddfa Victoria ac Albert a'r Amgueddfa Forwrol, ac yng Nghymru yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, ac yn Oriel Glynn Vivian a chasgliad y Sefydliad Brenhinol, Abertawe. Cedwir ei lythyrau at Fox Talbot yng nghasgliad abaty Lacock.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.