LEWIS, WILLIAM MORRIS (1839 - 1917), gweinidog (MC)

Enw: William Morris Lewis
Dyddiad geni: 1839
Dyddiad marw: 1917
Priod: Lettice Maria Lewis (née Lloyd)
Rhiant: Enoch Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC)
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 9 Mai 1839 yn Abergwaun, Penfro, mab y Parch. Enoch Lewis. Addysgwyd ef yn seminari'r Dr George Rees; Coleg y Bala, Coleg Normal Abertawe a Choleg Trefeca. Dechreuodd bregethu yn 1856, ac ordeiniwyd ef yn 1863. Priododd, 1859, Lettice Maria Lloyd, ac ymsefydlodd y ddau yn y Tŷ Llwyd ger Holywell, plwyf Llan-lwy, Penfro. Codwyd ganddynt gapel Treffynnon yn ymyl eu cartref, a buont yn gefn mawr i'r achos. Bu'n llywydd Sasiwn y De yn 1893-94. Cyfrifid ef yn ei ddydd yn gryn ddiwinydd ac ysgolhaig Beiblaidd, a bu'n gohebu ac ysgolheigion megis Adolf Harnack ac H. M. Gwatkin; cyfeillachai hefyd â Thomas Charles Edwards. Cyfrannodd lawer i'r Traethodydd, Y Drysorfa, ac i gylchgronau Saesneg. Cyhoeddwyd ei Ddarlith Davies, ar Edifeirwch, a draddodwyd yng Nghymanfa Gyffredinol 1900. Troswyd ei esboniad ar Yr Epistol at yr Hebreaid i'r Almaeneg, ac addefai W. M. Ramsay rym ei ddadl mai Paul oedd ei awdur. Bu farw 26 Mai 1917, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Holywell.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.