Ganwyd 29 Rhagfyr 1782, yn fab hynaf Richard Lloyd, banciwr o Wrecsam a'i wraig Mary, ac yn or-ŵyr i Thomas Lloyd y geiriadurwr. Addysgwyd ef yn ysgol Rhuthun ac yna, rhwng 1798 ac 1825, gwasanaethodd ym myddin yr East India Company, gan gyrraedd gradd uchgapten yn y Bengal Infantry. Ef oedd pennaeth gwarchodlu Resident Nagpur rhwng 1806 ac 1820. Ymenwogodd nid yn unig wrth frwydro (yn 1817 clwyfwyd ef bedair gwaith yn Rhyfel y Mahratta) ond fel mapiwr. Yn 1822 aeth ar daith hir trwy is-fynyddoedd yr Himalaya cyn belled â Bwlch Boorendo (neu Buan Ghati) ar ffin orllewinol Tibet, yn rhannol yng nghwmni arloeswr enwocaf y cylch, Alexander Gerard (1792 - 1839) o Aberdeen a'i frodyr Patrick a James. Wedi iddynt babellu yn yr eira wrth droed y bwlch a threulio noson arall annifyr ar y bwlch ei hun, dim ond Lloyd aeth ymlaen i ben copa gorllewinol Boorendo (16,880 tr.) ar 13 Mehefin, a gweld ' an assemblage … of all the mountains in the world '. Mae'n amheus a fu neb ond y brodyr Gerard i ben mynydd mor uchel â hyn o'r blaen. Yn bwysicach, dyma'r tro cyntaf i odid neb ddringo copa eiraog yn yr Himalaya er mwyn y peth ei hun yn hytrach nag wrth y gwaith o fapio. Yn bwysicach fyth, achubodd Lloyd y blaen ar ddringwyr Alpaidd canol y ganrif trwy gofnodi ei brofiadau mewn dull byw, rhamantus. ' I had longed ardently to see them, to be upon them, to know them ', ebe Lloyd am yr Himalaya, ' The very impulse brought back to me my schooldays among the purple hills of the Vale of Clwyd.' Yn 1840, cyhoeddwyd dwy gyfrol yn Llundain tan olygyddiaeth ei fab George sy'n cynnwys The narrative of a journey from Cawnpoor to the Boorendo Pass, wedi ei seilio ar ddyddiadur Lloyd, ynghyd â gweithiau byrrach gan Alexander a James Gerard. Cyhoeddwyd ail arg. un-gyfrol yn 1846. Wedi ymddeol, dychwelodd Lloyd i Wrecsam i fyw ar ystad Bryn Estyn, arwain y Denbighshire Hussars Yeomanry a chwarae rhan amlwg ar ochr y Chwigiaid ym mywyd gwleidyddol a chymdeithasol y cylch. Urddwyd ef yn farchog yn 1838 a phenodwyd ef yn is-gyrnol er anrhydedd yn 1854. Bu farw 16 Mai 1857 a'i gladdu ym mynwent hen eglwys Llandudno - yr oedd ganddo dŷ yn y dref.
Credir mai plentyn anghyfreithlon o fam Indiaidd oedd ei fab GEORGE LLOYD (1815 - 1843), Ganwyd 17 Hydref 1815. Yn seithmlwydd oed, yr oedd gyda'i dad yn ystod wythnosau cyntaf ymgyrch 1822 ond gadawyd ef ar ôl yn Kotgarh. Bu hefyd yn crwydro'r Alpau gyda'i dad. Yn ogystal â golygu gwaith ei dad, golygodd An account of Koonawur in the Himalaya (1841), hanes holl deithiau Alexander Gerard. Dywedir iddo gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth. Bu farw 10 Hydref 1843, yn ymyl Thebes yn yr Aifft, wedi ' damwain gyda dryll '.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.