LYNE, HORACE SAMPSON (1860 - 1949), llywydd Undeb Rygbi Cymru 1906-1947

Enw: Horace Sampson Lyne
Dyddiad geni: 1860
Dyddiad marw: 1949
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llywydd Undeb Rygbi Cymru 1906-1947
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Gareth W. Williams

Ganwyd yng Nghasnewydd, Mynwy, 31 Rhagfyr 1860 yn fab i Charles Lyne, maer y dref yn 1856 ac 1884. Addysgwyd ef yn Plymouth a'r Royal Naval College. Cyfreithiwr ydoedd wrth ei alwedigaeth. Chwaraeodd dros glwb rygbi Casnewydd fel cefnwr yn 18 oed, ond fel blaenwr deallus yr enillodd ei blwy fel capten y clwb 1883-84, a 6 chap dros Gymru 1883-1885. Fel cynrychiolydd y gêm yng Nghymru, bu'n un o sylfaenwyr y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn 1886-87, a bu ei wasanaeth iddo'n ddi-dor, 1887-1938. Bu'n Llywydd urddasol Undeb Rygbi Cymru am gyfnod hwy na neb. Ef a Walter E. Rees a lywiodd rhyngddynt faterion rygbi yng Nghymru gydol hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Bu'n amlwg ym mywyd cyhoeddus Casnewydd, ac urddwyd ef â rhyddfraint y dref yn 1934. Penodwyd ef yn ganghellor Esgobaeth Mynwy yn 1938, a bu'n aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru. Bu farw 1 Mai 1949 yng Nghasnewydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.