MORRIS, ROBERT DAVID (1871 - 1948), llyfrwerthwr teithiol ac awdur

Enw: Robert David Morris
Dyddiad geni: 1871
Dyddiad marw: 1948
Priod: Elizabeth Morris (née Hughes)
Priod: Elizabeth Morris (née Roberts)
Rhiant: Hannah Morris
Rhiant: David Morris
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llyfrwerthwr teithiol ac awdur
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Derwyn Morris Jones

Ganwyd yn y Nant, Coed-poeth, Dinbych, 18 Rhagfyr 1871, yn fab i Dafydd a Hannah Morris. Gadawodd yr ysgol yn gynnar a mynd i weithio i'r pwll glo. Wedi rhai blynyddoedd yno, agorodd siop lyfrau Gymraeg a phapur newydd ar y Stryd Fawr yng Nghoed-poeth. Yn 1920au dechreuodd deithio drwy siroedd gogledd Cymru yn gwerthu llyfrau Cymraeg. Byddai'n eu casglu o Wasg y Brython (Hugh Evans a'i Feibion, Lerpwl) a Hughes a'i Fab, Wrecsam. Daeth ef a'i fodur bach yn adnabyddus i rai cannoedd o bobl yng nghefn gwlad, a galwai heibio i ffermydd a thyddynnod diarffordd yn gyson. Daliodd ati hyd ei farw, ac yr oedd yn un o'r llyfrwerthwyr teithiol olaf yng Nghymru.

Er na chafodd ond ychydig addysg ffurfiol, pan welodd yr angen am lenyddiaeth ysgafn Gymraeg, ceisiodd gwrdd â'r angen hwnnw. Meddai yn y rhagair i'w ail nofel: ' esgus yr ieuanc darllengar yw, - nad oes digon o nofelau Cymraeg i'w cael fel ag i'w di-esgusodi rhag darllen y nofelau Saesneg sydd mor boblogaidd yng Nghymru. Diau un o'r moddion effeithiolaf i gael y Gymraeg yn ôl yw y nofel. ' Bu cryn ddarllen ar ei nofel gyntaf Derwyn (1924). Fe'i dilynwyd gan Serch Gwalia (1925), Merch y castell (1928) a Llwybr y merthyr (1935). Cyhoeddodd ddwy gomedi, Ffordd Sera Parri a Gŵr Betsan Huws, a'r ddrama Y Clwyf yn cyflwyno darlun o alanas Rhyfel Byd I ar deulu arbennig. Bu amryw byd o gwmnïoedd ar hyd a lled Cymru yn perfformio'i gomedïau.

Yr oedd ynddo awydd cryf i newid pethau yng Nghymru. Bu'n un o arweinwyr yr I.L.P. yn ei ardal. Gwrthryfelai yn erbyn y drefn a wnaeth y Gymraeg yn iaith crefydd a chapel ac a orseddodd y Saesneg yn iaith addysg a masnach. Mynnai siarad Cymraeg yn siopau Wrecsam oedd wedi coleddu'r ffasiwn newydd. Cyflwynodd ei nofel gyntaf i'r A.S., E. T. John 'am ei sêl a'i ymdrech dros Gymru '.

Bu'n athro Ysgol Sul am flynyddoedd lawer ar ddosbarth o ddynion ieuanc yn Salem, Coedpoeth. Dysgodd y bechgyn hynny i gasáu pob rhyfel, a thaniodd amryw ohonynt â'i weledigaeth o fyd mwy cyfiawn.

Priododd ag Elizabeth Roberts, Nant, Coed-poeth, a fu farw yn 1906; ac ag Elizabeth Hughes o Flaenau Ffestiniog. Bu farw 1 Awst 1948 yn 77 mlwydd oed. Fe'i claddwyd ym mynwent gyhoeddus Coedpoeth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.