Ganwyd 21 Awst 1840 ym Mron yr Haul, (Blaenau) Llangernyw, Sir Ddinbych, y trydydd o wyth o blant. Symudai'r teulu'n aml gan mai adeiladu a gwerthu tai oedd gwaith eu tad. Dechreuodd ymddiddori mewn mesur tir a dod yn bur fedrus yn y grefft. Pan oedd yn 13 oed rhoes gynnig ar bregethu. Mynychodd ysgol yn Abergele am blwc a dywedir iddo fod am ysbaid yn y Mechanics Institute, Lerpwl. Tua 1853 sefydlwyd Cymdeithas Lenyddol yn y Pandy ac yno y dysgodd ramadeg Caledfryn. Yn 1861 enillodd dystysgrif Cymraeg yng Ngholeg Hyfforddi Caernarfon ond ni allodd gael mynediad i'r Coleg Normal am nad oedd digon o le yno. Fe'i cyfrifai ei hun fel ' Bardd Mawr y Pandy, B.B.D. '. Penderfynodd gartrefu yng Nghlynnog lle'r oedd Eben Fardd (Ebenezer Thomas 'hynafol batriarchaidd' yn cadw ysgol a'r post. Gwahoddwyd ef i gynllunio ysgol newydd yn y pentref fel y gallesid ei haddasu'n dai, pe deuai galw. Y mae sôn amdano'n cadw ysgol yn Llanllyfni ond troes i ymddiddori fwy-fwy mewn dyfeisiadau ac, yn arbennig, yn egwyddor 'mudiad parhaus'. Cynlluniodd, ac adeiladu, llong awyr ac (yn ôl ei ferch) yn rhai o adeiladau gwesty Beuno Sant (heddiw) y bu hynny. Bu nifer o grefftwyr yr ardal yn ei gynorthwyo a deuai rhai gwŷr pwysig i ymweld ag ef. Llesteiriwyd ei gynlluniau gan brinder arian. Derbyniwyd ei gynllun (rhif 110,201) ar gyfer ' A propeller or driving wheel to put in motion vehicles, boats and flying machines ' gan y Patent Office ar 14 Hydref 1916. Ef a gynlluniodd a chodi Bryn Eisteddfod, Clynnog (ei gartref). Gŵr hamddenol, di-ffrwst ydoedd ac arferai aros ar ei draed tan berfeddion. Yr oedd yn ddiarhebol am golli trên. Cynorthwyai lawer i lunio ewyllysiau. Ef oedd un o brif ysgogwyr Cwmni Moduron Clynnog a Threfor (Moto Coch) tuag 1912. Tadogir arno declyn a alluogai giard trên i agor a chau drysau a dyfeisiodd ganhwyllbren gyda gefail ynghlwm wrthi i ddal y gannwyll. Rhagwelai ddyfais a alluogai bobl i weld lluniau o wledydd pell. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy, ysgrifennai i gylchgronau a newyddiaduron Cyfundebol (MC) a beirniadai mewn eisteddfodau lleol yn arbennig Cylchwyl Lenyddol a Cherddorol Capel Uchaf - adeilad arall y bu a wnelo â'i gynllunio. Priododd ferch Hafod-y-wern, Clynnog, a bu'n amaethu yno ynghyd â bugeilio'i braidd yn eglwysi (MC) Seion, Gyrn Coch a Chapel Uchaf. Ganwyd iddynt bump o blant. Wedi marw ei wraig priododd chwaer y Parch. R. Dewi Williams a ganed iddynt fab a merch. Bu farw yn sydyn 3 Mehefin 1922 a'i gladdu ym mynwent eglwys Clynnog, er mai yn ardal ei febyd y dymunai gael bedd. Awdur : Gweithiau Barddonol Eben Fardd (ar y cyd â Wm. Jones, ieu.; 1873?), Llyfr Genesis ar Gân; Tlysau Beuno (1902).
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.