ROBERTS, EDWARD STANTON (1878 - 1938), Athro ac ysgolhaig

Enw: Edward Stanton Roberts
Dyddiad geni: 1878
Dyddiad marw: 1938
Priod: Annie Roberts (née Roberts)
Rhiant: Martha Roberts
Rhiant: Robert Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Athro ac ysgolhaig
Maes gweithgaredd: Addysg; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Dylan Iorwerth

Ganwyd 11 Mawrth 1878, yn 'Edeyrnion', Cynwyd, Meirionnydd, yn fab i Robert a Martha Roberts. Crydd oedd ei dad, 'cofiadur pennaf yr ardaloedd' yn ôl Cwm Eithin Hugh Evans. Addysgwyd Stanton Roberts yn ysgol fwrdd Cynwyd lle bu wedyn yn ddisgybl-athro o 1892 i 1896. Enillodd ysgoloriaeth y Frenhines i'r Coleg Normal, Bangor, a bu yno o 1896 i 1898 gan ennill tystysgrif dosbarth cyntaf. Am ddeufis yn 1898 bu'n athro yn ysgol hyn Victoria yn Harrington, swydd Cumberland, cyn mynd i ysgol y Ponciau, Rhos-llannerchrugog, lle bu o 1898 hyd 1905. Yn 1905-6 dysgai yn ysgol gyngor Longmoor Lane, Lerpwl, ac yn 1907 aeth yn brifathro cynorthwyol ysgol Glanadda, Bangor. Yn Hydref y flwyddyn honno fe'i derbyniwyd yn fyfyriwr i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle'r enillodd nifer o wobrwyon a graddio gydag anrhydedd yn y Gymraeg yn 1911. Tra'n fyfyriwr bu'n cyd-letya â T. H. Parry-Williams . Yn 1917 cafodd radd M.A. am ei waith ar ' Llysieulyfr Meddyginiaethol William Salesbury '. Yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth y bu o 1912 i 1915 yn copïo a golygu llawysgrifau ar ran Urdd y Graddedigion. Daeth y rhyfel i dorri ar ei waith yno a throes yn ôl at ddysgu. Bu'n brifathro ysgol Pentrellyncymer, 1916-20, ysgol Cyffylliog 1920-31, ac ysgol Gellifor o 1931 hyd ei farwolaeth 26 Awst 1938, mewn damwain ar feic ger Birmingham. Fe'i claddwyd ym mynwent Cynwyd. Yn 1919 priododd ag Annie, merch Robert ac Alice Roberts, Cefn Post, Llanfihangel Glyn Myfyr, a bu iddynt dri o blant.

Yr oedd yn ysgolhaig da ac, ym marn rhai, yn un o balaeograffwyr gorau Cymru yn ei ddydd. Yr oedd hefyd yn fardd ac englynwr. Oddi ar ddyddiau Aberystwyth bu'n gyfaill mynwesol i T. Gwynn Jones a dystiodd i addfwynder a dewrder Stanton Roberts yn ogystal ag i'w ddiwylliant. Safodd fel heddychwr gerbron nifer o Dribiwnlysoedd Gwasanaeth Milwrol yn ystod y Rhyfel Byd I a bu hyn yn gryn rwystr i'w yrfa'n ddiweddarach. Bu'n flaenor (MC) am flynyddoedd ond yn 1930 ymunodd â'r Crynwyr yn bennaf oherwydd ei siom at agwedd yr enwadau mwy tuag at ryfel. Er hynny parhaodd fel athro Ysgol Sul yng Nghapel (MC) Gellifor. Cafodd ddylanwad mawr ar y plant a fu dan ei ofal a bu'n gweithio'n gyson gydag Urdd Gobaith Cymru.

Cyhoeddodd ysgrif ar T. H. Parry-Williams yn Yr Ymwelydd Misol, Tachwedd 1912, a'r rhagarweiniad i restr testunau Eisteddfod Genedlaethol Corwen, 1919. Yn 1916 ymddangosodd Y Llysieulyfr Meddyginiaethol a briodolir i William Salesbury. Copïodd a golygodd argraffiadau o lawysgrifau Llanstephan 6 (1916), Peniarth MS 67 (1918) a Peniarth MS 57: Barddoniaeth (1921). Yn 1927 cyhoeddwyd Peniarth MS 53 a Peniarth MS 76 a gopïwyd ganddo ef.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.