THOMAS, IFOR (1877 - 1918), daearegwr ac arolygydd ysgolion

Enw: Ifor Thomas
Dyddiad geni: 1877
Dyddiad marw: 1918
Rhiant: Margaret Thomas
Rhiant: Dafydd Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: daearegwr ac arolygydd ysgolion
Maes gweithgaredd: Addysg; Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: Huw Walters

Ganwyd yn Commercial Place, Glanaman, Sir Gaerfyrddin, 24 Tachwedd 1877, yn fab i Dafydd Thomas ('Trumor '; 1844 - 1916) a'i wraig Margaret. Yr oedd ei dad, a oedd y löwr yng nglofa Gelliceidrim, Cwm Aman, yn fardd a hanesydd lleol, ac yn ohebydd cyson i'r wasg newyddiadurol Gymraeg. Cyhoeddwyd ei draethawd arobryn Hen Gymeriadau Plwyf y Betws yn 1894 (ail argr., 1912). Addysgwyd Ifor Thomas yn ysgol y Bwrdd, Glanaman, lle bu hefyd yn ddisgybl athro, ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd yn B.Sc. Ar ôl cyfnod byr fel athro yng ngholeg Wellington ac ysgol uwchradd Bryn-mawr, aeth i Brifysgol Marburg yn yr Almaen i astudio daeareg a phalaeontoleg dan yr Athro Emanuel Kayser. Dysgodd Almaeneg yn ystod y cyfnod hwn a graddiodd yn Ph.D. yn 1905. Dychwelodd i Lundain y flwyddyn honno pan benodwyd ef i staff y Geological Survey yn Jermyn Street, ac etholwyd ef yn Gymrawd o'r Gymdeithas Ddaearegol. Enillodd radd D.Sc. Prifysgol Cymru yn 1911. Yr oedd ganddo ddiddordeb mawr mewn addysg a phan gollodd ei iechyd yn 1912 dychwelodd i Gymru ar ei benodi'n un o Arolygwyr Ysgolion ei Mawrhydi, gan ymgartrefu yn Abertawe. Gosodai bwyslais mawr ar ddysgu'r Gymraeg yn yr ysgolion mewn cyfnod pan nad oedd hynny'n ffasiynol, ac enilloddd barch ac edmygedd Syr Owen M. Edwards am ei waith dros y Gymraeg. Ysgrifennodd lawer o erthyglau ysgolheigaidd ar bynciau daearegol yn The Geological Magazine, a chafwyd ysgrifau ganddo yn Seren Gomer a'r Geninen. Yr oedd ymhlith y cyntaf i drafod diddordebau daearegol Edward Lhuyd yn Gymraeg. Ymhlith ei brif weithiau cyhoeddedig gellir nodi: The British Carboniferous Orthotetinae, (1910); The British Carboniferous Producti (1914); The Trilobite Fauna of Devon and Cornwall (1909); A New Devonian Trilobite and Lamellibranch from Cornwall (1909); A Note on Phacops (Trimerocephalus) Laevis (Münst) (1909); Neue Beiträe zur Kenntnis der Devonischen Fauna Argentiniens (1905). Bregus fu ei iechyd erioed, a dychwelodd i'w hen gartref yng Nglanaman yng ngwanwyn 1918 lle bu farw'n ŵr dibriod ar Fawrth 30 yr un flwyddyn. Claddwyd ef ym mynwent Bethesda, eglwys (B) Glanaman.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.