WILLIAMS, JOHN ('J.W. Llundain '; 1872 - 1944) masnachwr llechi

Enw: John Williams
Ffugenw: J.w. Llundain
Dyddiad geni: 1872
Dyddiad marw: 1944
Priod: Margaret Jane Williams (née Lloyd)
Rhiant: Catherine Williams (née Jones)
Rhiant: John Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: masnachwr llechi
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd yn Nhŷ Capel Rhostryfan, Llanwnda, Caernarfon, 22 Medi 1872, yr hynaf o saith o blant John Williams, chwarelwr, a Catherine ei wraig, merch Robert a Jane Jones, Llandwrog. Brawd iddo oedd William Gilbert Williams, yr hanesydd lleol. Cafodd John ei addysg yn ysgol fwrdd Rhostryfan cyn dechrau yn chwarel y Braich ym mis Gorffennaf 1885 a bu yno am tua phum mlynedd nes i ddwfr lanw twll y chwarel. Wedi rhai misoedd yn chwarel Moeltryfan penderfynodd geisio gwella'i fyd yn Lerpwl. Bu'n gweithio mewn lle naddu meini melin, ffowndri atgyweirio llongau, ystordy cotwm, warws Morris Jones, gwaith llongau Laird, gefail gof a iardau coed. Yn 1898 aeth yn glerc i adeiladydd yn Neston ond ansicr oedd y rhagolygon yno, a derbyniodd le fel goruchwyliwr mewn busnes llechi a gwaith toi yn Llundain ym mis Ionawr 1900. Daeth y fusnes honno i ben yn 1904 ond cafodd swydd gyffelyb gyda chwmni oedd yn datblygu ym myd toi adeiladau. Priododd â Margaret Jane, ail ferch Edward Lloyd, Pen-y-fron, Derwen, Sir Ddinbych ym mis Rhagfyr 1900 a magu dwy ferch a dau fab. Ym mis Medi 1923 gwireddwyd ei freuddwyd o gychwyn ei fasnach defnyddiau toi ei hun, gyda'i fab hynaf yn glerc. Sicrhaodd iard gyfleus i'w ddefnyddiau toi mewn tri bwa pont reilffordd yr L.M.S. yng ngorsaf Queen's Park. Bu'r anturiaeth yn llwyddiant gyda digonedd o waith gydag agor heolydd ac adeiladu ystrydoedd o dai newydd yn ystod y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel.

Ym mlynyddoedd cynnar ei yrfa yn Lerpwl buasai ganddo ddiddordeb ym mywyd y capeli a'r cymdeithasau diwylliadol Cymraeg, ond collodd y cysylltiadau dros dro. Yn Llundain daeth i gysylltiad â nifer o lenorion da o Gymry a dechreuodd yntau ymddiddori yn y mesurau caeth. Dysgodd ganu'r piano ei hunan a chanu'r organ. Wedi dechrau mynychu capel Willesden Green ymroddodd i gymryd rhan ym mhob adran o'r gwaith yno gan ddod yn arweinydd canu ac athro ysgol Sul. Safodd yn gadarn dros ddefnyddio'r Gymraeg yng nghyfarfodydd y Cymry yn Llundain. Ar ei awgrym ef y cychwynnwyd yn 1925 gyhoeddi papur newydd i Gymry Llundain, Y Ddolen, gydag ef yn gofalu am gywirdeb yr iaith Gymraeg a David Rowland Hughes yn gydolygydd; parhaodd y papur hyd mis Ionawr 1941. Darlithiai a chynhaliai ddosbarth ar y cynganeddion gan ysgrifennu erthyglau ar y gynghanedd i'r Brython, 1934-38, yn ogystal â'i golofn wythnosol ' Ymhlith Cymry Llundain ' i'r papur hwnnw. Cyhoeddodd ei hunangofiant ynghyd ag englynion ac emynau o'i waith yn Hynt gwerinwr.

Bu'n byw am gyfnod yn 4 Wrentham Ave., Willesden ac yn Okehampton Road cyn dychwelyd i Gymru tuag 1940 a chartrefu yng Ngwynfa, Llandwrog, Sir Gaernarfon, lle y bu farw 30 Mai 1944.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.