WILLIAMS, WILLIAM GILBERT (1874 - 1966), ysgolfeistr a hanesydd lleol

Enw: William Gilbert Williams
Dyddiad geni: 1874
Dyddiad marw: 1966
Rhiant: Catherine Williams (née Jones)
Rhiant: John Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr a hanesydd lleol
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awduron: Mary Auronwy James, Gareth Haulfryn Williams

Ganwyd yn Nhŷ'r Capel, Rhostryfan, Llanwnda, Caernarfon, 20 Ionawr 1874, yn fab i John Williams, chwarelwr, a'i briod Catherine (ganwyd Jones). Brawd iddo oedd ' J. W. Llundain ' (JOHN WILLIAMS). Gadawodd yr ysgol leol yn naw mlwydd oed i weithio yn chwarel y Cilgwyn ond dychwelodd yno yn ddisgybl-athro ac ennill ysgoloriaeth i fynd yn fyfyriwr yn y Coleg Normal, Bangor, 1892-94. Penodwyd ef yn ysgolfeistr cyntaf ysgol Felinwnda, Llanwnda, yn 1895, a bu mewn swydd gyffelyb yn Rhostryfan o 1918 hyd ei ymddeoliad yn 1934. Yr oedd yn arloeswr o ysgolfeistr, yn defnyddio'r Gymraeg yn gyfrwng addysg, a chael y plant i ymddiddori yn hanes a diwylliant eu bro. Disgrifiodd ei ffordd o ddysgu yn Y Cymro bach (1909). Bu'n amlwg ym mywyd cyhoeddus y sir fel cynghorwr lleol a sirol (1951-61). Etholwyd ef yn flaenor yn Horeb (MC) yn 1909, bu'n llywydd henaduriaeth Arfon, a derbyniodd fedal Gee c. 1962 am ei ddiwydrwydd gyda'r Ysgol Sul dros gyfnod maith.

Yr oedd yn hanesydd o bwys a ddarlithiodd lawer yn yr ardaloedd cylchynol ar hanes lleol, ac yr oedd yn un o sefydlwyr a llywydd (1947-57) Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. Argraffodd rai o'i weithiau â'i law ei hun a'u rhwymo'n llyfrynnau. Cyfansoddodd ddwy ddrama mewn cynghanedd, cywyddau ac englynion di-rif. Ymhlith ei lyfrynnau niferus ceir Cerddi gogan - beirdd newydd (1904-06), Hanes pentref Rhostryfan (1926), Breision hanes o 1688 hyd 1720 (1928), Olion hynafol (1944) a llyfr caneuon ysgol. Ymddangosodd llawer o'i erthyglau mewn cylchgronau a phapurau lleol, yn enwedig yn Y Genedl, lle y codai ambell anghydwelediad rhyngddo ef a'i ffrind Bob Owen (ROBERT OWEN) sydd yn amlygu dull mwy disgybledig ac academaidd Gilbert Williams o astudio hanes. Bu'n ysgrifwr i'r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 a chyhoeddwyd detholiad o'i waith (Gareth Haulfryn Williams, gol.) yn Moel Tryfan i'r traeth (1983). Cafodd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1930 am ei gyfraniad helaeth i hanes y genedl. Cedwir rhai o'i lawysgrifau yn archifdy Caernarfon a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu farw, 10 Hydref 1966, yn fab gweddw yn ei gartref, Tal-y-bont, Rhostryfan.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.