Ganed David Bowen 29 Tachwedd, 1933 yn Abertawe lle roedd ei rieni, Henry a Violet (née Beynon) Bowen yn cadw siop groser. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Ramadeg Abertawe (1945-1952) cyn mynd i Goleg y Brifysgol, Caerdydd, yn 1952. Graddiodd yn 1955 gydag Anrhydedd yn Hebraeg ac aeth yn ei flaen i'r Coleg Coffa, Aberhonddu, am dair blynedd. Yn Aberhonddu daeth o dan ddylanwad Y Prifathro, Dr. Pennar Davies, a dechreuodd ddysgu Cymraeg. Enillodd radd B.D. yn 1958; yna fe aeth, gyda chymorth ariannol Cyngor Eglwysi'r Byd, yn fyfyriwr ymchwil i Brifysgol Princeton, U.D.A., lle enillodd radd MTh. am ei draethawd ar Eglwys De India yn 1959. Tra oedd yn America, aeth am gyfweliad i swyddfa C.E.B. yn Efrog Newydd. Wrth aros ei dro, dechreuodd sgwrsio gyda dyn ifanc arall â golwg y Dwyrain Pell arno; ar ôl y cyfweliad fe ddarganfu David Bowen mai'r Dalai Lama oedd hwnnw a oedd newydd ffoi o Tibet. Yn 1960 cafodd ei ordeinio yn weinidog ar Eglwys Gynulleidfaol Castle Street, Tredegar, Sir Fynwy lle y bu'n gweinidogaethu am dair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn cyfarfu ag Almaenes ifanc, Gerda Hofmaier o ddinas Ulm (Gorllewin yr Almaen) mewn gwersyll gwaith haf a drefnwyd ganddo yn Abertawe; priodwyd y ddau yn 1963 ac yn yr un flwyddyn aethant, ill dau, o dan nawdd y London Missionary Society i Orllewin Samoa, lle penodwyd David yn brifathro Coleg Diwinyddol Malua. Treuliodd bum mlynedd yno. Wedi dychwelyd i Brydain yn 1968, fe'i penodwyd yn athro ysgol yn Stepney, Dwyrain Llundain, mewn ardal aml-hiliol ac ar yr un pryd yn weinidog rhan-amser yn Debden, ger Chigwell. Yn ystod y blynyddoedd hyn ganwyd i Gerda a David ddau fab, Steffan (1969) a Ceri (1972). Cafodd ei benodi yn ddarlithydd mewn Astudiaethau Crefydd yng Ngholeg Hyfforddi Bradford yn 1973, ac yno y bu tan ei ymddeoliad yn uwch-ddarlithydd yn 1999.
Ymddiddorai yn enwedig yn y berthynas rhwng Cristnogaeth a chrefyddau eraill ar lefel academaidd ac ar lefel ymarferol. Bu'n hynod o weithgar yn Bradford yn ceisio cymodi rhwng y gwahanol grefyddau ar adeg gythryblus iawn yn hanes y ddinas honno. Yn 1981 bu'n olygydd y gyfrol Hinduism in England a gyhoeddwyd gan Bradford College. Ceir ynddi hefyd bennod o'i eiddo ar 'The Hindu Community in Bradford'. Yn 1985 enillodd radd PhD (Leeds) am ei draethawd ar y testun, 'The Sathya Sai Baba Hindu Community in Bradford' a ymddangosodd fel llyfr yn 1988. Yn yr un flwyddyn David Bowen oedd y sylwebydd swyddogol ar yr oedfa Hindŵaidd gyntaf a ddangoswyd ar y teledu ym Mhrydain. Ym mis Ebrill 1999 cyhoeddwyd cerdd o'i eiddo yn Coracle, cylchgrawn swyddogol Cymuned Iona (yr Alban) yn dwyn y teitl, 'Who's Jesus Anyway?'. Ysgrifennodd ail fersiwn ohoni o dan y teitl, 'Gentle Jesus, the Contraversialist'; ymddangosodd cyfieithiad Cymraeg ohoni (gan G. L. Jones) yn y cylchgrawn Cristion yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2000 yn dwyn y teitl, 'Iesu Tirion, Y Pryfociwr', ond heb eglurhad o'r cefndir. Yn anffodus, bu farw David Bowen o gancr 15 Mai 2000, ychydig o wythnosau cyn i'r cyfieithiad ymddangos.
Roedd ei angladd ar Fai 22, 2000, yng nghapel Little Lane, Bradford, yn adlewyrchiad trawiadol o'i fywyd ac o'i ymrwymiad i oddefgarwch Cristnogol. Cymerwyd rhan gan gynrychiolwyr o'r cymunedau Cristnogol, Iddewig, Islamaidd, Hindŵaidd a Sikh. Cyhoeddwyd y Fendith yn Gymraeg gan Y Parchedig Dewi Lloyd Lewis, Caerdydd, a fu'n gyfoeswr i David yn Aberhonddu. Amlosgwyd ei weddillion ar ddiwrnod ei angladd yn Bradford. Yn ei deyrnged a ymddangosodd yn Y Tyst (22 Mehefin 2000) mae'r Parchedig Ivor Thomas Rees, Abertawe, yn disgrifio David Bowen fel 'Cristion mawr' a 'Chymodwr tangnefeddus'. Roedd David (neu Dave fel yr hoffai gael ei alw) yn berson diymhongar iawn, yn Gristion argyhoeddedig a geisiodd rodio ar hyd ei fywyd yn ostyngedig gyda'i Duw.
Dyddiad cyhoeddi: 2009-03-20
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.