BRUCE, MORYS GEORGE LYNDHURST, 4ydd Barwn Aberdâr (1919-2005), gwleidydd a dyn chwaraeon

Enw: Morys George Lyndhurst Bruce
Dyddiad geni: 1919
Dyddiad marw: 2005
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd a dyn chwaraeon
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: David Lewis Jones

Ganwyd yn 67 Victoria Road, Kensington, 16 Mehefin 1919, mab hynaf Clarence Napier Bruce, yn ddiweddarach 3ydd Barwn Aberdâr, a Margaret Bethune Black. Bu'n ddisgybl yng Ngholeg Winchester o 1932 hyd 1938, cyn mynd i Goleg Newydd, Rhydychen lle bu'n astudio athroniaeth, gwleidyddiaeth ac economeg. Torrodd cychwyn y rhyfel ar draws ei astudiaethau ac ymunodd â'r Gwarchodlu Cymreig, gan gael ei ddyrchafiad o fod yn ail-lifftenant ym 1940 i fod yn swyddog staff a chapten dros dro ym 1944. Gadawodd Bruce y fyddin ym 1946 gan weithio i'r Rank Organisation o 1947 hyd 1949, cyn ymuno â'r BBC, lle bu'n gweithio o 1949 hyd 1956. Gyda'r cyfansoddwr Cyril Ornadel a Fiona Lonsdale, sefydlodd Bruce FCM, cwmni yn cynhyrchu recordiau o ddramâu Shakespeare, cyfweliadau ag enwogion byd chwaraeon, a storiâu Beiblaidd i blant. Bu farw mam Bruce 8 Medi 1950. Ailbriododd ei dad 12 Medi 1957 ond cafodd ei ladd mewn damwain car ar ei fis mêl yn Iwgoslafia ar 4 Hydref. Claddwyd ef yn Aberpennar, Sir Forgannwg ar 8 Hydref 1957.

Cymerodd yr Arglwydd Aberdâr newydd ei sedd ar feinciau'r Ceidwadwyr yn Nhy'r Arglwyddi ar 5 Chwefror 1958, gan roi ei gyfraniad cyntaf ar 5 Mawrth, yn ystod y ddadl ar y papur gwyn yn ymwneud ag amddiffyn. Siaradai'n rheolaidd yn Nhy'r Arglwyddi, yn arbennig ar wasanaethau ieuenctid, chwaraeon ac addysg. Mewn dadl ar 1 Rhagfyr 1965, gwaneth y sylw fod prifysgolion yn rhoi mwy o amlygrwydd i'r celfyddydau nag i'r gwyddorau. 'Mae snobyddiaeth ddeallusol yn bod o hyd sy'n rhoi mwy o barch i'r dyn sy'n camddyfynnu Horas nag i'r dyn sy'n medru cyweirio ei gerbyd ei hun'. Gyda ffurfio llywodraeth gan y Ceidwadwyr ym 1970 penodwyd Arglwydd Aberdâr i un o'r prif swyddi, yn Weinidog Gwladol yn y Weinyddiaeth Iechyd a Nawdd Cymdeithasol. Yn ystod y pedair blynedd a fu yn y swydd, mynegodd farn feirniadol ar ysmygu. Pan ofynnai rhywun iddo am dân i fwgyn, byddai'n tynnu o'i boced daniwr, ag arno'r arysgrifen 'Rhoddais y gorau iddo'. Ar 8 Ionawr 1974 fe'i penodwyd yn Weinidog heb Weinyddiaeth gyda'r gorchwyl anodd o siarad ar ran nifer o adrannau'r llywodraeth yn Nhy'r Arglwyddi. Collodd y swydd ymhen ychydig wythnosau pan gollodd y Ceidwadwyr rym yn yr etholiad ym mis Chwefror 1974. Ar wahân i'w swyddi yn y llywodraeth, yr oedd Arglwydd Aberdâr hefyd yn Ddirprwy-Arweinydd Ty'r Arglwyddi; wedi i'w blaid golli grym gwasanaethodd fel Ddirprwy-Arweinydd yr Wrthblaid yn Nhy'r Arglwyddi o 1974 hyd 1976.

Nid oedd bywyd gwleidyddol yn hollol dderbyniol gan Arglwydd Aberdâr, felly daeth ei benodi i swydd gyflogedig Cadeirydd y Pwyllgorau ag ychydig o ryddhad iddo. Fe'i penodwyd ar 11 Mawrth 1976 i fod yn olynydd i'r Arglwydd Listowel ar ymddeoliad hwnnw ym mis Hydref 1976. Yr oedd gan Gadeirydd y Pwyllgorau swyddogaeth bwysig yng ngweinyddiaeth Ty'r Arglwyddi. Y Cadeirydd a llywiai'r Pwyllgorau Swyddi a'r rhai mewnol. Yr oedd yn gyfrifol am ddeddfwriaeth mesurau preifat ac, yn fynych, ef oedd yn y gadair yn sesiynau'r Ty. Llwyddodd yn y swydd: yr oedd yn boblogaidd gyda'r aelodau am ei hiwmor da ac am ei amhleidioldeb trwyadl, yr oedd yn gadeirydd da i'r pwyllgorau mewnol a datblygodd berthynas dda â'r asiantau a oedd yn gyfrifol am lywio'r ddeddfwriaeth breifat drwy'r Ty. Yn weinyddwr effeithlon, bu Arglwydd Aberdâr yn y swydd o Hydref 1976 tan 4 Mai 1992 gan ymddeol, braidd yn anfodlon, wedi cyfnod llwyddiannus a hir o weinyddiaeth. Yn dilyn Deddf Ty'r Arglwyddi 1999, fe'i hetholwyd ar restr y dirpwy-lefarydd i fod yn un o'r 92 arglwydd etifeddol i gadw seddau yn Nhy'r Arglwyddi.

Yr oedd ei dad yn gricedwr adnabyddus ac yn golffiwr da ond dan-do oedd yr hoff chwaraeon cwrt a feistrolwyd ganddo, sef racedi a tennis rheiol; chwaraewraig dennis lawnt dda oedd ei fam ac yn un o'r menywod cyntaf i chwarae sboncen. Etifeddodd Arglwydd Aberdâr gariad ei rieni at dennis, yn bennaf racedi a thennis rheiol; bu'n gapten ar dîm tennis rheiol cyntaf Prifysgol Rhydychen ac yn gapten hefyd ar dîm racedi'r Brifysgol. Bu'n bartner i'w dad yng nghampwriaeth racedi i barau amatur ym 1939. Cyraeddasant y rownd derfynol cyn colli o drwch blewyn. Yn ystod y 1950au a'r 1960au yr oedd Arglwydd Aberdâr yn bencampwr amatur racedi unigol Prydain a racedi dwbl bedair gwaith; bu'n chwaraewr medrus hefyd yn y gêm fwy poblogaidd, tennis lawnt. Chwaraeodd dennis rheiol gyda brwdfrydedd arbennig nes mynd heibio oed yr addewid a dyfod yn llefarydd dylanwadol ar ran y gêm fel Llywydd Cymdeithas Dennis a Racedi o 1972 hyd 2004. Yr oedd ei dad yn berchen ar nifer o lyfrau ac arteffactau yn ymwneud â thennis. Ychwanegodd Arglwydd Aberdâr at y casgliad hwn gan roi benthyg rhai o'r eitemau gwerthfawr i'r amgueddfa dennis a sefydlwyd gan Gymdeithas Dennis Lloegr Gyfan yn Wimbledon. Yn fyfyriwr brwd o hanes y gêm, ysgrifennodd Arglwydd Aberdâr The History of Tennis (1959) a The Willis Faber Book of Tennis and Rackets (1980), astudiaethau a oedd braidd yn wyddoniadurol yn hytrach na chofnod hanesyddol. Mae papurau Arglwydd Aberdâr ar hanes tennis a racedi 1682-2000 ar adnau yn Llyfrgell Prifysgol Lerpwl. Ar gyfrif ei frwdfrydedd dros chwaraeon a'i fedr gweinyddol fe'i hetholwyd yn Llywydd gan yr Ymddiriedolaeth Pêl Droed ym 1979; bu yn y swydd am bron un mlynedd ar bymtheg yn ystod cyfnod anodd yn hanes pêl droed Seisnig. Wedi digwyddiadau difrifol, yn enwedig y trychineb yn Hillsborough pan fu farw naw deg chwech o gefnogwyr clwb pêl droed Lerpwl ar 15 Ebrill 1989, bu'r Ymddiriedolaeth dan arweiniad Arglwydd Aberdâr yn flaenllaw yn yr ymgyrch i droi llawer maes chwarae pêl droed yn stadia seddau yn unig.

Ar adegau, yn ystod dadleuon yn Nhy'r Arglwyddi cyfeiriai Arglwydd Aberdâr at aelod arall fel 'cyd-Gymro'; yr oedd yn falch iawn i'w gyfrif ei hun yn Gymro a gwnaeth gyfraniadau amrywiol i fywyd cyhoeddus Cymru. Yr oedd yn aelod gweithgar o Urdd Sant Ioan o Gaersalem yng Nghymru, bu, fel ei dad, yn gweithredu fel Prior i Gymru o 1958 hyd 1988. Yr oedd gweithgarwch dros ieuenctid yn draddodiad yn y teulu a bu Arglwydd Aberdâr yn Llywydd ar YMCA Cymru. Ynghyd ag ychydig o Gymry blaenllaw, bu'n ymddiriedolwr ar Ymddiriedolaeth Theatr Dewi Sant, a fu'n ymgyrchu yn aflwyddiannus yn ystod y 1960au i sefydlu theatr genedlaethol yng Nghymru. Elwodd nifer o sefydliadau Cymreig eraill o'i gefnogaeth a'i wybodaeth; yn eu mysg y Sefydliad dros Ymchwil yr Arennau yng Nghymru a Chymdeithas Cymry Llundain. Fe'i gwnaethpwyd yn farchog am ei wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru a derbyniodd radd anrhydeddus LL.D. gan Brifysgol Cymru. Ei wasanaeth olaf i achos Cymreig oedd ymgymryd â chyfrifoldeb cadeirydd yr ymddiriedolaeth a sefydlwyd gan yr Arglwydd Cledwyn i godi cerflun er cof am David Lloyd George yn Sgwâr y Senedd yn Llundain; ef a drefnodd y gystadleuaeth i ddewis y cerflunydd, ond bu farw cyn cwblhau'r cerflun.

Yr oedd y teulu'n berchen ar Ystad y Dyffryn, tair mil o erwau ger Aberpennar gan gynnwys nifer o hen domenni glo, a oedd yn achos pryder mawr, yn enwedig wedi trychineb Aberfan. Yn ystod ailddarlleniad mesur Pyllau a Chwarelau (Tomenni) 1969, cyfaddefodd Arglwydd Aberdâr, gyda beth teimlad ei fod 'yn anffortunus yn berchen ar rai o'r hen domenni hyn'. Yr oedd gwerthu Ystad y Dyffryn ym 1979 yn rhyddhad iddo. Prynodd Ochr y Fforest, ty â rhywfaint o dir yng Nghil-y-cwm, heb fod nepell o Lanymddyfri, lle bu'n cadw, am beth amser, gyr bychan o ddefaid, gan greu gyda'i wraig ardd anial braf a lliwgar. Edrychai ymlaen â phleser at yr wythnosau a dreuliai yn Sir Gaerfyrddin.

Yn ddyn ag ymroddiad dwfn at wasanaeth cyhoeddus ond â chyffyrddiad ysgafn, yr oedd Arglwydd Aberdâr yn ddyn tal main a chain hyd at ei henaint. Ar Fehefin 1 1946, priododd â (Maud Helen) Sarah Dashwood, merch Syr John Dashwood, 10fed Barwnig o Barc West Wycombe; ganed iddynt bedwar mab. Cymylwyd blynyddoedd olaf Aberdâr gan gryn golledion fel aelod o syndicet yswiriant yn Lloyd's ac, i raddau llawer mwy helaeth, gan waeledd difrifol ei wraig. Bu farw Arglwydd Aberdâr yn ei gartref yn agos i Sgwâr Sloane, Llundain ar 23 Ionawr 2005. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yn eglwys Mihangel Sant, Cil-y-cwm, ar 31 Ionawr, gyda chladdedigaeth ym mynwent yr eglwys yn dilyn. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa yn eglwys St Margaret's, San Steffan ar 4 Mai 2005. Darllenodd Alastair Bruce, 5ed Barwn Aberdâr ddetholiad allan o 'Molawd i Gadeirydd y Pwyllgorau', penillion a gyfansoddwyd gan yr Arglwydd Cledwyn , a darllenwyd 'Sir Gaerfyrddin' o waith Dudley Garnet Davies, gan ei frawd, Adam Bruce. Gadawodd Arglwydd Aberdâr ystâd o £651,978 net.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-11-05

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.