BULMER-THOMAS, IVOR (1905-1993), gwleidydd Llafur yn wreiddiol a Cheidwadol yn ddiweddarach, ac awdur

Enw: Ivor Bulmer-thomas
Dyddiad geni: 1905
Dyddiad marw: 1993
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Llafur yn wreiddiol a Cheidwadol yn ddiweddarach, ac awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganed ef yng Nghwmbrân ar 30 Tachwedd 1905 i deulu arbennig o dlawd, yn fab i Alfred Ernest Thomas (1876-1918), tynnwr briciau lleol, a'i wraig Zipporah Jones (a fu farw ym 1954), morwyn tŷ. Ychwanegodd 'Bulmer' (enw morwynol ei ail wraig) at ei gyfenw drwy weithred newid enw gyfreithiol ym 1952. Addysgwyd ef yn Ysgol Jones Gorllewin Mynwy, Pontypŵl, Coleg Sant Ioan, Rhydychen (lle'r oedd yn dal ysgoloriaeth), gan raddio gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn mathemateg yn arholiadau'r flwyddyn gyntaf ym 1925 a gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn y Clasuron ym 1928. Bu hefyd yn astudio yng Ngholeg Magdalene, Rhydychen ('Demy' Hŷn mewn diwinyddiaeth). Ef oedd Myfyriwr Liddon 1928, Ysgrifwr Ellerton ym 1929 a 'Denyer' Iau ac Ysgolor Johnson ym 1930. Graddiodd yn MA (Oxon.) ym 1930 (a daeth yn Gymrawd Anrhydeddus o Goleg Sant Ioan ym 1985). Tra oedd yn Rhydychen enillodd ei 'las' mewn rhedeg traws gwlad ac athletau, ac ym 1926 roedd yn rhedwr traws-gwlad rhyngwladol dros Gymru. Niwed corfforol yn unig a'i rhwystrodd rhag cael ei ddewis ar gyfer y gystadleuaeth 880 llathen yng Ngemau Olympaidd 1928.

Penodwyd Thomas yn Ysgolor Ymchwil Gladstone yn Llyfrgell Sant Deiniol, Penarlâg, 1929-30, gan wasanaethu fel aelod o staff golygyddol The Times, 1930-37, lle luniodd ambell i golofn olygyddol, nifer mawr o erthyglau ar chwaraeon a phynciau gwyddonol, ac yn ddiweddarach lluniodd amryw o ysgrifau coffa. Ei waith ef oedd nifer o'r ysgrifau coffa pwysig, o leiaf o ran eu cynnwys, a ymddangosodd yn The Times, gan gynnwys un i Bertrand Russell. Daeth wedyn yn Brif Ysgrifennwr Golygyddol y News Chronicle, 1937-39. Roedd eisoes wedi cyhoeddi ei gyfrol gyntaf (allan o dair-ar-ddeg) Our Lord Birkenhead, cofiant llawn bywyd a llawn diddordeb, ym 1930, a chyhoeddodd gofiant i'r Arglwydd Gladstone o Benarlâg, mab y Prif Weinidog enwog, ym 1936. Seiliwyd y gyfrol hon ar ymchwil a wnaeth pan oedd ym Mhenarlâg. Ym 1938 cyhoeddodd Top Sawyer, cofiant i David Davies, Llandinam (1818-1890), cyfrol sydd yn parhau'n uchel ei pharch hyd heddiw. Roedd hefyd wedi cyhoeddi ym 1930 Coal in the New Era, ei gyhoeddiad cyntaf i ymdrin â materion cyfoes. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd yn y fyddin, yn wreiddiol gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol, 1939-40, ac yna daeth yn Gapten o fewn Catrawd y Royal Norfolk ym 1941, gan wasanaethu tan ddiwedd y rhyfel.

Safodd yn ymgeisydd Llafur yn erbyn Syr John Simon (ar y pryd arweinydd yr Aelodau Seneddol Rhyddfrydol Cenedlaethol, y 'Simonites') yn etholaeth Spen Valley o fewn Traean Gorllewinol swydd Efrog yn etholiad cyffredinol 1935. Methodd gipio'r sedd, ond mwyafrif o 600 o bleidleisiau'n unig oedd gan Simon yn yr etholiad. Cafodd y gŵr amhoblogaidd, 'pell' hwnnw fraw sylweddol oherwydd y canlyniad ac enillodd Thomas gryn boblogrwydd fel canlyniad. O dan delerau cadoediad etholiadol y rhyfel, cafodd Thomas ei ethol yn ddiwrthwynebiad fel AS Llafur etholaeth Keighley eto o fewn Traean Gorllewinol swydd Efrog ym 1942, a chafodd ei ailethol yno heb unrhyw drafferth yn etholiad cyffredinol Gorffennaf 1945. Gwybodaeth Thomas o Eidaleg oedd yn bennaf gyfrifol am ei benodiad cyflym i Weinyddiaeth Rhyfel Economaidd Hugh Dalton lle daeth yn gyfrifol am fwydo propaganda i Eidal Mussolini. Ym 1942 cyhoeddodd ei Warfare by Words ac ym 1946 The Problem of Italy. Medrai siarad a darllen chwe iaith yn rhugl.

Fel AS, gwasanaethodd Thomas yn ysgrifennydd seneddol dros awyrennu sifil dan Attlee, 1945-46, ac wedyn yn is-ysgrifennydd ar gyfer y trefedigaethau, 1946-47. Ef oedd yn gyfrifol am lywio Mesur yr Awyrennu Sifil, mesur hynod o ddadleuol, drwy'r Tŷ Cyffredin ym 1946, ac ym 1947 daeth yn gynrychiolydd i Gymanfa Gyffredinol y Cenhedloedd Unedig. Ond, ar ôl iddo deithio i bob rhan o'r byd, collodd ei swydd yn y llywodraeth yn ddirybudd pan adrefnwyd ei weinyddiaeth ddiwedd 1947. Erbyn hynny roedd wedi colli amynedd â Sosialaeth ac ymddiswyddodd o'r Blaid Lafur ym mis Hydref 1948 yn ystod y ddadl ar Araith y Brenin. Yna ymunodd â'r Blaid Geidwadol yn Ionawr 1949. Cyhoeddodd ei The Socialist Tragedy yn hwyrach yn yr un flwyddyn. Safodd yn aflwyddiannus yn ymgeisydd Ceidwadol yng Nghasnewydd yn etholiad cyffredinol 1950. Cyhoeddodd ei waith mawr The Growth of the Party System mewn dwy gyfrol ym 1965, ond cymysglyd o'r mwyaf oedd yr ymateb iddo'r tro hwn. Ymunodd â'r Blaid Ddemocrataidd Sosialaidd ym 1981.

Er iddo gael magwraeth fel Bedyddiwr caeth, gwasanaethodd Bulmer-Thomas fel aelod o Dŷ Lleygwyr Cynulliad yr Eglwys, 1950-85. Yn ddiweddarach, daeth yn ddirprwy olygydd y Daily Telegraph ym 1953-54. Ymhlith ei swyddi eraill oedd cadeirydd pwyllgor gwaith Ymddiriedolaeth er Cadw Eglwysi Hynafol, Cyfarwyddwr anrhydeddus Cyfeillion yr Eglwysi Digyfaill, ac ysgrifennydd (a chadeirydd ar ôl hynny) Cymdeithas yr Henebion am dri deg pump o flynyddoedd. Nodwyd pen-blwydd Bulmer-Thomas yn wyth deg oed gan gyhoeddi cyfrol deyrnged iddo a olygwyd gan ysgrifennydd Cymdeithas yr Henebion - teyrnged lawn a haeddiannol i amrywiaeth ac ehangder ei ddiddordebau. Bu hefyd yn is-lywydd Undeb yr Eglwys a gwasanaethodd fel cadeirydd Cronfa'r Eglwysi Diangen, 1969-76. Daliodd yn aelod o Synod Cyffredinol Eglwys Loegr tan ei ben-blwydd yn 82 oed. Etholwyd ef yn Gymrawd o Gymdeithas yr Hynafiaethwyr ym 1970, a phenodwyd ef yn CBE ym 1984.

Drwy gydol ei fywyd cyfrannodd erthyglau a cholofnau cyson i gylchgronau ysgolheigaidd eu naws ac i amrywiol bapurau newydd, yn fwyaf arbennig adolygiadau i'r Times Literary Supplement. Cymerai ddiddordeb parhaol hefyd mewn mathemateg Groegaidd, gan barhau i gyhoeddi erthyglau dysgedig yn y maes drwy gydol ei oes. Fel canlyniad dyfarnwyd iddo radd D.Sc honoris causa gan Brifysgol Warwick yn 1979. Dyfarnwyd iddo hefyd radd D.Litt honoris causa gan Brifysgol Cymru. Roedd yn weithiwr heb ei ail a fedrai ddygymod â phedair neu bum awr o gwsg bob nos.

Priododd yn gyntaf, ar 5 Ebrill 1932, â Dilys (ganwyd 1910), merch Dr W. Llewelyn Jones, Merthyr Tudful, ond bu hi farw ar enedigaeth plentyn ar 16 Awst 1938. Wrth reswm cafodd hyn effaith ofnadwy arno a chyhoeddodd ei deimladau fel Dilysia - a threnody yn 1938 (ail-argraffwyd yn 1987). Bu iddynt un mab. Priododd yr eilwaith ar 26 Rhagfyr 1940 yn Eglwys Gadeiriol Henffordd Margaret Joan, merch E. F. Bulmer, Adam's Hill, Henffordd. Bu iddynt dri o blant. Ei gartref oedd 12 Edwardes Square, Llundain. Bu farw'n sydyn ar ôl trawiad ar y galon ar 7 Hydref 1993 ar ôl parhau i weithio tan o fewn ychydig funudau'n llythrennol i'w farwolaeth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-31

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.