Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd ef 13 Chwefror 1908 ym Mhen-parc, ger Trefin, sir Benfro. Magwyd ef ar Fferm Tresinwen ac addysgwyd ef yn ysgol elfennol Henner ac Ysgol Ramadeg Abergwaun, lle cafodd ei ddysgu gan D. J. Williams yr athro Saesneg. Yn Hydref 1926 aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, i astudio Saesneg, a graddiodd yno gyda gradd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf eithriadol ddisglair ym mis Mehefin 1929. Ym 1930 dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth ymchwil ac ym 1932 dyfarnwyd iddo radd MA Prifysgol Cymru gyda rhagoriaeth am draethawd ar 'Norse Relations with Wales'. Cyhoeddwyd y gwaith hwn yn ddiweddarach gan Fwrdd Gwasg Prifysgol Cymru ym 1934 a chafodd groeso arbennig. Yn y cyfamser roedd Bertie Charles wedi derbyn Cymrodoriaeth Prifysgol Cymru ac aeth i Brifysgol Llundain lle gwnaeth waith ymchwil pellach ar enwau lleoedd Sir Benfro. Dyfarnwyd iddo radd Ph.D. ym 1935 a chyhoeddwyd fersiwn estynedig o'r gwaith fel Non-Celtic Place-names in Wales gan Brifysgol Llundain ym 1938. Eto roedd yr adolygiadau yn ganmoliaethus dros ben. Erbyn hyn roedd Dr Charles ym 1936 wedi cychwyn ar swydd o fewn Adran y Llawysgrifau a'r Cofysgrifau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu ar wasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond dychwelodd i swydd, a oedd wedi'i hailraddi'n 'Geidwad Cynorthwyol l' ym 1945. Parhaodd yn y swydd hon nes iddo ymddeol yng ngwanwyn 1973.
Yn ystod ei yrfa broffesiynol hirfaith lluniodd Bertie Charles gatalogau nifer fawr o archifau, yn bennaf o ddogfennau tir o'r oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar. O fewn y Llyfrgell Genedlaethol roedd parch mawr iddo fel palaeograffydd heb ei ail, storïwr doniol a difyr, a swyddog undeb arloesol ac ymroddedig. Bu hefyd yn ymchwilydd rhyfeddol o ddygn, gan gwblhau nifer o brosiectau ymchwil uchelgeisiol. Hyd at 1953 cyhoeddodd nifer o erthyglau mewn cylchgronau academaidd. Ym 1967 ymddangosodd Calendar of the Records of the Borough of Haverfordwest, 1539-1660, gwaith a welodd olau dydd fel cyfrol XXIV yng nghyfres nodedig Hanes a Chyfraith Prifysgol Cymru dan nawdd Bwrdd Gwybodau Celtaidd y Brifysgol. Cyflwynwyd y cofnodion gwreiddiol ar adnau i'r Llyfrgell ym 1948 a Dr Charles a fu'n gyfrifol am eu rhestru. Chwe blynedd yn ddiweddarach, ym 1973, blwyddyn ei ymddeoliad, ymddangosodd y gyfrol feistrolgar George Owen of Henllys: a Welsh Elizabethan. Treuliodd yr awdur flynyddoedd meithion yn ymchwilio ar ei chyfer, gan ailfeddwl ac yn ailwampio ei chynnwys. Roedd ynddi ddadansoddiad diwylliedig o'r safon uchaf. Ar ôl iddo ymddeol parhaodd i ymchwilio gydag egni o'r newydd. Ym 1982 cyhoeddodd Cymdeithas Hanes Sir Benfro ei The English Dialect of South Pembrokeshire: Introduction and Word-List, cyfrol fer yn cynnwys pumdeg pedwar o dudalennau. Cyhoeddwyd gwaith mwyaf sylweddol Dr Charles The Place-names of Pembrokeshire ym 1992 pan oedd yntau'n 85 mlwydd oed mewn dwy gyfrol sylweddol a 867 o dudalennau. Roedd heb amheuaeth yn llafur cariad aruthrol ac yn waith oes. Tu allan i'w waith prif ddiddordeb Dr Charles oedd chwarae golf, hobi a rannai gyda'i wraig May. Bu iddynt ddwy ferch, a gwnaethant eu cartref yn Nhresinwen, Teras Cae'r Gog, Aberystwyth. Bu Mrs Charles farw ym 1998 ac yntau yng Nghartref Cwmcynfelin 19 Awst 2000. Amlosgwyd ei weddillion yn Amlosgfa Aberystwyth.
Dyddiad cyhoeddi: 2009-07-29
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.