Ganwyd Gwynne Henton Davies yn Aberdâr, Morgannwg yn 1906. Roedd yn fab i John Davies ac Edith Henton. Symudodd teulu'r tad o Fro Morgannwg i'r cymoedd, eithr hanai ei fam o deulu o deilwriaid gwlad yn Sir Benfro. Priododd ei rieni yn 1904 a ganwyd Gwynne yn 1906 a'i frawd, John Mansel, bum mlynedd yn ddiweddarach. Addysgwyd ef yn ysgol leol y cyngor ac enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Ramadeg Aberdâr. Roedd y teulu'n aelodau gyda'r Bedyddwyr yn eglwys Calfaria, Aberdâr, ac yno y'i bedyddiwyd drwy drochiad yn ddwy ar bymtheg oed. Llwyddodd yn yr arholiadau 'matriculation' yn 16 oed a chafodd ei ddanfon gan ei rieni i ysgol breifat a arbenigai yn y Clasuron, sef Perse School yng Nghaergrawnt, a thra oedd yno dechreuodd ymddiddori mewn Hebraeg. Ar ddiwedd ei gwrs yn yr ysgol cafodd ei dderbyn i astudio Athroniaeth yng Ngholeg y Frenhines, Caergrawnt, ond oherwydd i'w dad fod yn warantydd i berthynas a aeth yn fethdalwr, bu'n rhaid iddo ddod adref a chafodd fynediad i Goleg y Brifysgol, Caerdydd, yn 1924 i astudio Athoniaeth. Flwyddyn yn ddiweddarach derbyniwyd ef yng Ngholeg y Bedyddwyr, Caerdydd, a newidiodd ei brif bwnc i Hebraeg. Yn 1928 enillodd radd dosbarth cyntaf mewn Hebraeg a Syriag gydag M.A. gyda chlod yn dilyn yn 1928 am draethawd ar 'Origin and Development of the Idea of Theocracy in Israel'. Dechreuodd weithio am radd B.D. Prifysgol Cymru ond yn 1931 cafodd ysgoloriaethau gan Ymddiriedolaeth Dr Williams ac Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr ar gyfer gwneud B.Litt. yn Rhydychen ar y pwnc 'The Covenant in the Old Testament'. Dyfarnwyd y radd iddo yn 1933. Aeth i'r Almaen a threulio rhywfaint o amser yn astudio ym Marburg gyda Karl Budde a Rudolph Bultmann, cyn dychwelyd i Gymru a gorffen ei radd B.D. yn 1935, gyda chlod yn Hanes yr Eglwys.
Priododd ag Annie Bronwen Williams o Gaerdydd yng Nghapel Woodville Road, Caerdydd, ym Medi 1935 a bu iddynt ddwy ferch, Yona Wynfron Henton ac Edith Elaine Henton.
O 1935 hyd 1938 bu Henton Davies yn weinidog Eglwys y Bedyddwyr yn West End, Hammersmith, Llundain, cyn symud i ddysgu Hebraeg a'r Hen Destament yng Ngholeg y Bedyddwyr, Bryste (1938-51). Yn 1951 cafodd ei apwyntio'n Athro cyntaf yn Adran Astudiaethau'r Hen Destament ym Mhrifysgol Durham. Arhosodd yno tan iddo gael ei ethol yn Brifathro Coleg Regent's Park, Coleg y Bedyddwyr yn Rhydychen, yn 1958. Yn y flwyddyn honno, dyfarnodd Prifysgol Glasgow radd Doethur mewn Diwinyddiaeth iddo, tra rhoddodd Prifysgol Rhydychen radd M.A. iddo, er mwyn ei awdurdodi i ddysgu yno. Ychwanegodd Prifysgol Stetson yn Florida D.D. er anrhydedd iddo yn 1965.
Yr oedd Coleg Regent's Park newydd gael ei gydnabod yn Neuadd Breswyl Barhaol gan Brifysgol Rhydychen pan aeth yno ac yn ystod ei gyfnod yn Rhydychen, dechreuodd y coleg dderbyn myfyrwyr heb fod yn ymgeiswyr am y weinidogaeth; helaethwyd a datblygwyd safle Regent's Park i sicrhau cwrt pedairongl.
Bu'n weithgar ar hyd y blynyddoedd gyda Chymdeithas Astudiaethau'r Hen Destament (The Society for Old Testament Study) gan gyfrannu'n aml i'w chylchgrawn ar ôl 1946 a chael ei anrhydeddu â llywyddiaeth y Gymdeithas yn 1966. Anrhydedd arall a ddaeth iddo oedd cael ei ethol yn Llywydd Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr (1971-2). Cyhoeddodd Gwasg S.C.M. Llundain Festschrift iddo yn 1970 wedi ei olygu gan John I. Durham a J. R. Porter yn dwyn y teitl Proclamation and Presence: Old Testament Essays in Honour of Gwynne Henton Davies.
Cyhoeddodd Knox Press y gwaith yn America ac yn 1983 cyhoeddodd Gwasg Prifysgol Mercer ail argraffiad diwygiedig o'r gwaith.
Ysgwyddodd Gwynne Henton Davies gyfrifoldeb am Goleg Regent's Park tan ei ymddeoliad yn 1972 pryd symudodd ef a'i wraig yn ôl i sir enedigol teulu ei fam a chartrefu mewn bwthyn yn Broad Haven, Sir Benfro; ond parhaodd i ddarlithio a phregethu gan deithio i bedwar ban byd wrth wneud. Parhaodd y teithio ar ôl marw ei briod yn Ionawr 1992. Yr oedd ar ei ddeuddegfed ymweliad ar hugain ag America yn darlithio a phregethu pan fu yntau farw yn 92 oed yn Charlotte, Gogledd Carolina, ar 22 Hydref 1998. Bu ei arwyl mewn amlosgfa yn y ddinas ddau ddiwrnod yn ddiweddarach a gwasgarwyd ei lwch yn Headlands, Broad Haven, ar 4 Tachwedd 1998.
Yn ystod ei oes faith cyhoeddodd Henton Davies lawer. Rhestrir yma rai o'i gyfraniadau i lyfrau a chylchgronau: 'The Presence of God in Israel', yn Studies in History and Religion, H. Wheeler Robinson Festschrift, gol. E. A. Payne; Llundain: Lutterworth Press, 1942, tt.. 11-29; 'The Yahwistic Tradition in the Eighth-Century Prophets', yn Studies in Old Testament Prophecy, Theodore H. Robinson Festschrift, gol. H. H. Rowley, Caeredin: T. & T. Clark, 1950, tt. 37-51; The Approach to the Old Testament. An Inaugural Lecture delivered on May 15, 1953, to the Durham Colleges in the University of Durham; Llundain: The Carey Kingsgate Press, 1953; 'Select Bibliography of the Writings of Harold Henry Rowley', yn Wisdom in Israel and the Ancient Near East, H. H. Rowley Festschrft, golygyddion, M. Noth a D. W. Thomas; Supplements to Vetus Testamentum, III. Leiden: E. J. Brill, 1955, tt. xi-xix. 'Contemporary Religious Trends: The Old Testament', The Expository Times, LXVII, 1 (Hydref, 1955), tt. 3-7. Cyd-olygodd gydag Alan Richardson The Teacher's Commentary. Llundain: SCM Press, 1955. Cyhoeddwyd y gyfrol yn America o dan y penawd The Twentieth Century Bible Commentary, Harper and Brothers, 1956; 'The Literature of the Old Testament' ac 'Exodus' yn The Teacher's Commentary, uchod a gydag Alan Richardson 'Genesis'. 'The Clues of the Kingdom in the Bible', Interpretation, XIV, 2 (i), tt. 155-60; 'Commending the Old Testament', yn The Raven, Rhif. 3, Gorffennaf, 1956; 'Astonish' a 'Remnant' yn A Theological Word Book of the Bible, gol. Alan Richardson. Llundain: SCM Press (1957); gydag A. B. Davies, The Story in Scripture: A Shortened Text of the RSV., Llundain, Thomas Nelson & Sons, 1960; 'Alms', 'Ark of the Covenant', 'Bamah', 'Beauty', 'Breast-piece (of the High Priest)', 'Chief Priest', 'Dancing', 'Dwarf' yn The Interpreter's Dictionary of the Bible, cyfrol A-D, gol. G. A. Buttrick, Nashville ac Efrog Newydd: Abingdon Press, 1962, s.v.; 'Elder in the OT', 'Ephod (Object)', 'Footstool', 'Glory', 'High Place, Sanctuary', ibid., cyfrol E-J, s.v.; 'Kneel', 'Levitical Cities', 'Leviticus', 'Memorial, Memory', 'Mercy Seat', 'Mezuzah', 'Minister in the OT', 'Nethinim', 'Phylacteries', 'Pillar of Fire and of Cloud', 'Praise', 'Presence of God', 'Pulpit', ibid., cyfrol K-Q, s.v.; 'Sanctuary', 'Screen', 'Solomon's Servants', 'Sophereth', 'Swine', 'Tabernacle', 'Theophany', 'Threshold', 'Worship in the OT', ibid., cyfrol. R-Z, s.v.; 'Deuteronomy' yn Peake's Commentary on the Bible, golygyddion, H. H. Rowley ac M. Black, Llundain ac Efrog Newydd: Thomas Nelson & Sons, 1962, tt. 269-84; 'Selection and Training of Candidates for the Ministry: The Baptist Churches in Great Britain', The Expository Times, LXXIII, 8 (Mai, 1962), tt. 228-30. 'The Ark in the Psalms', yn Promise and Fulfilment, Festschrift S.H. Hooke, gol. F. F. Bruce, Caeredin, T. & T. Clark, 1963; 'Judges VIII 22-23', Vetus Testamentum, XIII, 2 (Ebrill, 1963), tt. 151-7; 'The Holy Spirit in the Old Testament', The Review and Expositor, LXIII, 2 (Gwanwyn, 1966), tt. 129-34; Exodus, Torch Bible Commentaries, Llundain, SCM Press, 1967; 'The Ark of the Covenant', Annual of the Swedish Theological Institute, V (1967), tt. 30-47; Preaching the Lord's Supper. The London Baptist Preachers' Association Diamond Jubilee Lecture, 1967. 'A Welsh Man of God', The Baptist Quarterly, XXII, 7 (Gorffennaf 1968), tt. 360-370; 'Genesis' yn The Broadman Bible Commentary, I, gol. Clifton J. Allen. Nashville, The Broadman Press, 1969. tt. 99-304, 1968; gydag A. B. Davies, Who's Who in the Bible, Teach Yourself Series, Llundain, The English Universities Press Ltd, 1970; 'Aaron', 'Balaam', 'Jethro', 'Joshua', 'Miriam', 'Moses', 'Zipporah' yn Harper's Dictionary of Biblical Biography, gol. C. L. Wallis; 'Gehard von Rad' yn Old Testament Theology in Contemporary Discussion, gol. Robert Laurin (1970); gyda J.E. Morgan-Wynne, The Last Seven Days (1999).
Dyddiad cyhoeddi: 2009-08-14
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.