EVANS, GEORGE EWART (1909-1988), llenor ac hanesydd llafar

Enw: George Ewart Evans
Dyddiad geni: 1909
Dyddiad marw: 1988
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor ac hanesydd llafar
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Gareth W. Williams

Ganwyd 1 Ebrill 1909 yn Abercynon, trydydd mab William Evans (bu farw 1942) o Bentyrch, perchennog siop, a mab cyntaf ei ail wraig Janet, (ganwyd Hitchings). Deuai o gefndir radical ac enwyd ef ar ôl William Ewart Gladstone. Taniwyd George Ewart gan ei brofiad o ddioddefaint y glöwyr yn ystod dirwasgiad y tri degau i arddel comiwnyddiaeth. Roedd yn un o un ar ddeg o blant mewn teulu Cymraeg eu iaith a oedd yn aelodau yng Nghalfaria (B) Abercynon, lle'r oedd William Evans yn ddiacon ac yn arolygydd yr Ysgol Sul; roedd y capel drws nesaf i'r siop. Ceir syniad da o'i amgychfyd cynnar a phrysurdeb cyson dyddiau'i febyd yn ei nofel led-hunangofiannol The Voices of the Children yr ymddangosodd rhannau ohoni yn y Welsh Review yn 1945, cyn ei chyhoeddi gan y Penmark Press a lansiwyd gan Gwyn Jones yn 1947. Fe'i hailgyhoeddwyd yng nghyfres y Library of Wales yn 2008. Cafodd ei addysg gynnar yn ysgol elfennol Aber-tâf, ac yna yn Ysgol Sir Aberpennar, lle cafodd fesur o lwyddiant academaidd a disgleirio mewn chwaraeon. Gwelwyd yr un patrwm yn ystod ei yrfa yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, lle y cafodd ei dderbyn yn 1927, a graddio yn yr ail ddosbarth yn y Clasuron yn 1930; bu hefyd yn gapten ar dîm rygbi'r Coleg. Bu'n asgellwr dros glwb rygbi Aberpennar a ystyrid ymhlith goreuon clybiau rygbi Cymru bryd hynny. Roedd yn ŵr golygus, gweddol dal (ac ystyried ei fod yn Gymro o'r cymoedd) a nodweddid ef fel yr âi'n hŷn gan osgo braidd yn anystwyth y cyn-athletwr, a daliai ei ysgwyddau yn uchel.

Roedd y cyfnod hwn yn un anodd yn Abercynon, lle'r oedd arian yn brin a chyni'r gymdeithas lofaol yn cael effaith andwyol ar lewyrch y siop. Aeth ei ddau frawd hŷn i weithio ond penderfynodd George dalu ei ffordd drwy'r Brifysgol, gan hyfforddi athletwyr a rhedeg ei hunan, am arian, yn y rasus proffesiynol a gynhelid dan nawdd y Welsh Powderhall ym Mhontypridd a llefydd eraill ar draws y cymoedd. Er iddo ennill Tystysgrif mewn Addysg yn 1931 nid oedd swyddi ar gael tan iddo, o'r diwedd, gael swydd fel athro addysg gorfforol yng ngholeg cymunedol Sawston yn Swydd Gaergrawnt yn 1934. Yno cyfarfu â Chrynwraig o athrawes, Ellen Florence Knappett (ganwyd 11 Gorffennaf 1907 yn Clapton, Llundain), ac yn dilyn eu priodas yn 1938, anfonwyd eu pedwar plentyn, bachgen a thair merch, i ysgolion y Crynwyr.

Roedd ei fryd ar lenydda a chyhoeddwyd straeon byrion ac ambell gerdd ganddo mewn cyfnodolion fel y Left Review a Wales. Ystyrid ef yn un o lenorion y mudiad Eingl-Gymreig a ddaeth i'r amlwg yn y blynyddoedd cyn yr Ail Ryfel Byd, ac enillodd wobr gyntaf am ddrama radio Saesneg am ddamwain dan ddaear yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 1939. Bu ei gyfnod gyda'r Llu Awyr yn ystod y rhyfel yn un anhapus; nid oedd lifrai glas yr Awyrlu wrth ei fodd o gwbl a daeth i sylwi ei fod yn dioddef o nam ar ei glyw. Creodd hyn anhawster mawr iddo wrth iddo geisio ailafael yn ei alwedigaeth fel athro, a dioddefodd gyfnod tywyll o iselder ysbryd. Daeth gwaredigaeth yn 1948 pan gafodd ei wraig Ellen swydd fel athrawes yn ysgol bentrefol Blaxhall, mewn rhan ddiarffordd o swydd Suffolk. Arhosodd ef gartref i godi'r teulu gan ymroi i lenydda. Cefndir Cymreig oedd i'w straeon tan y cyfnod hwn, ond buan y daeth i sylweddoli bod ei gymdogion newydd - a'r hynaf yn eu plith yn arbennig - yn meddu ar stôr o wybodaeth gwerth ei gofnodi am hen arferion a defodau gwaith, ynghyd â geirfa gyfoethog y gellid ei holrhain yn ôl i'r Canol Oesedd a hyd yn oed cyn hynny. Daeth Evans i'r casgliad bod yr hen ddiwylliant hwn ('the prior culture' oedd ei ymadrodd ef amdano) wedi darfod amdano oherwydd dyfodiad peiriannau a thechnoleg a oedd yn dileu'r hen ffordd o fyw ac yr âi'r cyn-ddiwylliant hwn yn angof heb ymdrech i'w ddiogelu. Penderfynodd fynd ati i recordio, dehongli a chyd-destunoli atgofion hen weision ffermydd, llafurwyr amaethyddol a gweision ceffylau, a thrwy hynny daeth yn arloeswr yr hyn a adwaenid maes o law fel hanes llafar. Er i nifer o haneswyr blaenllaw leisio'u hamheuon ynglŷn â'r ffordd ymddangosiadol 'newydd' hon o atgyfodi'r gorffennol, gellid mewn gwirionedd olrhain yr arfer i gyfnod y Groegiaid a hyd yn oed y Beibl, fel y gwyddai Evans, y cyn-efrydydd clasurol, yn dda.

Er na roddodd y gorau i ysgrifennu llenyddiaeth greadigol, troi o fyd ffuglen at adfer gorffennol ac urddas gwerin dwyrain Lloegr wledig fyddai ei fwriad o hyn ymlaen, a chyn hir gwelwyd cyhoeddi ffrwyth ei lafur. Ymddangosodd ei glasur Ask the Fellows who Cut the Hay yn 1956, a'i ddilyn yn 1960 gan The Horse in the Furrow (1960). Bu ganddo ddiddordeb erioed mewn ceffylau a'u defodau a'u chwedloniaeth; clywodd am y Fari Lwyd gan ei rieni gan fod y ddau ohonynt yn hanu o ardaloedd lle'r oedd y Fari yn dal yn fyw. Gyda chyhoeddi The Pattern under the Plough (1966), Where Beards Wag All (1970), The Days that We Have Seen (1975) a Horse Power and Magic (1979) cydnabyddid ef yn bennaf ddehonglydd y bywyd gwledig Seisnig. Yn From Mouths of Men (1976) fe ddychwelodd i dde Cymru ac i brofiadau hen löwyr y glo caled yng Nghwm Dulais uwchben Castell-nedd.

Yn ei flynyddoedd olaf bu'n mynych ystyried symud yn ôl i Gymru, ond roedd ei wreiddau bellach yn rhy ddwfn yn East Anglia. Bu'n treulio cyfnodau yn Blaxhall (1948-56), Needham Market (1956-62), Helmingham, ger Ipswich (1962-8) a Brooke, ar y ffin rhwng swyddi Suffolk a Norfolk. Roedd yn ddarlithydd a darlledwr cyson. Dyfarnwyd iddo raddau doethuriaeth er anrhydedd gan brifysgolion Essex (DU, 1982) a Keele (DLitt., 1983), er na welodd yr un sefydliad yng Nghymru hi'n dda i'w gydnabod felly. Serch hynny, bu ei astudiaeth o werin Lloegr yn fodd iddo ddyfnhau ei werthfawrogiad o'r nodweddion a wnâi'r Cymry'n wahanol. Ni chollodd ei acen Gymreig na chefnu ar ei ymwybyddiaeth gadarn o'i Gymreictod, a thrwy ei gyfeillgarwch ag ysgolheigion o'r un anian ag ef fel Iorwerth Peate a Ffransis Payne gwnaeth gryn ymdrech i gryfhau ei afael ar ei Gymraeg. Ceir yn ei lyfrau sawl cyfeiriad at lenyddiaeth Gymraeg, ac egyr ei gyfrol Where Beards Wag All â chywydd Iolo Goch i'r 'Llafurwr,' ynghyd â throsiad Evans ei hun gyferbyn ag ef.

Ei brofiad cynnar o sgwrsio'n naturiol am eu hoffer a'u technegau gwaith â hen löwyr segur ei fro enedigol a'i hargyhoeddodd o werth cynhenid profiadau pobl gyffredin, a deilliai ei gomiwnyddiaeth o'r cyfnod hwn. Doedd ganddo fawr o amynedd â chomiwnyddion dosbarth canol Caergrawnt pan fu'n ysgrifennydd cangen y ddinas o'r Blaid Gomiwnyddol ddiwedd y tri degau. Prawf hefyd o'i amynedd a'i bersonoliaeth gynnes, yw'r modd iddo ennill ymddiriedaeth gwerin dawedog, geidwadol dwyrain Lloegr a oedd mor wahanol i drigolion parablus, cymdeithasgar a sosialaidd y cymoedd. Roedd yn sensitif heb fod yn sentimental; nid rhamantydd gwledig mohono. Er mai dwyrain Lloegr yw cefndir ei gyfrol o straeon byrion ysgafn Acky (1974), mae ei gasgliad Let Dogs Delight (1975), a leolir yng nghymoedd De Cymru, yn taro cywair mwy storïol a naturiol.

Bu farw 11 Ionor 1988 yn Brooke; bu ei angladd yn Norwich; gwasgarwyd ei lwch ar y bryniau uwchben Abercynon. Bu farw ei wraig yn Brooke 19 Medi 1999. Bu ei fab Matthew, ganwyd 1941) yn gadeirydd cwmni Faber & Faber, cyhoeddwyr llyfrau ei dad, ac yn 2000 dyrchafwyd ef i Dŷ'r Arglwyddi fel yr Arglwydd Evans o Temple Guiting a derbyn y chwip Cymreig. Golygwyd a darluniwyd detholiad o ysgrifau George Ewart Evans ar hanes llafar gan ei fab-yng-nghyfraith, yr artist David Gentleman (ganwyd 1930) yn The Crooked Scythe (1993).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-31

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.