EVANS, DAVID THOMAS GRUFFYDD, Barwn Evans o Claughton (1928-1992), cyfreithiwr a gwleidydd

Enw: David Thomas Gruffydd Evans
Dyddiad geni: 1928
Dyddiad marw: 1992
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr a gwleidydd
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: David Lewis Jones

ganwyd Penbedw 9 Chwefror 1928, yn fab i John Cynlais Evans a Nellie Euronwy Griffiths.

Gadawodd ei daid, David Evans, sir Fôn ym 1884 gan fynd i Benbedw lle y sefydlodd busnes llwyddiannus fel adeiladwr. Ef a roddodd y gadair, y 'gadair ddu' a enillwyd gan Hedd Wyn, yn eisteddfod genedlaethol Penbedw yn 1917. Adeiladodd ran helaeth o Claughton yn ogystal â chapel Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn Stryd Laird, Penbedw, lle'r addolai'r teulu. Hanai teulu ei fam o Langrannog, lle y treuliodd lawer o wyliau. Cymraeg oedd iaith y teulu y codwyd Gruffydd Evans ynddo.

Fe'i haddysgwyd yn breifat yn Ysgol Ragbaratoawl Penbedw, Ysgol Penbedw ac Ysgol Friars, Bangor. Cynigiwyd lle iddo ym Mhrifysgol Rhydychen, ond penderfynodd astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Lerpwl, lle graddiodd â LL.B ym 1948. Wedi Gwasanaeth Gwladol fel peilot-swyddog yn y Llu Awyr, sefydlodd bractis cyfreithiwr yn Lerpwl. Wedi peth amser, gweithredodd fel cyfreithiwr Henaduriaeth Lerpwl o Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Yr oedd dwy ochr ei deulu yn cefnogi'r Blaid Ryddfrydol ac yr oedd Evans yn ffyddlon i'r traddodiad hwnnw. Er mawr syndod i'r Torïaid lleol, enillodd sedd ar Gyngor Bwrdeistrefol Penbedw ym 1957 gan gadw'r sedd am ddeuddeng mlynedd.

Enillodd sedd ar Gyngor Bwrdeistrefol Cilgwri ym 1973 a gwasanaethodd yn arweinydd y Grwp Rhyddfrydol 1973-77. Yr un pryd enillodd sedd ar Gyngor Glannau Mersi gan wasanaethu fel arweinydd y Grwp Rhyddfrydol 1977-81. Nid oedd mor llwyddiannus ar lwyfan gwleidyddiaeth genedlaethol gan iddo fethu yn ei ymgais i ennill sedd yn Nhy'r Cyffredin. Safodd ddwywaith, ym 1964 a 1966, yn erbyn Ernest Marples yn etholaeth Penbedw ac yn Wallasey ym 1970 ond canlyniad gwael a ddaeth i'w ran deirgwaith.

Yr oedd Evans yn weithgar iawn o fewn y Blaid Ryddfrydol. Ef oedd Ysgrifennydd Ffederasiwn Rhyddfrydol siroedd Caerhirfryn, Caer a'r Gogledd-orllewin 1956-60 ac yn Gadeirydd ar Gynghrair Genedlaethol y Rhyddfrydwyr Ieuainc 1960-61. Bu'n ddylanwadol o fewn cyfundrefn ei blaid, gan esgyn yn raddol yn yr hierarchaeth: cadeirydd pwyllgor gwaith cenedlaethol y blaid 1965-68; cadeirydd pwyllgor y cynulliad 1971-74; cadeirydd pwyllgor yr etholiad cyffredinol 1977-79 a 1983; a Llywydd y Blaid 1977-78. Yn ystod ei flwyddyn fel llywydd bu'n rhaid iddo wynebu'r helynt ystormus a gododd ynglyn â Jeremy Thorpe, y cyn-arweinydd, ond yn Aelod Seneddol dros Ogledd Dyfnaint o hyd. Gofynnodd Evans i Thorpe gadw draw o gynhadledd genedlaethol y blaid yn Southport, ond ni lwyddodd yn hyn o beth. Oherwydd yr helynt fe ddaeth Evans yn wyneb cyfarwydd ar y newyddion cenedlaethol yn ystod wythnos y gynhadledd. Yr oedd y Blaid Ryddfrydol mewn cryn ddyled i Evans am ei gyfraniad enfawr wrth lyw'r blaid drwy gyfnod anodd yn ystod y 1960au a'r 1970au. Bu'n oddefgar iawn tuag at aelodau mwy eithafol y blaid gan gydnabod eu gwaith a'u brwdfrydedd, ond nid oedodd cyn eu taflu allan o'r gynhadledd genedlaethol ym 1968. Nid oedd Evans yn gefnogwr brwd i Thorpe fel arweinydd, ond yn yr un flwyddyn cyfrannodd tuag at ddatblygu arweinyddiaeth fwy colegaidd i'r blaid.

Wedi ymddiswyddiad Thorpe ym mis Mai 1976, cefnogodd Evans John Pardoe yng nghystadleuaeth yr arweinyddiaeth ond fe dyfodd yn gefnogwr brwd i'r arweinydd newydd, David Steel, gan gyfrannu'n helaeth at ailadeiladu undoliaeth y blaid. Er i'w brofiad o'r Blaid Lafur yn Lerpwl ei wneud yn amheus o'r cytundeb Rhyddfrydol/Llafur ym 1977-78, cynorthwyodd gyda diffinio manylion y trefniadau. Er gwaethaf ei amheuon ynglyn â nodweddion pigog David Steel, cynorthwyodd yn yr un modd wedi'r cynghreirio rhwng y Rhyddfrydwyr a'r Democratiaid Cymdeithasol. Evans oedd cadeirydd cyfarfod y Cynulliad Rhyddfrydol yn Llandudno ar 16 Medi 1981 a gefnogodd y drefn arfaethedig gyda mwyafrif llethol.

Bwriodd Evans ei brentisiaeth wleidyddol yn ei wasanaeth ar gynghorau lleol ar lannau Mersi, ac yn gynnar yn ei yrfa yr oedd o blaid gwleidyddiaeth y gymuned -'Rhyddfrydiaeth ar y stepen drws' - rhywbeth a ddaeth yn fwy pwysig o lawer yn y 1980au a'r 1990au.

Yn gynnar ym 1978 crëwyd Evans yn Arglwydd am Oes yn dal y teitl Barwn Evans o Claughton, Glannau Mersi. Yn ei araith gyntaf, yn ystod y ddadl ar Fesur Ardaloedd Canol Trefi, beirniadodd y llywodraeth Lafur am gwtogi ar alluoedd gweithredu cynghorau lleol. Yr oedd ei brofiad ar gynghorau lleol yn ei gymhwyso i fod yn llefarydd dros y Rhyddfrydwyr ar y fainc flaen yn Nhy'r Arglwyddi ar lywodraeth leol a thai. Yr oedd yn hallt ei farn ar lywodraethau'r Blaid Geidwadol a'r Blaid Lafur am eu triniaeth o lywodraeth leol. Yn y cofnod arno yn Who's Who, nododd Evans ei fod wedi cynnig Mesur Diwygio Prydlesau ym 1981 gyda'r bwriad o ddiogelu tenantiaid prydlesol. Yn ôl Evans, cafodd gefnogaeth gref o Gymru, gan gynnwys y Western Mail, i'r cynigion yn y mesur. Yn groes i'r arfer yn Nhy'r Arglwyddi, ni chafwyd mwyafrif o blaid ail ddarlleniad y mesur. O'r meinciau Llafur, dywedodd yr Arglwydd Cledwyn yn ei ffordd nodweddiadol, wrth gefnogi'r mesur, “Cefais y pleser o adnabod taid y bonheddig Arglwydd a hanai o Sir Fôn.” Yr oedd Evans wrth ei fodd yn Nhy'r Arglwyddi; yr oedd y wleidyddiaeth a'r dadleuon yn fwy gwaraidd na'r cyfnewidiadau crafog a brofodd ym myd gwleidyddiaeth leol. Dyn hoffus ac adnabyddus oedd Evans ymhlith y Blaid Ryddfrydol, a'i hetholodd yn Is-lywydd 1979-86 ac yn Llywydd 1986-87.

Heblaw ei waith gwleidyddol a phroffesiynol, yr oedd Evans yn weithgar mewn amryw o swyddi gwirfoddol ar Lannau Mersi: rheolwr ar Ysgol Penbedw 1974-78 ac o 1988 ymlaen; aelod o lys Prifysgol Lerpwl 1977-83; cadeirydd Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Penbedw 1964-73; cadeirydd Cymdeithas Abbeyfield, Penbedw, 1970-74; a chadeirydd Cymdeithas Ginio Lerpwl 1980-81. Ym 1976, sefydlodd Cyfeillion Parc Penbedw a luniwyd gan Joseph Paxton, gan roi iddynt yr arwyddair: “Cadwer yr hyn sydd dda”. Byddai wedi hoffi bod yn gyfarwyddwr ar gwmnïau blaenllaw ond swyddi gyda Marcher Sound Radio a Theledu Granada yn unig a ddaeth i'w ran.

Rhoddodd ei ffrindiau'r enw ' Gruff ' iddo. Dyn mawr ydoedd, yn sefyll allan, gyda'i locsynnau nodweddiadol a'i sbectol drwm du. Llais llefaru cadarn a dwfn oedd ganddo. Gadawodd ei ôl yn Nhy'r Arglwyddi, yn y siambr ac yn gymdeithasol. Gweithiwr caled oedd Evans a fwynhai fwyd a gwinoedd da. Yr oedd yn frwdfrydig dros chwaraeon, gan gynnwys criced, pêl-droed, golff a rygbi. Er hynny, nid oedd chwaraeon yn drech nag argyhoeddiadau gwleidyddol; ymddiswyddodd fel llywydd clwb rygbi Cymreig wedi i'r clwb dderbyn gwahoddiad i chwarae yn Ne Affrig.

Priododd Gruffydd Evans â Moira Elizabeth Rankin ar 28 Mawrth 1956; ganwyd iddynt fab a thair merch. Y diwrnod cyn ei farw, gwyliodd Evans, ar y teledu, dîm Cymru yn curo'r Alban ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd. Bu farw yn ysbyty Murrayfield, Cilgwri, ar 22 Mawrth 1992. Cynhaliwyd ei angladd yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Laird Street cyn corfflosgiad yn Landican ar 26 Mawrth. Chwifiwyd y Ddraig Goch o flaen ei gartref, Sunridge, 69 Bidston Road, Claughton, Penbedw wedi'i farw. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa yn Eglwys St. Saviour, Bidston Road, Oxton ar 23 Ebrill. Gadawodd stad o £371,958.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-09-05

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.