Ganwyd 8 Ebrill 1904 yng Nghaergybi ac fe'i addysgwyd yn Ysgol Sir y dref honno. Graddiodd yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, yn 1927 gydag anrhydedd mewn Lladin; ac ar ôl cychwyn ar gwrs y B.D. ym Mangor symudodd i'r Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth yn 1929 gan gwblhau'r radd honno yn 1931. Parhaodd â'i addysg ddiwinyddol yn Rhydychen wedi ennill Ysgoloriaeth Arbennig Pierce a chofrestrodd yng Nghymdeithas y Santes Catherine. Graddiodd gydag anrhydedd mewn Diwinyddiaeth yn 1933. Dilynodd gwrs i ymbaratoi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg y Bala 1933-4, ac fe'i ordeiniwyd yn weinidog MC i wasanaethu capeli South Beach a Tarsis, Pwllheli (1934-43), ac yna ym Methesda, Gwylfa, a'r Capel Saesneg, Blaenau Ffestiniog (1943-53).
Yn 1953 fe'i apwyntiwyd yn Brifathro ar Goleg Rhagbaratoawl y Bala, a phan drosglwyddwyd y gwaith hwnnw i'r Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth yn 1964 symudodd yntau i fod yn Warden y Coleg ac i fod yn gyfarwyddwr yr adran gyn-ddiwinyddol a'i gydnabod yn ddarlithydd ar yr Ysgrythurau Sanctaidd gan Gyfadran Ddiwinyddol Prifysgol Cymru. Ymddeolodd yn 1976 a symud i Ddinbych i fyw.
Bu'n ddiwyd iawn fel awdur llyfrau safonol ac fel ysgrifennydd a chadeirydd pwyllgorau ei enwad ym meysydd addysg a llenyddiaeth yn arbennig. Cyfrannai golofn wythnosol ar faes llafur oedolion yr ysgol sul i'r Cymro am flynyddoedd. Lluniodd ddwy gyfrol a daflodd lawer o oleuni ar hanes Cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, sef cofiant i un a hannai fel yntau o Gaergybi ac a fu hefyd yn athro yng Ngholegau Diwinyddol Aberystwyth a'r Bala, David Williams (1877-1927) (1970), a chyfrol ar hanes y frwydr rhwng y ddau ryfel byd i lunio Datganiad Byr ar Ffydd a Buchedd Eglwys Bresbyteraidd Cymru (1971), sef pwnc ei Ddarlith Davies yn 1969. Yn ogystal lluniodd Esboniad safonol ar Efengyl Ioan a gyhoeddwyd mewn dwy gyfrol yn 1956 a 1957. Cyfrannodd hefyd bennod ar 'Y Dadleuon Diwinyddol (1763-1814)' i'r ail gyfrol o Hanes Methodistiaeth Galfinaidd Cymru (1978) a golygodd gyfrol ar Hanes Henaduriaeth Dyffryn Clwyd (1986).
Priododd Anita Owen, merch John Williams, South Beach, Pwllheli. Bu hi farw 7 Gorffennaf 1993, a bu ef farw yn Llanelwy 21 Ebrill 1995 a chladdwyd ef ym mynwent tref Dinbych.
Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-30
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.