Ganwyd 4 Mai 1877 yng Nghaergybi, yn fab i Eliezer ac Elizabeth Williams. Darllenasai ei dad (bu farw 1914), brodor o Sir y Fflint, a oedd yn saer coed ac yn flaenor yn ei eglwys, lawer o ddiwinyddiaeth, ac yr oedd ganddo grap ar Roeg. Cadw siop a wnai'r fam (bu farw 1923). Aeth y mab i ysgolion Caergybi, Biwmaris a Chroesoswallt (tan Owen Owen, 1850 - 1920. Yna aeth i goleg y Brifysgol, Aberystwyth, lle y graddiodd yn 1898 gydag anrhydedd mewn Groeg a Lladin, ac oddi yno i goleg yr Iesu, Rhydychen (gydag ysgoloriaeth), ac ennill yno radd gydag anrhydedd yn y clasuron, Lit. Hum., a diwinyddiaeth. Yn 1903 daeth yn fugail (ordeiniwyd yn 1904) ar eglwys Clifton Street (M.C. Saesneg), Caerdydd, ond yn 1905 penodwyd ef i gadair hanes eglwysig yng ngholeg diwinyddol Trefeca. Pan symudwyd y coleg i Aberystwyth yn 1906, rhoddodd y gadair honno i fyny, a phenodwyd yn athro ar astudiaethau'r Testament Newydd. O 1916 hyd 1918 bu'n gaplan gyda'r Royal Welsh Fusiliers, a gwasanaethodd gyda hwy yn yr Aifft ac ynghanol ymladd ffyrnig ym Mhalesteina. Yr oedd yn eithriadol boblogaidd ymhlith y milwyr, ac yr oedd ganddo ddylanwad mawr arnynt. Er ei fod yn athro ysbrydoledig tra yn Aberystwyth, dywedir na fedrai ddygymod â'r syniad o fod yn athro yn barhaus, gymaint oedd ei awydd am fod yn weinidog. Enillasai fri mawr fel pregethwr, yn Gymraeg a Saesneg, drwy Gymru, a hefyd ymhlith cynulleidfaoedd Cymreig yn America. Dyfarnai'r sawl a oedd yn gymwys mai Thomas Charles Edwards yn unig, o blith y genhadaeth flaenorol o bregethwyr Cymru, a oedd yn debyg iddo yn y modd y cyfunai ysgolheictod ac argyhoeddiad mewn traethu. Yn ddiwinyddol perthynai i'r ysgol fodern, a chyfarfu â pheth gwrthwynebiad mewn rhai cylchoedd ceidwadol, yn enwedig yn ne Cymru. Disgrifiwyd ef fel ' gŵr yr ifanc ', a hefyd (y tro hwn gan ysgrifennwr nad oedd ganddo gysylltiad â'r eglwysi), fel ' hwyrach yr unig bregethwr Cymraeg byw a fedrai ennill disgyblion '. Pan sefydlodd ei enwad gwrs hyfforddiant mewn bugeiliaeth eglwysig yn hen goleg y Methodistiaid Calfinaidd yn y Bala yn 1922, yr oedd yn naturiol i Williams wrthod y cynnig i'w benodi'n ddarpar olynydd i brifathro 'r coleg diwinyddol yn Aberystwyth, a dewis yn hytrach ymuno â'i gyfaill, David Phillips (bu farw 1951), yn y fenter newydd. Bu farw, ar ôl afiechyd hir a phoenus, mewn ysbyty yn Llundain, 12 Gorffennaf 1927, a chladdwyd ef ym mynwent y plwyf yng Nghaergybi ar y 15ed. Priodasai yn 1905, Margaret Catherine Owen o Gaergybi. Bu hi fyw ar ei ôl ef.
Oherwydd ei farwolaeth gynnar ni ddyrchafwyd ef i brif swyddi ei enwad, ond ef oedd ' darlithydd Davies ' yn 1920. Erys ei ddarlith ar ' Yr Efengyl Ysbrydol ' (h.y., gweithiau Ioan) heb ei chyhoeddi. Cyhoeddasai esboniadau ar y Galatiaid a Chorinthiaid II, ac yr oedd yn un o'r cwmni a gyhoeddodd gyfieithiadau Cymraeg diwygiedig o'r Galatiaid a Iago. Pwysicach, fodd bynnag, oedd ei waith fel golygydd cynorthwyol a chyfrannwr i'r Geiriadur Beiblaidd (1924-6), a olygwyd gan Thomas Rees. Ei brif gyfraniadau oedd ei erthygl ar yr Apocalyptig Iddewig, a'r erthygl faith ar yr Iesu hanesyddol.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.