EVANS, ALFRED THOMAS ('Fred', 'Menai') (1914-1987), gwleidydd Llafur

Enw: Alfred Thomas Evans
Ffugenw: Fred, Menai
Dyddiad geni: 1914
Dyddiad marw: 1987
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Llafur
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd ef yn Aberfan ar 24 Chwefror 1914, yn fab i Alfred Evans, glöwr, a'i wraig, Sarah Jane, bydwraig leol. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Bargoed a Choleg Prifysgol Cymru, Caerdydd. Enillodd Evans ei fywoliaeth fel pennaeth yr Adran Saesneg yn Ysgol Ramadeg Bargoed, 1937-49, yna fel prifathro Ysgol Uwchradd Bedlinog, 1949-66, ac wedyn fel prifathro Ysgol Lewis, Pengam, 1966-68. Etholwyd ef yn aelod o Gyngor Dinesig Gelli-gaer, 1948-51, a gwasanaethodd hefyd fel llywydd Plaid Lafur Etholaeth Caerffili. Roedd eisoes wedi sefyll fel ymgeisydd ar ran y Blaid Lafur yn etholaeth Leominster, Swydd Henffordd yn etholiad cyffredinol 1955 ac yn Stroud, swydd Gaerloyw, ym 1959.

Yn etholiadau cyffredinol 1964 a 1966 gweithredodd Fred Evans fel asiant gwleidyddol Ness Edwards, yr Aelod Seneddol Llafur dros Gaerffili, a bu hefyd yn ysgrifennydd trefniadol i blaid Lafur etholaeth Caerffili, 1962-66. Pan fu farw Edwards ym 1968, etholwyd Fred Evans i'r Senedd fel AS dros yr un etholaeth mewn is-etholiad a welodd gwymp syfrdanol ym mwyafrif yr ymgeisydd Llafur o dros 21,000 o bleidleisiau i lai na 2,000 oherwydd sialens rymus ar ran y Dr Phil Williams (Plaid Cymru). Ailetholwyd ef ym 1970 ac ym 1974 (ddwywaith). Yn yr etholiad olaf a ymladdodd, roedd Evans wedi adeiladu ei fwyafrif yno i fwy na 13,000 o bleidleisiau. Profodd i fod yn aelod meinciau cefn ymroddedig a dibynadwy, yn hollol deyrngar i lywodraethau Harold Wilson. Dywedwyd iddo wrthod y cynnig o swydd fel gweinidog gan Harold Wilson er mwyn medru parhau mewn cysylltiad agos a rheolaidd â'i etholwyr. Roedd bob amser yn wyliadwrus o les pobl eraill, gan gynnwys ei gyd-aelodau seneddol. Yn ei farn ef roedd cyflogau aelodau seneddol yn hollol annigonol ac felly anogodd y dylid eu clymu wrth gyflogau graddfa arbennig o fewn y Gwasanaeth Sifil. Gwasanaethodd fel aelod o nifer fawr o bwyllgorau seneddol, gan gynnwys Amcangyfrifon, Gweithredoedd statudol, a gwasanaethodd hefyd fel trysorydd Grŵp Rhyng-seneddol Prydain a'r Almaen ac ysgrifennydd Grŵp Seneddol Eingl-Libiaidd. Etholwyd ef yn gadeirydd ar Bwyllgor Mesurau Seneddol ym 1975 a chadeirydd y Blaid Lafur Seneddol ym 1977. Roedd yn ffyrnig ei wrthwynebiad i ddatganoli. Ymddeolodd o'r senedd yn etholiad cyffredinol 1979. Priododd ar 13 Medi 1939 â Mary Katherine, merch Joseph a Cecilia O'Marah. Bu hi farw o'i flaen ym 1981, a bu iddynt un mab a dwy ferch. Roedd eu cartref yng Nghoedlan Dilwyn, Hengoed. Bu farw Fred Evans yn ei gartref ar 13 Ebrill 1987 ac amlosgwyd ei weddillion yn breifat. Ei olynydd fel AS Llafur dros etholaeth Caerffili oedd Ednyfed Hudson Davies.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-31

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.