FINCH, HAROLD JOSIAH (1898-1979), gwleidydd Llafur

Enw: Harold Josiah Finch
Dyddiad geni: 1898
Dyddiad marw: 1979
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Llafur
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd ef yn y Barri ar 2 Mai 1898, yn fab i Josiah Coleman Finch, arolygwr ar y rheilffyrdd, ac Emmie Keedwell. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol y Barri. Gweithiodd fel clerc i Gwmni Rheilffyrdd y Barri, 1912-19, ac yna fel clerc i Swyddfa Glowyr Ardal Cwm Tredegar. Bu'n ysgrifennydd i Ardal Tredegar o Ffederasiwn Glowyr De Cymru, 1919-34. Bu hefyd yn ysgrifennydd iawndal i Ffederasiwn Glowyr De Cymru, ac yna'n ysgrifennydd i ardal De Cymru o Undeb Cenedlaethol y Glowyr, 1935-50. Gwasanaethodd Finch hefyd yn aelod o Gyngor Dinesig Mynyddislwyn, 1922-33, gan ddod yn gadeirydd arno ym 1932-33.

Etholwyd ef yn AS Llafur dros etholaeth Bedwellte, fel olynydd i Syr Charles Edwards, ym 1950, a daliodd i gynrychioli'r etholaeth yn y senedd am yr ugain mlynedd nesaf, gan ymddeol o'r senedd adeg etholiad cyffredinol Mehefin 1970. Roedd yn aelod o Bwyllgor Gwaith Undeb Cenedlaethol y Glowyr, 1951-60, llefarydd yr wrthblaid ar ynni a phŵer, 1959-60, ysgrifennydd Grŵp Seneddol y Glowyr, 1964-66, a gwasanaethodd hefyd yn gadeirydd ar y Blaid Seneddol Gymreig. Bu'n weinidog iau yn y Swyddfa Gymreig, Hydref 1964-Ebrill 1966, gan gydweithio'n ddedwydd gyda James Griffiths, yr Ysgrifennydd Gwladol cyntaf dros Gymru. Roedd Finch hefyd yn llywydd Cymdeithas Goffa Islwyn. Urddwyd ef yn farchog ym 1976.

Priododd ym mis Medi 1922 Gladys, merch Arthur Hinder, a bu iddynt un mab ac un ferch. Roedd cartref y teulu ym Mhontllanfraith, ac yn Llundain bu Finch yn lletya yn 56 Kenwyn Road, Clapham Common. Cyhoeddodd nifer o weithiau ar anafiadau diwydiannol ac ar iawndaliadau. Ym 1972 cyhoeddodd gyfrol fechan o atgofion o dan y teitl Memoirs of a Bedwellty MP. Mae grŵp bychan o'i bapurau yng ngofal Archif Maes Glo De Cymru, Prifysgol Cymru, Abertawe. Bu farw Harold Finch ym 1979. Ei olynydd fel AS Llafur dros Fedwellte oedd Neil Kinnock.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2009-07-27

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.