ganwyd 11 Medi 1918, yn fab i James Miller Gibson-Watt (1875-1929) o Ddoldowlod, ger Llandrindod, sir Faesyfed (Powys) a Marjorie Adela Ricardo. Addysgwyd David Gibson-Watt yn ysgol Eton a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Ym mis Hydref 1939 fe'i comisiynwyd yn is-lefftenant yn y Gwarchodlu Cymreig. Wrth wasanaethu yn yr ymgyrch Affricanaidd yn gadlywydd pedwerydd Cwmni trydydd Bataliwn y Gwarchodlu, daeth dan orchymyn ym mis Mai 1943 i gyfrannu i'r ymosodiad ar dref Hamman-Lif, Tunisia. Er iddo ddioddef clwyfau yn ystod y symud ymlaen, bwriodd Gibson-Watt ati, gan arwain ei ddynion drwy sgarmes beryglus iawn. Dyfarnwyd iddo'r Groes Filitaraidd oherwydd ei ddewrder a'i arweinyddiaeth nodedig. Yn gynnar ym 1944 cyfrannodd i amddiffyniad Monte Cerasola, ger Monte Cassino. Oherwydd ei ymddygiad yn ystod gwrthymosodiad llwyddiannus ar 9 Chwefror, dyfarnwyd iddo Far ar ei Groes Filitaraidd. Ddeufis ar ôl hynny, ef oedd arweinydd y pedwerydd Cwmni mewn ymosodiad ar draws yr afon Po. Dyfarnwyd iddo ail Far am ei arweinyddiaeth ysbrydoledig a'i ddewrder a oedd bron â bod yn rhyfygus. Dyrchafwyd ef yn Uwch-gapten ac fe'i penodwyd yn hyfforddwr yn Sandhurst cyn iddo adael y fyddin ym 1946.
Wedi dychwelyd i Ddoldowlod, fe'i hetholwyd i Gyngor Sir Maesyfed a dewiswyd ef yn ymgeisydd Ceidwadol dros etholaeth seneddol Brycheiniog a Maesyfed. Pe na byddai ond Tudor Watkins, yr ymgeisydd Llafur, ac ef yn cystadlu, buasai gan Gibson-Watt siawns go dda i ennill yn Etholiad Cyffredinol 1950, ond gydag ymddangosiad Rhyddfrydwr Annibynnol cafodd Watkins fwyafrif bach. Dim ond Watkins a Gibson-Watt oedd yn sefyll yn Etholiad Cyffredinol 1951. Watkins a enillodd unwaith eto, ond â'i fwyafrif wedi ei leihau ychydig. Gyda phenodiad J. P. L. Thomas ym 1956 yn Brif Arglwydd y Morlys gyda'r teitl Is-iarll Cilcennin , dewiswyd Gibson-Watt yn ymgeisydd yn is-etholiad seneddol swydd Henffordd ar 15 Chwefror 1956 a chadwodd y sedd i'r Ceidwadwyr gyda mwyafrif wedi'i leihau.
Ymhen ychydig fisoedd, penodwyd ef i swydd yn y llywodraeth, ond yn ddidâl, yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Julian Amery, yr Is-ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel a hefyd yn Is-chwip. Ym mis Hydref 1959 penodwyd ef yn Chwip ar ran y llywodraeth, ond ymddiswyddodd ar ddiwedd Tachwedd 1961, nid oherwydd ei fod yn annheyrngar i'r Prif Weinidog ond oherwydd ei awydd i fod yn fwy gweithgar ar y meinciau cefn. Am ychydig amser a thros dro, gweithredodd yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Harold Macmillan, yn ystod cyfnod Anthony Barber yn yr ysbyty. O 1962 hyd 1964, yr oedd Gibson-Watt yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Reginald Maudling, Canghellor y Trysorlys. Gyda gyrru'r Ceidwadwyr yn wrthblaid ym 1964, penodwyd Gibson-Watt yn llefarydd y fainc flaen ar Adran y Postfeistr Cyffredinol ac ar Gymru. Yn rhinwedd y swydd hon aeth yng nghwmni Edward Heath i'r arwisgiad yng Nghaernarfon ym 1969. Arosasant ar fad hwylio mawr o'r enw Melissa, o eiddo aelod seneddol Torïaidd cefnog, a angorwyd ym mae Caernarfon dros yr achlysur.
Wedi i Edward Heath ffurfio llywodraeth ym 1970, ni chafodd Gibson-Watt sedd yn y cabinet ond fe'i hapwyntiwyd yn Weinidog Gwladol yn y Swyddfa Gymreig lle yr oedd Peter Thomas, a oedd newydd ei ethol, yn Ysgrifennydd Gwladol. Er nad oedd Gibson-Watt o blaid datganoli, derbyniodd fod y Swyddfa Gymreig bellach yn rhan barhaol o'r llywodraeth. Un o'i orchwylion oedd bod yn gadeirydd ar y Pwyllgor Mawr Cymreig, lle ceisiodd aelodau Llafur, yr oedd yn gas ganddynt ei gefndir, foddi ei lais. Serch hynny, llwyddodd i gael gwrandawiad oherwydd cryfder ei lais mawr, atseiniol. Cafodd Gibson-Watt lawfeddygaeth tua diwedd llywodraeth Heath a barodd iddo benderfynu peidio â sefyll yn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Hydref 1974. Gan ei fod yn ymfalchïo'n fawr yn llwyddiant y Ceidwadwyr yng Nghymru, ymatebodd yn finiog wrth i record ei blaid rhwng 1970 a 1974 gael ei farnu. Mewn llythyr i'r Times ar 11 Mehefin 1975, fe dynnodd sylw at benderfyniad llywodraeth Heath i ddileu Bwrdd Datblygu Cefn Gwlad Canolbarth Cymru; at achub cymoedd Senni a Dulais rhag eu boddi; at sefydlu pwyllgor ymgynghorol yr iaith Gymraeg, at symud addysg gynradd ac eilradd dan awdurdod y Swyddfa Gymreig, ac at gynhyrchu'r adroddiad cyntaf ar anifeiliaid crwydr yng nghymoedd De Cymru.
Fel tirfeddiannwr yng Nghanolbarth Cymru yn berchen ar fuches nodedig o Wartheg Duon Cymreig, ymddiddorai'n fawr ym materion ffermio a'r tir; gwasanaethodd yn gadeirydd Cyngor Allforio Anifeiliaid 1962-1964. Wedi'i ymddeoliad o fyd gwleidyddiaeth, ymroes i faterion gwledig. Bu'n Gomisiynydd Coedwigoedd 1976-1986, yn gadeirydd Cynhyrchwyr Coed y Deyrnas Unedig 1989-1990 ac yn Llywydd 1993-1998; Llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 1976; ac yn gadeirydd gweithgar a chefnogol arni 1977-1994. O 1975 hyd 1979 bu'n aelod o Gyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru. Dychwelodd, am ychydig, i wleidyddiaeth, i gadair yr ymgyrch “Dim Cynulliad” a oedd yn dadlau dros bleidlais 'Na' yn etholiad refferendwm datganoli 1 Mawrth 1979. Yn Rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines ar 26 Mehefin 1979, fe'i crëwyd yn Arglwydd am Oes gan ddal y teitl Barwn Gibson-Watt, o Afon Gwy yn rhanbarth Maesyfed. Pwnc ei araith gyntaf yn Nhy'r Arglwyddi, fel yn Nhŷ'r Cyffredin ddeng mlynedd ar hugain yn gynharach, oedd coedwigaeth. Penodwyd Gibson-Watt yn Gadeirydd Cyngor y Tribiwnlysoedd gan yr Arglwydd Hailsham, yr Arglwydd Ganghellor. Bu yn y swydd honno o 1980 hyd 1986.
Dyn tal (6'4"), golygus oedd David Gibson-Watt. Yr oedd yn cynrychioli traddodiad hŷn o wasanaeth cyhoeddus ac enillodd enw da iddo'i hun fel 'y dyn mwyaf gonest a theg mewn gwleidyddiaeth'. Er gwaethaf y galwadau eangach arno, gwasanaethodd sir Faesyfed yn Ynad Heddwch yn Rhaeadr Gwy nes cyrraedd oed ymddeol yn 70 mlwydd oed.
Priododd â Diana Hambro, ail ferch Syr Charles Hambro, Cadeirydd Banc Hambro's Cyf., 10 Ionawr 1942. Ganwyd iddynt dri mab a dwy ferch; bu farw'r mab hynaf, Jamie, 24 Hydref 1946 yn dair blwydd oed. Bu farw Diana Gibson-Watt ym mis Awst 2000. Bu farw'r Arglwydd Gibson-Watt yn Noldowlod 7 Chwefror 2002; yr oedd ei angladd yn hollol breifat i'r teulu ond cynhaliwyd cyfarfod coffa iddo yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandrindod ar 27 Ebrill. Gadawodd stad o £4,104,505. Ymfalchïai David Gibson-Watt yn y ffaith ei fod yn un o ddisgynyddion y peiriannydd enwog, James Watt a oedd wedi prynu Doldowlod yn gartref haf ym 1798. Rhoddodd Gibson-Watt gynhorthwy i'r ymchwilwyr a ddymunai archwilio'r casgliad mawr o archifau a gwrthrychau Watt a oedd ym meddiant y teulu. Gwerthodd y llawysgrifau i Lyfrgell Ganolog Birmingham ym 1994 a gweddill y casgliad yn 2003.
Dyddiad cyhoeddi: 2008-10-22
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.