Ganwyd Aubrey R. Johnson yn Leamington Spa ar 23 Ebrill 1901, yr ieuengaf o bump o fechgyn y Parchg. Frances Johnson a'i wraig Beatrice May (née Bebb). Gweinidog gyda'r Bedyddwyr oedd ei dad, fel ei dad yntau o'i flaen. Dioddefai ei frawd hynaf, Frank, yn ddrwg o epilepsi ond bechgyn iach oedd ei frodyr eraill, Benjamin, Stanley, Harry ac Aubrey. Er hynny, dioddefai ei dad o'r ddarfodedigaeth a bu'n rhaid iddo ymddiswyddo o'i waith fel gweinidog pan nad oedd Aubrey ond yn ddwy oed. Trefnodd aelodau hael yr eglwys yn Leamington fod eu gweinidog yn cael cartref yn West Malvern, ond o fewn dwy flynedd bu farw'r tad a symudodd y teulu i Gasnewydd i fod yn agos at chwaer Beatrice Johnson. Yno cadwai'r weddw lety er mwyn cynnal ei theulu ifanc.
Addysgwyd Aubrey Johnson mewn ysgol elfennol yng Nghasnewydd lle'r enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Ganolradd Casnewydd i Fechgyn yn y dref. Yn bymtheg oed llwyddodd yn arholiadau tystysgrif Senior y Bwrdd Canol Cymreig ond erbyn hynny, roedd cyflwr iechyd ei frawd Frank wedi dirywio tra bod ei frodyr eraill o oedran milwrol ac wedi eu galw i'r Rhyfel Byd Cyntaf. Ar Aubrey, felly, y disgynnodd y cyfrifoldeb o gynnal y teulu. Cafodd ei waith cyntaf ym musnes marchnata ŷd ei ewythr, ond pan fu farw ei ewythr yn sydyn cafodd ei gyflogi gan Uned Cyllid Adran Addysg Cyngor Bwrdeistref Casnewydd. Tra oedd yno, fe'i denwyd gan y syniad o fod yn athro a rhwng 1919 a 1922 gweithiodd fel athro ar brawf wrth astudio ar gyfer yr arholiadau matriciwleiddio. Erbyn 1922 teimlai ei fod yn cael ei alw i waith cenhadol, yn arbennig fel hyfforddwr gweinidogion brodorol. Er mwyn iddo fedru gwneud hyn, talodd cyfeilles i'r teulu iddo fynd i Goleg Coffa Trefeca, ysgol ragbaratoawl i ddarpar weinidogion a gynhelid gan Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd ger Talgarth, sir Frycheiniog, ac yno y dechreuodd ymddiddori mewn ysgolheictod. Wedi iddo fatriciwleiddio yn Nhrefeca, symudodd yn 1924 i Goleg y Bedyddwyr, Caerdydd, gan gofrestru'n fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru a Mynwy, Caerdydd. Graddiodd yn 1928 gyda Dosbarth Cyntaf mewn Hebraeg, ond oherwydd salwch a marwolaeth sydyn ei fam, a'r pwysau arno ef i ofalu am ei frawd hynaf, bu'n rhaid iddo gefnu ar y bwriad o dreulio blwyddyn ychwanegol yn darllen am radd mewn Groeg Clasurol.
Pan oedd yn bosibl iddo barhau â'i astudiaethau yn y Brifysgol, derbyniodd ysgoloriaeth i wneud gwaith ymchwil yng Nghaerdydd a Choleg y Brenin, Llundain, o dan yr Athro Theodore H. Robinson. Dyfarnwyd gradd Ph.D. Cymru iddo yn 1931 am draethawd 'An Investigation of the Problem of Greek Influence upon the Religious Thought of Judaism in the Hellenistic Age'. Gwnaethpwyd ef hefyd yn Gymrawd Prifysgol Cymru a'i gwnaeth hi'n bosibl iddo barhau â'i ymchwil ym Mhrifysgolion Rhydychen a Halle-Wittenberg, lle daeth o dan ddylanwad yr Athro Otto Eissfeldt. Testun ei ymchwil oedd 'The Psychological Implications of Hebrew Grammar'. Yn 1934 olynodd H. H. Rowley (ei dad-yng-nghyfraith mewn blynyddoedd i ddod) fel darlithydd cynorthwyol yng Nghyfadran Astudiaethau Semitaidd Coleg Caerdydd, gan gael ei ddyrchafu'n ddarlithydd yn fuan wedi hynny. Treuliodd haf 1937 yn Jerwsalem yn dysgu Hebraeg modern ac Arabeg ac yn creu cysylltiadau agos iawn â'r Ysgol Archaeoleg Brydeinig yno. Yn 1944, pan ymddeolodd T. H. Robinson, penodwyd Aubrey Johnson yn Athro Ieithoedd Semitaidd Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd - swydd a lanwodd tan ei ymddeoliad yn 1966. Un o'i benderfyniadau cyntaf fel pennaeth Adran Astudiaethau Semitaidd oedd ymateb i alwad Deddf Addysg 1944 am arbenigwyr mewn Astudiaethau Crefyddol ar gyfer yr ysgolion. Sefydlodd radd mewn Astudiaethau Beiblaidd, ochr yn ochr â'r radd yn yr ieithoedd Beiblaidd.
Yn 1947, yng Nghapel y Bedyddwyr, Fallowfield, Manceinion, priododd Winifred Mary Rowley, merch yr Athro H. H. Rowley, Manceinion. Ganwyd iddynt ddwy ferch, Janet Mary a Susan Elizabeth.
Nid oedd llwyddiant academaidd Aubrey Johnson yn caniatáu iddo anghofio iddo gael ei dderbyn fel ymgeisydd am y Weinidogaeth yn 1924 ac yn 1941 ychwanegodd at ei gyfrifoldebau yn y brifysgol drwy gael ei ordeinio a'i sefydlu'n weinidog eglwys hynafol y Bedyddwyr yng Nghroes-y-parc ym Mro Morgannwg. Cyn hir byddai ei swydd yn y brifysgol yn ei rhwystro rhag parhau gyda gofal bugeiliol fel gweinidog, ond parhaodd i wasanaethu eglwysi bach drwy fynd allan i bregethu yn ddidâl ar y Sul. Ysgogodd ei ddiddordeb yn y Weinidogaeth Fugeiliol ef i gynorthwyo gyda sefydlu Ysgol Ddiwinyddol yng Nghaerdydd yn cynnwys y Brifysgol a Choleg y Bedyddwyr ynghyd â Choleg Mihangel Sant, Llandâf (a ymunodd yn 1958). Yr oedd hefyd yn gysylltiedig â sefydlu yn 1963 y Ganolfan Golegol Ddiwinyddol a arbenigai mewn Diwinyddiaeth Fugeiliol. Treuliodd dymor fel Deon y Gyfadran Ddiwinyddol yng Nghaerdydd a thymor pellach fel Deon a Chadeirydd cyfadran Ddiwinyddol Prifysgol Cymru o 1952 hyd 1955.
Dechreuwyd cyhoeddi gwaith Aubrey Johnson pan nad oedd ond yn ddarlithydd cynorthwyol. Yn Ionawr 1935, ar fyr rybudd oherwydd methiant un siaradwr i gadw'i gyhoeddiad, galwyd arno i annerch cyfarfod o Gymdeithas Astudiaethau'r Hen Destament (The Society for Old Testament Study) a daeth i sylw'r byd academaidd gyda'i bapur ar 'The Prophet in Israelite Worship' - papur a gyhoeddwyd yn The Expository Times. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno ymddangosodd traethawd o'i eiddo, 'The Role of the King in the Jerusalem Cultus', mewn llyfr The Labyrinth: Further Studies in the Relation between Myth and Ritual in the Ancient World (1935) - cyfrol a olygwyd gan S. H. Hooke. Canolbwyntiai'r ddau bapur hyn ar ddau o'r tri phwnc a fyddai'n feysydd ei brif waith academaidd: statws crefyddol a rôl cwltaidd y brenin yn Israel ynghyd â natur a swyddogaeth y proffwyd cwltaidd yn yr Hen Destament. Mae ei draethodau ar y cyntaf o'r ddau bwnc yn cynnwys ysgrifau yn The Expository Times (1950-51) ac mewn casgliad arall o ysgrifau o dan olygyddiaeth Hooke, Myth, Ritual, and Kingship: Essays on the Theory and Practice of Kingship in the Ancient Near East and Israel (1958) ynghyd â'i ddarlithoedd Haskell ei hun a gyhoeddwyd o dan y teitl Sacral Kingship in Ancient Israel (1958) gyda diweddariad yn cael ei gyhoeddi yn 1967. Ehangwyd ei astudiaeth o'r proffwyd cwltaidd yn ei gyfrol The Cultic Prophet in Ancient Israel (1944; fersiwn diwygiedig 1961) a The Cultic Prophet and Israel's Psalmody (1979) - gyda'i arbenigedd yn y Salmau yn dod i'r amlwg yn gyntaf mewn traethawd 'The Psalms' a gyhoeddwyd yn The Old Testament and Modern Study (1951), cyfrol a olygwyd gan ei dad-yng-nghyfraith, H. H. Rowley.
Ffocws arall ei waith oedd dealltwriaeth yr Hen Destament o'r unigolyn a'r gymdeithas. Dyma bwnc ei gyfrolau The One and the Many in the Israelite Conception of God (1942; fersiwn diwygiedig 1961) a The Vitality of the Individual in the Thought of Ancient Israel (1949; fersiwn diwygiedig 1964).
Oherwydd rhagoriaeth ei waith academaidd, cynigodd nifer o brifysgolion enwog (gan gynnwys Rhydychen) gadair i Aubrey Johnson, ond ni pheidiodd ei deyrngarwch i Gaerdydd. Ac eto, wedi iddo ymddeol, yn 1979 gwrthododd ymgais Prifysgol Cymru i'w anrhydeddu â gradd D.D. er mwyn cydnabod er gyfraniad i'r Brifysgol a'i rhagoriaeth rhyngwladol. Eglurodd mai cefnogaeth y Brifysgol a roddodd gyfle iddo i wneud unrhyw gyfraniad a wnaeth. Gwrthododd, hefyd, ganiatâd i'w gyfeillion drefnu Festschrift i'w anrhydeddu. Er hynny, derbyniodd Gymrodoriaeth Coleg y Brifysgol Caerdydd yn 1981, ac ar ôl ei farw sefydlodd ei gyn-fyfyrwyr gronfa i'w goffau, The Aubrey Johnson Memorial Fund, gyda'r diben o gynorthwyo myfyrwyr ôl-raddedig.
Gwasanaethodd fel aelod o banel cyfieithu Hen Destament y New English Bible am nifer o flynyddoedd. Yn 1948 traddododd Ddarlithoedd Haskell yn Oberlin, Ohio, a Darlithoedd Gunning yng Nghaeredin yn 1966. Bu hefyd yn ddarlithydd gwadd yn Louvain, Oslo a Marburg. Dyfarnodd Prifysgol Caeredin radd D.D., er anrhydedd, iddo yn 1952 tra bod Prifysgolion Marburg (1963) ac Uppsala (1968) ill dau wedi dyfarnu gradd D. Theol., er anrhydedd iddo. Etholwyd ef yn Gymrawd o'r Academy Brydeinig yn 1951 a gwasanaethodd fel Llywydd Cymdeithas Astudiaethau'r Hen Destament yn 1956. Dyfarnwyd iddo Fedal Burkitt am Astudiaethau Beiblaidd yn 1961.
Ar ei ymddeoliad yn 1966, symudodd Aubrey Johnson a'i deulu i fyw yn Wotton-under-Edge, Swydd Gaerloyw a bu farw yn 84 oed yn ysbyty Caerloyw 29 Medi 1985.
Dyddiad cyhoeddi: 2009-08-21
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.